‘Gallwn roi dau beth pwysig i’n plant: un yw gwreiddiau a’r llall yw adenydd’

image

 

 

 

 

 

 

Archif Newyddion


15.10.21 Cyngor Ysgol Newydd

Aelodau’r Cyngor Ysgol wedi gwirioni derbyn eu bathodynnau pwysig heddiw!

  • Cyngor Ysgol
  • Batho Badges

11.02.21 Dilyn yr Enfys

Mae gennym ychydig o gopïau o’r llyfryn teithiau cerdded ‘Dilyn yr Enfys’ ar ôl. Cysylltwch â’r ysgol os hoffech archebu copi

01758 750600.

Pris £8

llyfr

17.12.20 - NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA!

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn!

Bydd yr ysgol yn ail-agor ar ddydd Mawrth, Ionawr 5ed 2021.

Nadolig Llawen


09.09.20 - Clwb Ceiri wedi ail gychwyn wythnos yma! Bob prynhawn 3:30 - 5:30pm.

Clwb ar ol Ysgol
Bob prynhawn 3:30 - 5:30yp
Talu ac archebu lle o flaen llaw drwy wefan Cyngor Gwynedd neu’r app School Gateway.
£2.00 bob hanner awr
Yn cynnwys lluniaeth a diod.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Clwb Ceiri

 

Poster Clwb Ceiri

 

09.09.20 - Mi fydd Cylch Meithrin Pentreuchaf yn ail-agor

Newyddion da! Mi fydd Cylch Meithrin Pentreuchaf yn ail-agor wedi’r cyfnod clo ar ddydd Llun, Medi 21ain rhwng 1:30 - 3.30 yn y prynhawn

Mae gan y Cylch bolisi Covid 19 yn ei le er mwyn sicrhau diogelwch y plant a chael o ddau staff. Mi fydd y staff yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol ac mi fydd glanhau trylwyr yn cymryd lle yn ystod a cyn enwedig ar ôl bob sesiwn. Mi fydd pob plentyn yn cael bocs o adnoddau ei hunain, megis adnoddau gwaith celf ac ati....

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ail-agor Cylch Meithrin

 

Poster trefniadau cychwynnol o ran ail-agor yr Cylch


26.08.20 - Trefniadau cychwynnol o ran ail-agor yr ysgol wythnos nesaf

Oherwydd yr sefyllfa Covid, bydd yr ysgol yn cychwyn gyda blynyddoedd penodol o blant ar y tro, gyda phawb yn ol yn yr ysgol erbyn medi 14eg.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am trefniadau cychwynnol

Trefniadau cychwynnol o ran ail-agor yr ysgol wythnos nesaf


12.08.20 - Hysbyseb Swydd: Cymhorthydd Cylch Meithrin

Oriau: Dydd Llun i Dydd Gwener 1:15yp - 3:45yp (gyda'r posibilrwydd o fwy o oriau)

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Medi 4ydd, 2020

Am fanylion lawn cysylltwch â Julie Davies ar 07918 165130 neu juliedavies0873@gmail.com

Cliciwch yma i weld y poster Hysbyseb Swydd

Hysbyseb Swydd: Cymhorthydd Cylch Meithrin


22.06.20 - PWYSIG Canllawiau i Rieni / Gwarchodwyr - Ail-agor ar 29ain o Fehefin

Gweler isod wybodaeth bwysig ynglyn ac ail-agor yr ysgol yn rhannol ar Fehefin 29ain. Mae'n RHAID darllen y canllawiau yn ofalus cyn i'ch plentyn / plant fynychu'r ysgol.

Os nad ydych yn weithiwr allweddol sydd angen darpariaeth gofal brys, byddwn yn anelu i'ch plentyn fynychu'r ysgol ddwywaith ar y mwyaf cyn gwyliau'r haf, os ydych yn dymuno.

Mae croeso i chi ffonio neu e-bostio'r ysgol gydag unrhyw ymholiad.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth gyda'r trefniadau.

Canllawiau i Rieni / Gwarchodwyr - Ail-agor ar 29ain o Fehefin - cliciwch yma


24.03.20 - Llythyr i rhieni

Annwyl rieni,

Gobeithio eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

Er bod llwyfanau Google Classroom a phecynnau gwaith ar gael i chi, does dim disgwyl na rheidrwydd i chi cyflawni bob dim. Ni fydd yr athrawon yn edrych ar y gwaith. Mae hi’n ddigon anodi’r rhai ohonoch sy’n trio gweithio o gartref a chynnal y plant drwy’r dydd heb sôn am eu haddysgu, bwydo, sicrhau eu bod yn golchi dwylo ar ben bob dim arall!

Mae’n hawdd iawn teimlo’r straen ac yn fethiant pan ydych yn gweld yr hyn mae rhieni eraill yn ei wneud gyda’u plant ar y gwefannau cymdeithasol, ac er eu bod yn trio helpu drwy rannu syniadau, mae’n wir i ddweud fod sefyllfa bob teulu yn wahanol a gall hyn godi pryder i nifer ohonom.

Felly, plîs treuliwch amser gyda’ch plant yn chwarae, lliwio, coginio, mynd am dro (unwaith y dydd gan gadw at ganllawiau’r llywodraeth). Mae’n gyfnod anodd iawn i deuluoedd. Lles ac iechyd meddyliol a chorfforol ydi’r peth pwysicaf oll yn ystod y cyfnod hwn.

Cadwch yn saff a chofiwch gysylltu â mi os ydych angen cymorth neu hyd yn oed jest am sgwrs!

Cofion atoch

Gethin


 

22.10.19 Cwricwlwm Newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn dilyn arolwg annibynnol o drefniadau’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.

Wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

  • 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
  • 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
  • deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,)
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).

Mwy o wybodaeth yma:

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd e...


02.05.19 Sunny Portal Info Report for PV System

Ysgol Pentreuchaf Ebrill 2019 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


23.04.19 Pasg 2019


02.04.19 Sunny Portal Info Report for PV System

Ysgol Pentreuchaf Mawrth 2019 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


05.12.18 Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Rydym yn falch o gyhoeddi fod yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad bellach wedi datblygu Gwefan i rieni a theuluoedd.

Gwefan ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn - adyach.cymru


29.11.18 Tymor yr Hydref 2018

Meithrin - Mae’r pedwar bach wedi setlo yn daclus iawn i’n plith erbyn hyn.Creoso mawr i Mrs Alaw Roberts atom fel athrawes llanw.

Croesawyd Khethang o Lesotho ar ddechrau’r tymor a chawsom oriau difyr iawn yn ei gwmni yn chwarae gemau traddodiadol ,dysgu can o Lesotho a dysgu mwy am y wlad.Diolch Kethang ac i Rachel a John  am drefnu.
Cafwyd Bore Coffi Macmillan llewyrchyus iawn a diolch o galon am gefnogaeth rhieni a chyfeillion lleol yr ysgol.Roedd gwledd o deisennau bach a mawr wedi cyrraedd yr ysgol fore hwnnw.Rhoddwyd can neu ddwy cyn bwrw ati I fwynhau’r cynnyrch a phaned o goffi.Casglwyd y swm anrhydeddus o £618.46 tuag at elusen MACMILLAN.

Cyfnod Sylfaen - ‘O’r Fferm i’r Fforc’ ydyw thema  dosbarth Mrs Sara Roberts gan bwysleisio gwerth cynnyrch lleol.Cafwyd ymweliad  a Madryn Isaf gyda Nia a Sion yn  Llaethdy Llyn gan weld y daith brosesu.Yna cafwyd ymweliad gan Hufenfa De Arfon i gyflwyno sut i wneud caws gan flasu.Dilynwyd taith y dorth gyda chymroth Becws Glanrhyd.Diolch o galon am eich cynnyrch i’w brofi.Yna,aethpwyd ati i ddefnyddio eu menyn cartref i baratoi cwn poeth gyda selsig blasus lleol gan Oinc Oink,wedi eu gwasgu mewn rols ffres o Fecws Glanrhyd-y cwn poeth gorau erioed gyda chynnyrhch lleol.Daeth Dennis Griffith ,Pentreuchaf gyda Lorraine ,mam Catherine ar ymweliad gyda cheffyl gwedd,Lad.Diolch iddynt am ddangos yr hen ffordd o weithio ar y tir erstalwm.Coronwyd y cyfan gydag ymweliad tractor bach gan fam a thaid Meinir a thractor mawr gan Arwel tad Wil Bryn.Wedi’r holl brofiadau yna braf yw cael dweud fod pob plentyn yn y dosbarth yn gweld pwysigrwydd mewn cynnyrch a r eu stepen drws ac nad oes angen mynd yn bell i’w ffendio!

Adran Iau - Gan mai gwreiddiau ac adennydd yw thema’r adran Iau rydym wedi bod yn ymchwilio I sut oedd pethau erstalwm yn y cartref a’r ysgol.Cafwyd ymweliad a’r hen fwthyn a’r hen ddosbarth ysgol yn Amgueddfa Llanystumdwy gan Fl 3,4,5 a 6.Diolch o galon i Gwenda a John DIlwyn am eu croeso cynnes  ac am fynd a’r plant yn ol mewn blynyddoedd I fywyd tlawd yr hen fwthynac i ddyddiau llym yr hen ddosbarth.Cafodd ambell un y profiad o ddeall cosbau annifyr yr hen sgwlyn ac o weld y Welsh Not a’r gansen!!!Diolch am eu diflaniad!!!

Edrych yn ol - Daeth Mr John Dilwyn Williams yma atom i’r ysgol ddydd Iau cyn y diwrnod dathlu I gyflwyno lluniau a hanesion am yr ysgol a sut yr oedd hi erstalwm yma.Mae  yntau wrth gwrs yn gyn-ddisgybl yma felly roedd yn gallu siarad o brofiad am ei ddyddiau yma.Edrychwn ymlaen I’w ymweliad yn y Gwanwyn pan gawn daith gerdded hanesyddol yn yr ardal.

Cofio Canrif a Deg – Cawsom ddiwrnod i’w gofio yn yr ysgol ddydd Gwener, Tachwedd 9 fed pan wnaethom ail fyw diwrnod  swyddogol agor yr ysgol union 110 o flynyddoedd yn ol i’r diwrnod.Gwnaeth pawb ymdrech i wisgo’n y cyfnod yn ddisgyblion a staff gan dreulio’r bore yn chwarae hen gemau yn y dosbarthiadau.Yna aethpwyd ati  i ffilmio ‘r Bawen Lawen i dynnu sylw at Blant mewn Angen.Yn ystod y prynhawn cafwyd gwledd o ddiod a bara brith fel a gafwyd yn y neuadd yr holl flynyddoedd yn ol.Yn sicr daeth hanes yn fyw i bob un ohonom ar y diwrnod arbennig yma.

Daeth Sioe Twrw Dan a Dicw i ddiddori Bl 3 1,2 a 3 .Cynhyrchiad arbennig am sut i ddelio a gwahanol emosiynau gan Cwmni Theatr Fran Wen.

Bu criw bychan draw i Stiwdio Pant yr Hwch yn ddiweddar i recordio carol arall y flwyddyn hon.Bydd y garol ar Wefan yr Ysgol fis Rhagfyr.Bydd y criw bach yn ei pherfformio yn ein Bore Coffi ac yn ymweld a Hafan Hedd wythnos olaf cyn gwyliau’r Nadolig.

Bydd ein Sioe Nadolig eleni ar y deuddegfed a’r trydydd ar ddeg o Ragfyr pan fydd Band Pwllheli yn ymuno a ni am un noson.Mamamia fydd ein sioe eleni ac edrychwn ymlaen  i ganu’r clasuron yn Gymraeg!!

Cofwich gysylltu os bydd angen calendr arnoch.Bydd Calendr arbennig yn cael ei argraffu gydaq lluniau’r holl disgyblion  o dan ei fis penblwydd.Cysylltwch a’r ysgol os oes gennych ddiddordeb!!

Byddwn yn mwynhau ein cinio Nadolig  eleni ar yr 19 a 20 fed o Ragfyr a charwn ddiolch rhag blaen I Anti Sharon ac Anti Ann fydd wedi paratoi ar ein cyfer.

Casglwyd 67 o focsys Nadolig eleni ac maent wedi mynd am Romania.Edrychwch allan ar raglan arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol’ ac efallai gwelwch chi rai o’n bocsys.Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Fel plant a staff dymunwn Nadolig Llawen iawn i gyfeillion , rhieni a llywodraethwyr yr ysgol  a holl ddarllenwyr y Llanw!


04.09.18 Sunny Portal Info Report for PV System

Ysgol Pentreuchaf Awst 2018 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


plant

Ioga- Mae gennym iogis bach heini ac ystwyth iawn yn y dosbarth meithrin a derbyn erbyn hyn.Maent yn edrych ymlaen am eu sesiwn wythnosol o ioga'n fawr iawn. Staff ac a disgyblion Pentreuchaf wedi mwynhau cyd-weithio gydag Ysgol Abererch ar gynllun newydd er mwyn hybu sgiliau llafaredd, gwrando a chanolbwyntio


Dawns i Bawb - Croesawn Eirian yn ôl atom i weithio ar ddawnsfeydd "Y Dinosoriaid Byw ac Iach" gyda'r Cyfnod Sylfaen y tro hwn.Rydym yn edrych ymlaen i weld y perfformiadau ar y diwedd.


plant

Gala Nofio-Llongyfarchiadau i dimau ac unigolion ar eu llwyddiant yn y Gala Nofio diweddar. Llwyddwyd i ennill y trydydd safle eleni.


plant

Taith Breswyl Plas Menai-Cafodd criw o Flwyddyn 4 amser a thywydd bendigedig dros 3 diwrnod ym Mhlas Menai yn dringo,beicio,padlfyrddio a nofio.Diolch yn fawr am gwmni Anti Sophie,Anti Bet,Anti Julie,Jacquie a Magi yn eu tro!


plant

Eisteddfod Y Ffôr - Braf iawn oedd llongyfarch criw o blant a gafodd lwyddiant eto eleni yn Eisteddfod Y Ffôr - sawl un o'r Cyfnod Sylfaen wedi bod yn fuddugol gyda gwaith llaw!


PRIODI! - Dymunwn fel staff,llywodraethwyr,plant a rhieni Ysgol Pentreuchaf yn dda iawn i Miss Sara Jones a Guto.Bydd y ddau yn priodi ddydd Sadwrn,Mai 26.Gobeithio am haul i dywynnu arnoch.Dymuniadau gorau gennym i gyd.


Caerdydd - Bydd criw o Flwyddyn 6 yn teithio i'r brifddinas ddiwedd Mai i ymweld â'r atyniadau a chymdeithasu gydag ysgolion lleol.Cawn yr hanes yn y rhifyn nesaf.


plant

Clwb Digidol ac Addysg Grefyddol - Cynhelir Clwb Ancora yn ystod amser cinio bob dydd Gwener dan arweiniad aelodau Scripture Union Cymru. Mae'r disgyblion yn mwynhau plethu'r ddau fyd er mwyn dysgu mwy am Gristnogaeth.


Cyfeillion-Diolch i griw ffyddlon hen a newydd o gyfeillion yr ysgol.Maent yn brysur iawn yn trefnu taith gerdded a Ffair Haf.Rieni oll, cofiwch am ein Gwyl Hirddydd Haf yng nghlwb Rygbi Efailnewydd ar nos Wener,Gorffennaf 13 .Dewch i gefnogi'r plant a'r ysgol.


plant

Urdd-Carwn fel adran ddiolch o galon i Clare a Stephen ein heddlu rieni am addysgu'r plantos am eu swyddi.Mwynhaodd pawb yn fawr.


plant

Llongyfarchiadau i griw o fechgyn aeth draw i Gaernarfon i chwarae rygbi.Diolch yn fawr i Eilian Jones, Jane Bernad a Colette Evans am eu cefnogi.Mae gem o fingo,ymwelid a'r Orsaf Dan a set Rownd a Rownd i ddod!!!


Cyn-ddisgyblion-Braf yw cael croesawu cyn-ddisgyblion yn ôl atom i gael profiad o fod hefo'r plant a'r staff.Yn ddiweddar mae Lowri Roberts wedi bod yn y dosbarth Cyfnod Sylfaen,Sera Jones yn y pedwar dosbarth,Ceiri Humphreys yn cael profiad o drosglwyddo technoleg Cerdd i grwpiau a Llinos Tyne yn rhoi blas ar yr iaith Ffrangeg i Flwyddyn 5 a 6.Mae'r pedwar yn fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

03.04.18 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf March 2018 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)

01.03.18 Par Trefn Tywydd Garw

plant

Ysgrifennaf atoch er mwyn eich hatgoffa am drefn cau’r ysgol o dan amgylchiadau tywydd garw/ anarferol.

Nid ar chwarae bach y mae gwneud penderfyniad i gau’r ysgol. Gwneir bob ymdrech i gadw’r ysgol ar agor ond rhaid ystyried nifer o ffactorau- iechyd a diogelwch plant a staff a nifer staff sy’n absennol oherwydd effeithiau’r tywydd.

Os yw penderfyniad yn cael ei wneud i gau’r ysgol- yna hysbysir rhieni cyn gynted ag sydd bosib. Bydd e-bost a neges destun i rieni gan y Pennaeth a bydd neges yn cael ei gynnwys ar safwe’r ysgol / Twitter / Facebook a safwe Cyngor Garw.

Gwerthfawrogwn sut y gall cau ysgol effeithio ar rieni- yn enwedig gyda chyfrifoldebau gwarchod plant ac effaith hefyd ar waith. Ceisiwn ein gorau i sicrhau cysondeb a hefyd eich hysbysu cyn gynted ag sydd bosib.

Gwerthfawrogaf eich cydweithrediad.

07.02.18 Canllawiau Talu Ar-Lein

plant

i weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma


02.02.18 DIWRNOD MEWN HYFFORDDIANT

Dim ond nodyn i’ch atgoffa fod Dydd Llun, 19 Chwefror 2018, yn ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) / dim ysgol i blant!


02.02.18 GRAWNWIN

Mae sawl gwaith ymchwil yn dilyn marwolaeth Jasmine Lapsley tra ar wyliau ym Morfa Nefyn ym mis Awst 2014, yn datgan yn gryf peryglon bwyta grawnwin cyfan – yn enwedig i blant. “…Grapes can completely plug a child’s airway, with research suggesting they are third most common cause of death in food-related incidents...Grapes are the third most common cause of death among children who die in food-related choking incidents, and doctors say a lack of awareness among parents, carers and health professionals could be leaving young children at risk…The size and shape of grapes means that they can completely plug children’s airways, with the tight seal produced by fruit’s smooth, flexible surface making them tricky to shift with first aid manoeuvres.”

Wrth edrych ar 3 astudiaeth achos diweddar, maent i gyd yn adrodd hanes plant yn tagu ar rawnwin gyda chanlyniadau difrifol “... In all instances, adults were present, identified the problem quickly and promptly instituted appropriate first aid manoeuvres for the treatment of choking but with no success. In fact, even when these measures were performed by trained ambulance personnel, they were also unsuccessful and all cases required that the grape be removed under direct laryngoscopy, clearly something that requires specialist expertise and equipment…Though we would wholeheartedly support the wide dissemination of the knowledge and skills to promptly identify a choking child and intervene appropriately, prevention is better than cure.”

Er bod y mwyafrif o rieni yn torri’r grawnwin yn llai yn y ffordd briodol, nid yw pawb yn gwneud hyn ac mae’n anodd i ni fel staff fonitro ac atgoffa o hyd, yn enwedig o ystyried y canlyniadau difrifol o lyncu ffrwyth o’r fath.

Felly, rwyf wedi penderfynu gwahardd plant bwyta grawnwin yn yr ysgol yn gyfan gwbl.


02.02.18 BOCSYS BWYD

Daeth yn amlwg yn ddiweddar fod sawl un sy’n derbyn bocs bwyd yn taflu bechdannau neu eitemau eraill o fwyd nad ydynt yn ei hoffi / llawn i’r bin sbwriel. Dwi’n siwr, fel rhieni, buasech yn gwerthfawrogi cael gwybod faint yn union mae’r plant yn ei fwyta amser cinio. Felly, byddwn yn gofyn i’r disgyblion fynd â gweddillion ei bocs bwyd gartref hefo nhw.


02.02.18 GRWPIAU GORAU GLAS

Ers blynyddoedd bellach, mae athrawon yr ysgol yn gallu adnabod anghenion unigolion ac yn rhoi sylw penodol unai yn unigol neu fel rhan o grwp llai gan lunio targedau personol ar eu cyfer. Ond yn ddiweddar, rydym wedi creu system ble rydym yn defnyddio arbenigeddau ein staff amryddawn er mwyn rhoi sylw ychwanegol i ystod o ddisgyblion sydd angen hwb fach gyda’u targedau personol. Gelwir y grwpiau hyn yn ‘Grwpiau Gorau Glas’.

Mae disgyblion sy’n rhan o’r grwpiau yn gallu manteisio ar yr ymyrraeth yma am o leiaf 2/3 gwaith yr wythnos heb amharu ar ei waith / gwaith ar lawr y dosbarth. Yn wir, mae’n cyfoethogi sgiliau’r disgyblion ar lawr y dosbarth ac yn arwain at gynnydd a chodi safonau. Ni oes terfyn amser pan fydd y disgyblion yn rhan o’r grwpiau – gellir fod yn rhan ohono am 6 wythnos neu fwy os oes angen targedu ymhellach.

Nid yw disgyblion sy’n rhan o’r grwpiau o reidrwydd yn ddisgyblion ag anghenion arbennig, ond yn hytrach yn ddisgyblion sydd angen yr hwb ychwanegol er mwyn camu ymlaen yn gynt.

Os oes gennych unrhyw ymholiad neu os ydych yn teimlo buasai eich plentyn chi yn gallu elwa o hwb ychwanegol mewn agwedd arbennig, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda.


02.02.18 GWAITH CARTREF

Yn dilyn eich sylwadau ynglyn â gwaith cartref eich plant, mae staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi ystyried eich ymatebion yn ofalus ac wedi llwyddo i ychwanegu’r isod i bolisi gwaith cartref yr ysgol.

11. Bydd athrawon yn gosod gwaith cartref sillafu, tablau, llawysgrifen, adnabod llythrennau a darllen yn ôl yr angen.

12. Bydd athrawon CA2 yn gosod gwaith cartref drwy gyfrwng meddalwedd ‘Mathletics’ a ‘Spellbound’ yn ôl yr angen.

Hynny yw, bydd mwy o bwyslais ar ddarllen, sillafu, llawysgrifen a dysgu tablau yn ôl yr angen – y pethau sy’n greiddiol i ddatblygiad iaith a mathemategol plentyn. Ond, ar y llaw arall, bydd llai o bwysau gwaith i’r disgybl ac i chi fel rhieni a’r uned deuluol wrth geisio cyflawni gwaith cartref wythnosol.

Drwy wrando ar eich barn chi, rydym wedi ceisio cael y cydbwysedd orau o leihau’r ‘straen’ sydd ohoni yn ein cartrefi wrth geisio cael y plant i gwblhau gwaith cartref, a dyhead sawl un ohonoch sydd eisiau helpu eich plentyn gartref gyda gwaith yr ysgol.

Wrth reswm, yn y cartref, mae’r disgwyliad arnoch chi fel rhieni i helpu eich plentyn ddysgu sillafu, tablau ac yn enwedig i ddarllen yn rheolaidd a darllen stori o bryd i’w gilydd yn parhau. Mae hyn yn allweddol ar gyfer cynnydd academaidd eich plentyn.

Bydd llwyddiant y cynllun gwaith cartref yn ddibynnol ar gydweithrediad effeithlon ysgol/cartref.

Dyma’n wir yw’r pethau sy’n rhoi gwreiddiau ac adenydd i’ch plentyn ar gyfer y dyfodol.

Ond yn bwysicach na chynnydd academaidd, mae lles emosiynol, corfforol, meddyliol a chymdeithasol uwchlaw popeth. Felly, drwy leihau’r swmp o waith sy’n mynd adref, mae polisi gwaith cartref yr ysgol yn eich galluogi i barhau gyda’r pethau pwysig mae’r rhan fwyaf ohonoch yn ei wneud fel teuluoedd. Felly, ewch am dro i draeth Pwllheli, Llanbedrog neu Forfa Nefyn; ewch i goncro mynydd Carnguwch, Yr Eifl neu Garn Fadryn; ewch i grwydro llwybrau lleol newydd yn eich cynefin; ewch i’r parc i redeg, cicio pêl a cholli’ch gwynt; casglwch gregyn, dail a choncyrs yn yr Hydref; ewch i’r ganolfan hamdden ar benwythnos a manteisiwch ar gyfnodau ‘nofio am ddim’; ewch ati i greu model allan o ddeunyddiau wedi’i ail-gylchu a’i pheintio’n lliwiau’r enfys; ewch am dro ar lwybr beics; ewch allan wedi iddi dywyllu i edrych ar ryfeddodau’r sêr; ewch am dro gyda chamera neu ipad i dynnu lluniau natur, adeiladu neu unrhyw beth difyr arall; tynnwch eich plentyn i’ch cesail a mwynhewch lyfr da gyda’ch gilydd; bwytewch gyda’ch gilydd o amgylch y bwrdd gan sgwrsio am bob dim dan haul….


01.02.18 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf January 2018 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


02.01.18 Newyddlen Rhagfyr 2017 - cliciwch yma

01.12.17 Sunny Portal Info Report for PV System: Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Tachwedd 2017 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


01.12.17 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf Tachwedd 2017 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


30.11.17 Ffair Nadolig

Cofiwch am ein Ffair Nadolig yng Nghlwb Rygbi Bodegroes am 6 o’r gloch,Rhagyf 1 af.


30.11.17 Bocsys Nadolig

plant

Diolch i chi fel rhieni a chyfeillion yr ysgol.Casglwyd 72 o focsys Nadolig eleni.Casglodd y plant £118.00 o arian tuag at ‘Blant mewn angen’.


30.11.17 Ymwelwyr

Carwn ddiolch o galon i amryw sydd wedi ymweld a’r ysgol yn ddiweddar.Daeth Ms Catrin Glyn atom i drafod a chyflwyno creaduriaid yr arfordir sydd o’n cwmpas ym Mhen Llyn;Sioned Williams i drafod ei hymweliad a’r Affrig gyda dosbarth Miss Sara Jones;Mr Andrew Settatree i gyflwyno Pel droed Cymru yn ein gwasanaeth a a Mr John Settatree i gyflwyno app addysg grefyddol newydd i Fl 5 a 6.Yr un croeso hefyd i’n hymwelydd rheolaidd P.C Owen.


30.11.17 Croeso mawr i Mrs Alaw Roberts

Croeso mawr i Mrs Alaw Roberts atom fel myfyrwraig TAR. Mae wedi hen setlo yn nosbarth Mrs Fflur Griffith a Bl 5 a 6.


30.11.17 Marathon Eryri

plant

Carwn fel ysgol longyfarch Mr Gethin Thomas ar ei gamp yn cwblhau Marathon Eryri yn ddiweddar.Casglodd swm anrhydeddus o £700 tuag at ddiffibriliwr i giosg Pentreuchaf.Rwy’n siwr y carai pobl y pentref a’r ardal gyfagos ddiolch o galon iddo am gefnogi’r achos teilwng yma.


30.11.17 Urdd

plant

Llongyfarchwn bawb a gymerodd ran yn Ngala Nofio’r Urdd ym Mangor yn ddiweddar.Da iawn chi am gymeryd rhan.
Daeth llwyddiant mawr i Dim Gymnasteg yr Urdd ym Methesda. Maent wedi llwyddo i fynd i’r rownd Genedlaethol yn Aberystwyth fis Chwefror.Diolch i’w hathro gymnasteg!Pob lwc Gethin,Gwion,Morus,Osian,Owain a Nyfain.
Diolch yn fawr i Rachel a John am ddiddori aelodau’r Urdd gyda gemau ac i Huw am ddod i ddweud ei hanes yn rhedeg y Sahara.
Bydd gennym noson Nadoligaidd i orffen y tymor yma cyn cychwyn ar weithgareddau’r eisteddfod a chelf a chrefft y tymor nesaf.
Carai’r ysgol ddymuno Nadolig Llawen iawn i holl ddarllenwyr y Llanw a blwyddyn newydd dda!

03.10.17 Mae Cylch Meithrin Pentreuchaf yn derbyn plant yn 2 oed!

Fel Cylch ac ysgol, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi ichi deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau i'ch plentyn. Yn wir, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn derbyn gofal ac addysg blynyddoedd cynnar heb ei ail yng Nghylch Meithrin Pentreuchaf!

Nod y cylch meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig.

Mae ein plant yn mwynhau dysgu trwy chwarae yn y Cylch. Cymraeg yw iaith y cylch meithrin ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw'r iaith sy'n cael ei siarad yn y cartref.

Mae chwarae yn bwysig i bob agwedd o ddatblygiad plant. Felly, mae'r profiadau a gweithgareddau'r yn y cylch wedi cael eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae pwyslais arbennig ar ddatblygiad iaith, datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yma ym Mhentreuchaf.

Mae croeso cynnes i bob plentyn ddod i'r Cylch waeth beth fo'i liw, hil, dosbarth cymdeithasol, sefyllfa teuluol neu anghenion addysgol. Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i blant gydag anghenion ychwanegol i'w galluogi i ymuno yn holl weithgareddau'r cylch.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01758 750600 neu drwy ebost cylchmeithrinpentreuchaf@gmail.com


07.09.17 Diwrnod Agored Heddlu Gogledd Cymru


Pencadlys Yr Heddlu, Bae Colwyn

Dydd Sadwrn 16/09/17

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


10.07.17 Amserlen Gweithgareddau Haf

plant

Cliciwch yma i weld yr amserlen


28.06.17 Swydd ar gael

Yn eisiau mor fuan â phosib

GLANHAWR a GOFAL

YN YSGOL PENTREUCHAF

I weithio fel rhan bwysig o’r tîm glanhau. Dyletswyddau i gadw ardal benodedig yn lan, ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
14.75 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol.

Tâl GS3 pwynt 9 £7.96 yr awr (£6.68 wedi ei gyfartalu)
Cyflog wythnosol £98.53

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb swydd


04.05.17 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf April 2017 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


03.04.17 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf March 2017 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


Chwaraeon Gwyliau Pasg

plant

I weld y poster - cliciwch yma


Arogleuon Blasus Iawn

Roedd arogleuon blasus iawn ar hyd cynteddau’r ysgol cyn y gwyliau hanner tymor.Mewn un dosbarth roedd cawl cennin a thatws yn cael ei baratoi tra mewn dosbarth arall roedd brecwast iachus ar y fwydlen.Da iawn blantos am gofio bwytaeich llysiau a ffrwythau!


Miss Llio Williams

Croesawn Miss Llio Williams atom i’r ysgol am gyfnodymarfer dysgu yn nosbarth Miss Sara Jones. Gobeithio byddidi yn setlo yn ein plith Llio.


Apps Addysgol Gymraeg

plant

Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn rhan o weithdy er mwyn datblygu a hybu gwell ddefnydd o apps addysgol Gymraeg gan gwmni @atebol.


Menter Llechan Lân

plant

Mae'r gwaith er mwyn hybu sgiliau mentergarwch ein disgyblion yn mynd o nerth i nerth. Yn wir, daeth Ifor ap Glyn at Flwyddyn 5 a 6 er mwyn rhoi arweiniad iddynt ar ysgrifennu hysbyseb drwy farddoniaeth. Bydd yr hysbyseb yn cael ei harddangos i griw o ddynion a merched busnes banc cyfoethog y Salamanca ym Mayfair, Llundain ddiwedd mis Mawrth! Bydd y disgyblion yn rhoi cyflwyniad ar ffurf 'Dragon's Den' i'r banc er mwyn ceisio trafod telerau a nawdd er mwyn datblygu'r fenter yn genedlaethol ac yn rhyngwladol!!


Tim Athletau

plant

Bu tim athletau blwyddyn pump a chwech yr ysgol ynchwysu chwartiau mewn cystadleuaeth Sporthall ym Mhorthmadog yn ddiweddar. Gweithiodd y tim yn dda iawn gan ddod yn bedwerydd. Llongyfarchiadaui chi!


Dewi Pws a’I fanjo

plant

Mwynhaodd pawb gwmni hapus Dewi Pws a’I fanjo. Codwyd y to gyda’i gan newydd i Dewi Sant a chymerodd pawb ei neges o ddifrif nad oedd neb o’r plant i dyfu i fyny!! Diolch i bawb o deulu’r ysgol am eu cefnogaeth i’r Pared er gwaethafy tywydd gwlyb!


Anti Nia a Wendy

plant

Yr wythnos ddilynol daeth Anti Nia a Wendy atom i drafod cyflwr y llygaid ac i ddangos offer syddo gymorth fel y llyfr Braille.Diolch i chithau’ch dwy. Cafwyd gwasanaeth gan Flwyddyn 4 yn actio hanes Louis Braille a’i ddylanwad hyd heddiw.


Croesawyd Buddug Jones

plant

Croesawyd Buddug Jones o Gaernarfon gyda’i chi tywys,Freya i ddosbarthiadau iau yr ysgol.Cafwyd sgyrsiau ac atebion difyr i gwestiynau’r plant am ddallineb ac am y cymorth yr oedd Freya yn ei roi iddi.Diolch o galon am eichamser Buddug a Freya.


O Begwn i begwn

Mae Ionawr wedi hen fynd bellach a chroesawn y mis bach.Cawsom fis cyntaf prysur yn bwrw ati i gychwyn ar ein themau newydd. ‘O Begwn i begwn’ ydyw thema’r Cyfnod Sylfaen tra mae ‘r Adran Iau yn ymchwilio i wahanol ffyrdd o ‘Gyfathrebu’ ar y Ddaear a’r Gofod.


Siarter Iaith

Llongyfarchiadau i holl blant yr ysgol ar ennil gwobr aur y Siarter Iaith .Ein nod yw aros ar yr aur trwy ein holl weithgareddau addysgol ac allgyrsiol-yn yr ysgol a’r gymuned.


Llechan Lan

plant

Mae menter Bl 5 a 6 ,’Llechan Lan’ yn mynd o nerth i nerth.Croesawyd Mrs Bethan Jones Parry i’r dosbarth yn ddiweddar dros Safle Treftadaeth y Byd i drafod y fenter a’i phwysigrwydd.Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill lle bydd gwibdaith go bwysig i werthu cynnyrch y dosbarth.Gwyliwch y gofod!


P.C Owen

plant

Daeth P.C Owen ar ei ymweliad a phob dosbarth i wneud yn siwr ein bod i gyd yn cadw’n saff a diogel mewn amryw o ffyrdd.Diolch P.C Owen.Braf hefyd oedd cael croesawu criw Agor y Llyfr yn ol atom y flwyddyn yma ac edrychwn ymlaen am y straeon trwy ddrama.


Dewi Sant

Bydd croeso mawr i unrhyw blentyn a rhieni ym Mhared Dewi Sant fydd yn digwydd ym Mhwllheli am 11 ar Chwefror 25.Mae’r plantos eisioes yn dysgu’r gan arbennig ar gyfer y diwrnod.


Eisteddfod Cylch yr Urdd

Bydd Eisteddfod Cylch yr Urdd ar Fawrth 4 ydd yn Ysgol Glan y Mor.Mae’r plant eisioes wedi cychwyn ar wahanol gystadlaethau ac yn brysur yn creu celf ar nosweithiau Llun gyda chriw awyddus o rieni.Diolch yn fawr i chi. Hoffwn longyfarch cyn-ddisgybl yn yr ysgol sydd wedi sicrhau lle iddi ei hun yng ngharfan rygbi Merched Cymru.Bydd Morfudd Ifans,Tyddyn Cae yn chwarae dros ei gwlad yn y gemau chwe gwlad yn yr wythnosau nesaf.Pob lwc Mo!

poster

13.12.16 - Diolch

Am fwy o fanylion - cliciwch yma


Ffeil

 


Gwerthu Cynnyrch Llechan Lân yn Hwyl yr Ŵyl, Pwllheli a Gŵyl Fwyd Portmeirion

logo llechan lan
plant
plant
plant

Ar ôl gweithio ar thema “Chwareli” yn y dosbarth ffurfiodd disgyblion Iau Ysgol Pentreuchaf fenter newydd sbon danlli o’r enw “Llechan Lân”.

Mae’r fenter hon gan y plant yn defnyddio llechi o Wynedd i gynhyrchu byrddau gweini caws drwy gydweithio â dau fusnes lleol sef Cwmni Cerrig, Pwllheli a Hufenfa De Arfon.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Mamolaeth

Hoffwn fel ysgol groesawu Anti Llinos i ddosbarth Miss Jones Bl 1 a 2.Bydd Anti Llinos hefo ni dros gyfnod mamolaeth Anti Sophie.Dymunwn yn dda iawn iddi hithau ar ei chyfnod cyffrous!


Ymwelwyr

Croesawodd yr ysgol nifer o ymwelwyr yn ddiweddar yn cynnwys Mrs Nia Williams(a Lewis) gyda’i gwasanaethau bywiog;PC Owen gyda’i gyflwyniadau diddorol;Mr Wyn Owen gyda chyflwyniad i’r plant am bwysigrwydd llenwi bocsys esgidiau(dyddiad cau ar Dachwedd 15 fed os gwelwch yn dda),a’r Brodyr Gregory gyda’u sioe Trefi Taclus oedd yn sioe werth chweil am bwysigrwydd ailgylchu.


Gwasanaeth Diolchgarwch

plant

Cafwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yma yn yr ysgol gyda phob dosbarth wedi paratoi eitemau o ddiolch.Cawsom gwmni Mr Andrew Jones,Eglwys Llannor a fendithiodd y rhoddion cyn eu trosglwyddo i’r Banc Bwyd yn Eglwys Pwllheli.


Ysgol ‘Ffrindiau Dementia’

plant

Yn ddiweddar mae Ysgol Pentreuchaf wedi dod yn Ysgol ‘Ffrindiau Dementia’ ac wedi cael budd mawr o’r prosiect.I roi cychwyn i’r prosiect daeth Cheryl at y dosbarth i roi cyflwyniad a chynnal gweithdy hynod ddiddorol gyda’r plant .Y cam nesaf oedd ymuno yn Niwrnod Agored Uned Hafan,Ysbyty Bryn Beryl,Pwllheli ble cafodd y plant gyfle i ymuno i sgwrsio, canu a hel atgofion .Carwn fel ysgol ddiolch am y croeso a’r profiad gwerthfawr.Yn dilyn cyd-weithio gyda Chwmni ‘r Fran Wen cyn tymor yr Haf bydd y dosbarth yn cael gweld ffrwyth eu llafur mewn darlleniad yn Stiwdio Galeri,Caernarfon o sioe newydd sbon o’r enw ‘Wy,chips a Nain’ fydd yn cael ei pherfformio gan y cwmni yn 2017.Gwyliwch allan!



Ocsiwn

Cawsom noson Ocsiwn lwyddiannus dros ben cyn yr hanner tymor gan gasglu dros dair mil o bunnoedd. Diolchwn o waelod calon i gyfranwyr hael ,i gnewyllyn gweithgar o Gyfeillion yr Ysgol am eu cymorth di-flino ac i gefnogwyr y noson.Yn sicr cawn fudd mawr yn yr ysgol.


Urdd

Rydym eisioes wedi cael sesiwn syniadau,noson Calan Gaeaf a nesaf ar yr amserlen bydd sesiwn ffitrwydd gyda Huw Williams ar nos Lun,Tachwedd 14.


Llanw Llyn

Cofiwch am ein Ocsiwn Addewidion ar Hydref 14 yng NGhlwb Rygbi Pwllheli pan fydd y noson o dan forthwyl medrus Iolo Penllechog!!!


Dymunwn longyfarch pedwar aelod o flwyddyn chwech am eu camp o gael eu dewis fel ysgrifenwyr ifanc fel rhan o Gystadleuaeth Young Writers.Bu’r pedwar yn brysur yn ysgrifennu am anturiaeth yn Saesneg.Mae gwaith y pedwar yn cael eu cyhoeddi mewn llyfryn arbennig fis Tachwedd.Anrheg Nadolig da!!!


Braf yw cael datgan fod gennym Gyngor Ysgol newydd sbon danlli wedi eu hethol.Er fod gennym aelodau gweithgar ymhob dosbarth-dyma’r etholedig rai o’r dosbarth hynaf:
Cadeirydd-Aaron Read
Ysgrifennydd-Abbey Wilkinson
Trysorydd-Math Gwilym Hughes
Ffotograffydd-Morgan D Jones


Cawsom groesawu Mr Geraint Williams a’i dylluanod i’r Adran Iau ar bnawn Gwener.Cawsom holi a chwestiynu ac arsylwi ar y creaduriaid hynod.


Cafodd yr ysgol ymwelydd tra gwahanol yn ystod fis Medi pan gyrhaeddodd yr ysgol ar bara-fodur!!!!Mae’r Adran Iau yn dilyn y thema Hedfan a buodd Anti Catrin yn slei bach yn cynllunio cyrhaeddiad y gleidar.Cewch fwy o hanes y mis nesaf pan fydd un o’r plant wedi ysgrifennu adroddiad arbennig am y digwyddiad cyffrous!!


plant

Bu dosbarth Miss Jones am drip i’r Amgueddfa Lechi ac i’r Mynydd Gwefru i ddilyn eu thema ‘Goleuni’.Cafodd y plant brofiadau da iawn gan fwynhau.



Estynwn ein llongyfarchiadau i griw o ddarllenwyr ifanc yr ysgol a gwblhaodd Sialens Ddarllen dros yr Haf.Go dda chi yn cefnogi’r Llyfrgell ym Mhwllheli a chael blas ar lyfrau.


Croeso cynnes i bawb yn ol i’r ysgol wedi’r gwyliau Haf.Mae pawb wedi setlo yn ddel yn eu dosbarthiadau newydd.Croeso i Anti Jordan ac Anti Lowri at blantos y Cylch a’r dosbarth meithrin fore a phrynhawn.

Croeso i ,Elenora,Elis, Freya, Molly a Harri i’r Cylch Meithrin.Croeso i Tristan,Lili,Wil,Lilly,Freya,Harri,Ifan,Awel,Kylie,Gwawr,Gwion a Riley i ddosbarth meithrin yr ysgol.

Croeso mawr hefyd i’r dosbarth derbyn-Arthur,Anest,Huw Cori,Ifan,Ivy,Efa,Mia,Gareth,Noa,Meinir,Jamie,Catherine a Iago


poster

14.09.16 - Hwyl yr Heli 2016 - 25ain o Fedi 10am - 3:30pm

Plas Heli, Glan y don, Pwllheli

Gweithgareddau rhad ac am ddim - hwyl i'r teulu cyfan

Am fwy o fanylion - cliciwch yma

Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Ebrill 2016 - cliciwch yma


plant

Carwn fel ysgol ddymuno’n dda i Fflur ac Owain ar eu priodas yn ddiweddar.Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn dymuno’n dda i’r ddau yn eu priodas ar y nawfed o Ebrill trwy ganu yn y gwasanaeth yn yr Eglwys yn Nhudweiliog. Mwynhawyd y profiad yn fawr.Mae pawb wedi arfer gyda ‘Mrs Griffith’ bellach yn yr ysgol. Llongyfarchiadau i chi eich dau.



plant

Llongyfarchiadau hefyd i Dim Gala Nofio yr ysgol wnaeth yn arbennig trwy gipio y wobr gyntaf i ysgolion dros 100 o ddisgyblion yn y Ganolfan Hamdden, Ebrill 15 fed. Enilwwyd tarian Gala Ysgolion Dwyfor gyda Cymerau yn ail a Nefyn yn drydydd. Camp arbennig. Da iawn chi blantos!



plant

Gorau chwarae – cyd-chwarae
Da iawn i griw dewr o beldroedwyr yr Urdd fentrodd ar gaeau Porthmadog ar noson oer i dwrnament.

Aeth disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar daith Gristnogol dan arweiniad criw Eglwys Nefyn drwy gymeryd rhan yn ail-greu stori’r Pasg – profiad arbennig iawn.



Diolch i Lance am ei ymweliad a’r dosbarthiadau i godi ymwybyddiaeth a’n rhybuddio o beryglon tan. Dysgwyd mai hawdd iawn yw i dan gynnau gyda’n holl declynnau trydanol ymhob ystafell yn ein cartrefi erbyn hyn.


Carwn fel ysgol ddiolch o galon i Elin a Sera cyn ddisgyblion yr ysgol dreuliodd bedwar diwrnod prysur yn ein canol are u profiad gwaith o Ysgol Glan y Mor.Diolch am eich cymorth a’ch cwmni genod.Brysiwch yn ol!


Bydd Bl 3 a 4 yn crwydro I Blas Menai ganol Mai tra bydd Bl 5 yn mynd gam ymhellach i Glan Llyn yn y Bala a Bl 6 Ayn ei mentro i Gaerdydd. Cewch eu hanesion difyr yn y rhifyn nesaf!


Ar y 1af o Orffennaf bydd Ocsiwn yn cael ei chynnal yn yng Nghlwb Rygbi Bodegroes, Pwllheli am 6.30 yr hwyr i godi arian i gronfa Cyfeillion Ysgol Pentreuchaf. Mae’r pwyllgor yn gweithio’n galed i godi arian er mwyn gwella amgylchedd allanol yr ysgol e.e. llwybr rhedeg, darpariaeth dysgu allanol, yn ogystal ag offer Technoleg Gwybodaeth, ipads, gliniaduron, er mwyn i’ch plentyn / plant gael y cyfle i dderbyn yr addysg orau bosibl.

Rydym yn cysylltu â chwmniau a busnesau lleol yn y gobaith y gallwch gyfrannu eitem, nwydd neu wasanaeth ar gyfer yr ocsiwn. Bydd yn gyfle gwych i hysbysebu eich cwmni. Os hoffech gefnogi byddem yn ddiolchgar pe bae modd i chi gysylltu ar 01758 750600 neu e-bostio at gethinelisthomas@gwynedd.gov.uk os gwelwch yn dda! Diolch o galon!


Trawsgwlad - NEGES BWYSIG

logo urdd

Pnawn da
Diolch yn fawr i chi am gofrestru i gymryd rhan yn Nhraws gwlad y Faenol eleni.

Yn anffodus ‘rydym wedi derbyn cyfarwyddyd gan Stad Y Faenol na fydd hi’n bosib i ni ddefnyddio’r cae ar gyfer y parcio eleni oherwydd y tywydd gwlyb eithriadol.
Mae hyn yn creu problem enfawr i ni, yn enwedig gan bod nifer fawr iawn o blant wedi cofrestru (dros 1,000).

Yn dilyn cyfarfod brys i geisio adfer y sefyllfa ac i sicrhau diogelwch y gweithgaredd, ‘rydym wedi penderfynu y bydd rhaid newid y trefniadau ar gyfer dydd Iau, felly:-

**Dim ond Bechgyn a merched blynyddoedd 3 a 4 yn unig y fydd yn cymryd rhan Dydd Iau yma ** (21.04.16)

‘Rydym wedi nodi Dydd Llun, Gorffennaf 4ydd fel dyddiad ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 a bydd rhagor o fanylion yn cael ei anfon atoch yn y dyfodol agos.

Ymddiheurwn yn fawr os ydi hyn yn creu trafferth i chi, ond yng ngwyneb y sefyllfa o’n blaen, dyma’r unig opsiwn bosib oddigerth i ohurio’r digwyddiad yn gyfan gwbl. Dwi’n siŵr y medrwch gydymdeimlo â ni yn ein sefyllfa – ein blaenoriaeth ni yw lles pawb a chadw oddi fewn i ffiniau Iechyd a Diogelwch.

A fyddwch mor garedig a throsglwyddo’r neges ymlaen i bawb o fewn eich ysgol, os gwelwch yn dda, yn athrawon, disgyblion, rhieni.....fel bod y neges yn cyrraedd bawb.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad, ac edrych ‘mlaen i groesawu plant blynyddoedd 3 a 4 i’r Faenol nos Iau!

Delyth Griffiths
Urdd Gobaith Cymru
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Eryri


19.04.16 Codi Hwyl! - ap addysgol newydd

llun yr ap


02.08.16 Sunny Portal Info Report for PV System: Ysgol Pentreuchaf July 2016 - cliciwch yma (fersiwn saesneg yn unig)


See it Make it Patagonia 150 - Ffilm fer gan y disgyblion

poster

Geiriau T.Llew Mewn Llun

Dewch i weld campweithiau Ysgol Pentreuchaf!!

Ystafell Gymuned Llyfrgell Caernarfon
Dydd Iau 3-12-15 (4.30 -7 pm)
Dydd Gwener 4-12-15 (1 - 6pm)
Dydd Sadwrn 5-12-15 (9.30am - 12.30pm)
Dydd Llun 8-12-15 (9.30am - 12.30pm)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Hydref 2015 - cliciwch yma


calan gaeaf calan gaeaf

Gweithgareddau Calan Gaeaf dros hanner tymor

Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth



poster hola

Hola! Hydref 9 - 24

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Medi 2015 - cliciwch yma


plant

Croesawn deulu bach newydd o wynebau yn y Derbyn sydd hefo ni drwy’r dydd. Mae Mali Wynne, Ela, Moli, Mali Llyn, Shan, Tomos, Lexie, Casey, Jac, Cai, Aled, Cara, Aled, Cara, Elin, Mari a Lilly wedi setlo’n arbennig yn ein mysg a dyma lun ohonynt ar eu mis cyntaf .

Rydym hefyd yn croesawu Miss Fflur Williams yn ei hol ar ôl bod ar gyfnod mamolaeth tra’n dymuno’r gorau i Miss Lisa Jones yn ei swydd newydd yn Ysgol Llanaelhaearn.Byddwn yn ei gweld o dro i dro eto rwy’n siwr!Croeso hefyd i Mrs Eleri Jones yn gymhorthydd yn y Cyfnod Sylfaen.



Mae 'na dri mochyn bach……Erbyn hyn mae pawb yn bwrw iddi i’w themâu newydd.Mae’r Cyfnod Sylfaen eisoes wedi bod ar eu gwibdaith i Fferm Y Ffridd i weld cwmni OINC OINC ar waith ac wedi dotio o weld yr holl foch.Diolch i Ela ac Anest am eu croeso.


plant

Pe bawn i yn artist.....Erbyn hyn mae saith deg tri phlentyn o adran Iau'r ysgol ac Ysgol Llanaelhaearn wedi cael y cyfle arbennig o droedio Enlli yng nghwmni'r meistr Colin Siôn Evans.Carwn fel ysgol ddiolch o galon iddo am fedru trefnu taith mor ddiffwdan dros y Swnt ac am drefnu tywydd gwych i ni.Roedd yn brofiad bythgofiadwy a hudolus iawn .Diolch hefyd i Haf Meredydd a John Dilwyn Williams-dau dywysydd a wnaeth y profiad yn felys iawn wrth adrodd hanes yr ynys.

Croesawyd John Dilwyn Williams yn ôl i’r dosbarth i gyflwyno ffeithiau difyr a diddorol am yr ynys i flynyddoedd hynaf yr ysgol; gan action a chwarae rôl rhai o’r ynyswyr a’r brenhinoedd a fu yno.Bydd y gweithdai yn parhau yn yr Hydref ym Mhlas Glyn y Weddw.

Diolch i Catrin Glyn ddaeth fel ymwelydd atom i gyflwyno anifeiliaid sydd yn byw ar yr arfordir hynod yma ym Mhen Llyn.Cawsom luniau gan Catrin o’r morlo llwyd cyn ein gwibdaith ar y gwch ac roedd cael eu g weld yn ei holl ogoniant a chael y cyfle prin o weld morlo bach newydd anedig yn anhygoel!!

Cafodd yr Ysgol ei dewis i fod yn rhan o raglen Dylan Jones ar Rygbi Cymru’r Byd.Dewiswyd Japan fel gwlad i ni ei dilyn.Bu Celt ar y radio ac Owen William yn dilyn gem gyntaf anfarwol Japan!Mae gennym lawer o ddilynwyr pybyr iawn i dîm ein gwlad yn ogystal.



Agor y Llyfr - Y tymor yma rydym yn ffodus iawn o gael croesawu cwmni newydd sydd yn arwain a chyflwyno gwasanaethau boreol mewn ffordd hwyliog drwy actio.Mae’r dosbarthiadau i gyd yn mwynhau pan fyddent yn troi ein neuadd yn theatr fach dros dro!!

Ewch i bori drwy ein cyfrif Twitter am ychwaneg o luniau a hanesion difyr yr ysgol!


Gwybodaeth i rieni am bresenoldeb ac absenoldeb ysgol - Cliciwch yma


Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Mehefin 2015 - Cliciwch yma


Enillwyr Tlws Coffa Anwen Tydu a derbyn yr ail wobr yn y rownd genedlaethol!!


Profion Cenedlaethol - Canllaw i Rieni - cliciwch yma


Eisteddfod Gadeiriol y Ffor

Cafodd criw o blant yr Adran Iau lwyddiant arbennig gyda'i campweithiau llenyddol yn Eisteddfod Gadeiriol y Ffôr eleni.

Cystadleuaeth Blwyddyn 3/4 - 1af Nyfain; 2ail Gethin 3ydd Huw Cystadleuaeth Blwyddyn 5/6 - 1af Lleu; 2ail Noah; 3ydd Carys

 

 

 

 


Patagonia 150

poster diwrnod dathlu poster cyngerdd

Diwrnod Dathlu yn Ysgol Pentreuchaf
Dydd Sadwrn 6ed Mehefin
rhwng 10-4 o’r gloch
- cliciwch yma

Cyngerdd Dathlu yn Neuadd Dwyfor
Nos Sadwrn 6ed Mehefin
am 7 o’r gloch
- cliciwch yma


Ers mis Mawrth mae wedi bod yn hynod brysur gyda phrofiadau y tu allan i’r dosbarth.
Mentrodd 14 o Flwyddyn 4 ar gwrs preswyl ym Mhlas Menai ddechrau Mawrth gan fwynhau eu hunain i’r eithaf. Gobeithio cawn fynd eto y flwyddyn nesaf!

plant Cafodd Bl 2 a 3 wibdaith i Goleg y Bala i fwynhau gweithgareddau ynghlwm a dathliadau’r Pasg. Diolch i’r holl staff am olchi traed,gweini’r swper olaf,adrodd stareon,chwarae gemau a mwynhau gyda ni.


Ein themau y tymor yma yw’r ‘Tir a Mor’ i’r Cyfnod Sylfaen a’r ‘Chwareli’ i’r Adran Iau.

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gweithio ar Thema’r Fferm ar hyn o bryd a daeth ymwelydd pwysig iawn i weld dosbarth Miss Jones. Daeth mam Ifan a chi bach newydd o’r enw Gwen i ddweud Helo!Bu pawb yn brysur yn holi cwestiynau!

Brawd bach newydd Guto Llyfnwy ddaeth i ddosbarth Mrs Humphreys i ddweud Helo e rei fod yn cysgu’n braf.Croeso i tithau i’r byd Elis Llyfnwy!

plant Cawsom y pleser o gwmni Mr John Dilwyn Williams atom yn yr Adran Iau i gael cyflwyniad ar y chwareli lleol ; cyn mynd ar daith i’r Amgueddfa yn Llanberis i ddysgu mwy am fywyd, gwaith a chartref y chwarelwr.

Bu PC Dewi Owen yn ymweld a’r holl ddosbarthiadau eto’r tymor yma.

plant Mae’r Adran Iau yn cael budd o arweiniad Tomos Sorsby o’r Brifysgol .Mae Tomos yma i’n helpu i ddylunio a chreu offer fydd yn cael ei werthu yn y pendraw.Mae’n brysur yn ein troi yn entrepreneuriaid!!

Yn sionc ac ystwyth mae cwmni Dawns i Bawb yn helpu plant Bl 3 a 4 i fod yn ddawnswyr ac wrthi’n creu dawns gradigol i gyd-fynd a’n dathliadau Patagonaidd.Cofiwch am ein diwrnod agored ar y 6 ed o Fehefin pan fyddwn yn croesawu ein ffrindiau o Ysgol yr Hendre yma gyda chyngerdd yn Neuadd Dwyfor yn y nos.Croeso cynnes i bawb.
Cafodd tim y genod a’r bechgyn hwyl yn chwarae pel-droed ym Mhorth,adog yn ddiweddar.Chwaraeodd pawb yn egniol gan fwynhau’r her!

Croesawn Katie a Lucy yn ôl atom i Bentreuchaf yr holl ffordd o Awstralia.Croeso mawr yn ol i’n plith genod.


24.04.15 Newyddlen a Dyddiadau Pwysig i'r Dyddiadur

Tymor yr Haf 2015 - cliciwch yma


Taith Blwyddyn 6 - Caerdydd 2015

Gwybodaeth i rieni Blwyddyn 6:
http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/cardiff/about-cardiff/rhieni-ac-arweinwyr/


GALA NOFIO YSGOLION CYNRADD CANOLFAN HAMDDEN DWYFOR 2015

logo byw'n iach

Pwyntiau - cliciwch yma

Cofnodi Amseroedd - cliciwch yma

Record o'r Amseroedd - cliciwch yma


Apêl - wedi gadael adennydd gwydd yn Neuadd Powis

Annwyl Gyfeillion,
Mi wnaeth Adran Ysgol Pentreuchaf adael adennydd gwydd a oedd yn un o brops yr ymgom yn Neuadd Powis yn ystod y Steddfod Sir ym Mangor ddydd Sadwrn. Os wnaethoch chi ddigwydd I gweld hi, neu os yda chi yn gwybod rwbath o'i hanes hi erbyn hyn, newch chi plis gysylltu efo fi. Fe roeddan ni wedi cael I menthyg hi ar yr amod ein bod yn ei dychwelyd yn saff, a tydi adain gwydd ddim yn beth hawdd cael gafael arnno fo, hyd yn oed ar e bay !
Diolch yn fawr,
Yn gywir iawn,
Llio Meirion, Adran Pentreuchaf 0781 6575909 llio@tonnau.com


Dathlu Gŵyl Ddewi

plant Dathlu Gŵyl Ddewi 2015 yng nghwmni aelodau o'r gymuned!


Parêd Pwllheli 2015

plant llun  

Disgyblion a rhieni Ysgol Pentreuchaf yn gorymdeithio drwy strydoedd Pwllheli i ddathlu ein Cymreictod ac ein cyfeillgarwch gyda Ysgol yr Hendre ym Mhatagonia yn ystod Parêd Pwllheli 2015.


Newyddion Chwefror 2015

Adran yr Urdd-Carwn fel ysgol longyfarch holl aelodau Urdd a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Gylch a’r Celf a Chrefft yn ddiweddar.Diolch o galon i’r hyfforddwyr a’r rhieni oedd ynghlwm a’r gweithgareddau creu.Mae eich cymorth yn amhrisiadwy.Cafwyd cyngerdd i rieni I glywed y doniau sydd yma ym Mhentreuchaf ac roeddech yn werth eich clywed.

Dymunwn yn dda i Jac Elis,Osian,Lleu,Cynwal,Greta,Owen William  fydd yn cynrychioli’r sir ym Mangor ar Fawrth 14 mewn gwahanol gystadlaethau.Bydd gwaith Celf - Angharad Price Jones - 1af  - Gwaith Lluniadu 2D Unigol  Bl2 ac iau; Grwp Angharad - 1af - Gwaith Creadigol 2D Grwp Bl 2 ac iau; Jac Wyn

Jones - 2il - Gwaith Lluniadu 2D Unigol Bl 3 a 4; Megan Cowper - 1af - Gwaith Lluniadu 2D Unigol Bl 3 a 4; Grwp Megan - 1af - Gwaith Lluniadu 2D Grwp Bl 3 a 4 - yn cynrychioli’r Sir ym Mhenygroes yr wythnos nesaf.

Cawsom ddiwrnod cochlyd iawn ddydd Gwener cyn yr hanner tymor pan lwyddodd yr ysgol i gasglu £185 o bunnoedd tuag at Ymchwil y Galon.Roedd Blwyddyn 3 a 4 wedi paratoi gwasanaeth arbennig i’r ysgol gyfan ac roedd pawb wedi gwisgo gwisg goch ar gyfer y diwrnod.Cyflwynwyd y siec i Mr Amlyn ab Iorwerth sydd yn cynrychioli’r elusen ym Mhwllheli.

Bydd Mr Gethin Jones o CPD WRECSAM yn ymuno a Bl 5 a 6 am 5 wythnos i ddysgu sgiliau pel droed a llythrennedd.

Cafodd Bl 3 a 4 groeso mawr yn Amgueddfa Forwrol Nefyn yn ddiweddar.Mwynhaodd bawb bob eiliad yn cael clywed hynt a helynt morwyr Nefyn a’r diwydiant.Synnodd pawb wrth glywed am ffyrdd cyfathrebu’r pysgod!!!!

 


Parêd Dewi Sant
Ceffylau, Sali Mali, Superted, sticeri, baneri. Ymgynnull 12:30, cychwyn 13:00. 28/02/15 pic.twitter.com/ne1nBJBrff


Ysgol Pentreuchaf
Talentau plant Ysgol Pentreuchaf heno. Cyngerdd yr Urdd. Diolch i'r plant, staff a'r rhieni am noson fach dda!

I weld y lluniau - cliciwch yma


Blwyddyn newydd dda i bawb o Ysgol Pentreuchaf.

Cawsom Sioe Nadolig ‘Draw o Lyn i Drelew’ llwyddiannus iawn yn neuadd Dwyfor a charwn fel ysgol ddiolch i bob plentyn  a ddysgodd ei ran mor dda.Cofiwch gysylltu ar ysgol os am gopi o ‘r gryno ddisg neu archebu lluniau o’r Sioe gan Euron(www.euronjonesphotography.com). Bydd y DVD  ar gael yn fuan iawn hefyd!

Mae tri dosbarth yma yn dilyn thema’r tywydd oer y tymor yma gyda’r plant hynaf yn dilyn thema’r Gofod.Daeth Ffion Jones i  roi cyflwyniad ar bwysigrwydd lleihau defnyddio ynni  i  ddosbarth Bl 5 a 6 a chafodd Bl 3 a 4 gwmni diddorol Seimon Menai  yn son am ei daith i uchelderau Kilimanjaro.Atebodd ddeg ar hugain o gwestiynau a baratowyd gan y plant a charwn ddiolch o galon iddo am ei amser a’i atebion trylwyr.

Mwynhaodd yr adran Iau gyflwyniad ‘Shabwm’ gan Gwmni’r Fran Wen yn y neuadd.Dyma ddehongliad theatrig gwahanol iawn oedd yn dathlu pwer adnewyddol cerddoriaeth.Cafodd y plant flas arbennig arno gan drafod agweddau ar y cyflwyniad  gydag un o’r actorion.

Edrcyhwn ymlaen am gwmni P.C Owen yr wythnos hon i drafod pynciau dyrys megis Pwy?Beth?Ble? gyda’r holl ddosbarthiadau.

Cafodd Bl 6 gyfle i ffarwelio ag un aelod o’r dosbarth mewn steil nos Sul.Buont yn ffarwelio ym Mhen Cob gyda Jacob sydd gyda ni ym Mhentreuchaf ers y dosbarth derbyn.Bydd Jacob a’r teulu yn mudo i bentref  Huttoft, ger Skegness,  Swydd Lincoln. Dymuna pawb yn yr ysgol y gorau i Jacob yn y dyfodol!


Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd - Dydd Gwener, 13 Chwefror, 2015 - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Hydref 2014 - Cliciwch yma


Newyddion Mis Hydref 2014
Erbyn hyn mae pawb wedi setlo’n dda iawn i flwyddyn addysgol newydd sbon arall.Estynnwn groeso mawr iawn i Miss Lisa Jones yn athrawes Bl 5 a 6 tra bod Miss Fflur Williams i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth.Pob lwc iddi hithau.Nid oedd newyddion wrth i’r papur fynd i’r Wasg!!

Mae croeso i Anti Julie fel cymhorthydd ym Ml 3 a 4 ; Anti Lois fel myfyrwraig ar brofiad gwaith o Goleg Meirion Dwyfor ; a Miss Angharad Jones ,Anti Nia ac Anti Annest gyda’r dosbarth meithrin.Croesawn Mrs Enlli Morgan atom fel cymhorthydd sgiliau sylfaenol.

Mae Bl 5 a 6 yn astudio’r Rhyfel Byd Cyntaf y tymor yma a threfnwyd gwibdaith i’r Ysgwrn yn ddiweddar i gyfarfod a Gerald a chyflwyno englyn iddo a gafodd ei hysgrifennu gan y dosbarth gydag arweiniad Myrddin Ap Dafydd.Bydd y plant yn trysori eu hymweliad ac roeddynt yn llawn afiaith yn siarad am y profiad .

O’r ty,yr enaid a aeth,-cadeiriau
Yn wag o farddoniaeth,
Ond yma o hyd mae maeth,
Yn llawn o ysbrydoliaeth.

Cartrefi ydyw thema Bl 3 a 4 a buont hwythau ar daith oddi amgylch Plas yn Rhiw.Diolch i Mary am ein tywys oddi amgylch y gerddi hynod ac i Beryl am ein tywys yn y plas.Yna dilynom y llwybr o’r Plas i fyny dros gamfeydd cerrig ac i weld y bythynnod sydd wedi eu hadnewyddu yng nghwmni Robert Parkinson.Carwn ddiolch iddo am ei sgyrsiau difyr ac am ddangos gweithgareddau oedd yn digwydd mewn bwthyn bach fel Tan yr Ardd a Fron Deg flynyddoedd yn ol.Cawsom weld eu dull o gadw bwyd yn oer,golchi a sychu dillad a chwt mochyn crwn.

Yr wythnos ganlynol aethom i ben Tre Ceiri yng nghwmni Rhys Mwyn i weld olion cartrefi gwahanol iawn mewn oes wahanol.Nid oedd rhai yn credu fod yr rhain mor agos i ni yn yr ysgol a braf oedd cael mwynhau’r profiad .

Bydd y cyfnod Sylfaen yn mynd am eu trip fis Hydref a chawn eu hanes hwythau yn y rhifyn nesaf.

Carwn ddiolch i Mrs Nia Williams am gynnal gwasanaeth i’r ysgol gyfan.Braf oedd cael y gwasanaeth allan yn y tywydd braf ar ein llwyfan allanol newydd.

Llanw Llyn Medi 2014 Llanw Llyn Medi 2014 Llanw Llyn Medi 2014
     
Llanw Llyn Medi 2014
Llanw Llyn Medi 2014

Newyddlen Medi 2014 - cliciwch yma


Disgyblion Ysgol Pentreuchaf yn galw ar fodurwyr i arafu - Cliciwch yma

Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Awst 2014 - Cliciwch yma


Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Mehefin 2014 - Cliciwch yma


Enwog o Fri - Ardal Ni - cliciwch yma


Cwmni’r Frân Wen
Yn fuan ar ol yr hanner tymor ehedodd Cwmni’r Frân Wen at blantos y Cyfnod Sylfaen i berfformio sioe o’r enw Cwpwrdd Dillad. Mwynhaodd pawb yn fawr iawn.

Diwrnod y Llyfr
Cafodd pawb y cyfle i ddathlu Diwrnod y Llyfr trwy ddod a llyfr i ffeirio’n ei ddosbarth a hynny mewn pyjamas.Yn ogystal,roedd gofyn i bawb ddod a’i hoff lyfr cyn cysgu gydag ef a braf yw cael dweud fod llyfrau’n mynd a bryd yr rhan fwyaf o blant.

Dathlu Gŵyl Ddewi ac Eisteddfodau
Buom yn dathlu Gwyl Ddewi mewn gwisg goch gan wahodd y selogion i’n plith. Mae’n braf cael croesawu pensiynwyr yr ardal i fwynhau ychydig o gawl a chan gyda ni bob blwyddyn.Cafodd aelodau Urdd yr ysgol a’r adran gyfle i ymarfer eu doniau cyn yr Eisteddfod Cylch ddiwrnod wedyn. Mae’r Cylch a’r Sir wedi bod erbyn hyn. braf yw cael llongyfarch hatrig o Bentreuchaf. Pob lwc i’r ddeuawd,ensemble lleisiol a’r ymgom yn y Bala.

Eisteddfod Ysgol Pentreuchaf
Mae cyfarfodydd llysoedd Mela,Carnguwch a Phemprys wedi cychwyn erbyn hyn. Bydd gennym eisteddfod wedi’r Pasg eleni gan ei bod wedi bod mor brysur y tymor hwn.Mae’r gadair yn barod a dymunwn ddiolch i Bob,Bryn Mawr,Sarn am ei saernio fel rhodd eleni.Cewch wybod yn y rhifyn nesaf pwy a’i chipiodd!

Llongyfarchiadau
Dymunwn fel ysgol longyfarch dwy chwaer a gymerodd ran yng Nghyngerdd Rhanbarth yn ddiweddar.Mae Ffion yn chwarae’r corn a’i chwaer Megan yn chwarae’r ffidil.Derbyniodd Ffion wobr am y chwaraewraig mwyaf addawol a chymerodd Megan ran am y tro cyntaf.Arbennig genod.Daliwch ati!

Jambori

plant Cawsom Jambori ardderchog yn ddiweddar yn neuadd Dwyfor yng nghwmni ysgolion eraill y dalgylch.Cafodd y Cyfnod Sylfaen,yng ngwisgoedd y cymeriadau gwmni Rala Rwdins(Mair Tomos Ifans) a Ceridwen Creshendo(Nerys Griffiths,Ysgol Trefor) yn ystod y bore yn perfformio caneuon hwyliog o Wlad y Rwla.Yna yn y prynhawn cafodd yr adrannau Iau bnawn i ’w gofio yng nghwmni Cowbois Rhos Botwnnog gyda phawb mewn het gowboi. Dysgwyd wyth can werin leol i’w perfformio gyda’r Cowbois a braf oedd cael eu canu gyda’r tri brawd!

Dyma adroddiad gan Noah o Flwyddyn 4 am ei ymweliad:
ANTUR EIN JAMBORI
Yn gyntaf aethom ar y bws a gyrrodd y gyrrwr yn gyflym fel y gwynt.Yna arhosodd y bws ar ei union wrth ymyl Pen Cob.Cerddom yr holl ffordd i Neuadd Dwyfor yn gyffrous.
Canodd pawb yn hapus gyda’r Cowbois.Nesaf canodd Cowbois Rhos Botwnnog eu caneuon eu hunain.
I orffen dawnsiodd pawb fel trenau bach y sgwarnogod a rhai yn dawnsio wrth droi a throsieu pennau.Ar y diwedd daeth pawb yn ol ar y bws a chyrhaeddodd pawb yn ôl i Bentreuchaf yn saff.


Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Mawrth 2014 - Cliciwch yma


03.03.14 Poster Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg


poster

 


Gwyliwch ddathliadau diwrnod lansio 'O Bentreuchaf i Batagonia' ar raglen 'Heno' (10/02/14) drwy ddilyn y linc isod (13:00 munud i mewn i'r rhaglen!)

Cliciwch yma i'w weld.


Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Ionawr 2014 - cliciwch yma


Santes Dwynwen

plant yn y gwasanaeth Buodd yn fis cariadus iawn yma yn yr ysgol yn dathlu Gwyl Santes Dwynwen.Cawsom gyflwyniad gan Nia Williams yn llawn calonnau o bob math.Rydym wrth ein boddau yn croesawu Nia yma atom i gynnal gwasanaethau.Mae’r plant wedi bod wrthi’n creu llwyau caru a chardiau yn ogystal a chwpledi cariadus a chaneuon.

Eisteddfod
Rydym yng nghanol prysurdeb y tymor eisteddfodau.Mae paratoi mawr ar gyfer ein Eisteddfod Ysgol flynyddol ar Fawrth 14 eg ag Eistedfod Gylch yr Urdd ym Mhwllheli fydd ar Fawrth8 fed.

Cyngerdd
Bydd cor yr ysgol yn perfformio yn Neuadd Dwyfor yng nghyngerdd blynyddol Band Pwllheli ar nos Wener Chwefror 7 fed.Rydym yn edrych ymlaen.Dewch draw i gefnogi’r noson.

Ysmygu
Mae Bl 5 a 6 wedi eu dewis i fod yn rhan o ddosbarth fydd yn ymchwilio i effeithiau ysmygu. Bydd Prifysgol Caerdydd yn dod atom fis nesaf I ymchwilio gyda’r plant.

Clwb Cynilo
Mae’r Clwb Cynilo yn mynd o nerth i nerth yma yn y Neuadd bob bore Gwener. Bydd Mrs Richards yn mynd yn ei fan Securicor bob wythnos gyda chyfoeth plant ysgol Pentreuchaf.Cofiwch os am gychwyn o’r newydd fod croeso I bob ceiniog.Chi fydd yn elwa yn y pendraw blantos!


16.01.14 Er gwybodaeth - mae diwrnod HMS ar Fawrth 10fed 2014

Milwyr yn paratoi am y Sioe Gerdd - 'Glyndwr'!

plant plant

17/12/13 - 1.30 a 6.00yh


18/12/13 - 6.00yh


Adroddiad Ynni Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf Tachwedd 2013 - cliciwch yma


Croeso mawr i Angharad Jones atom ar ol hanner tymor fel cymhorthydd ym Ml 3 a 4.Gobeithio byddi’n setlo’n dda yn ein plith Angharad.


Meithrin - Mae criw’r Meithrin yn griw iachus iawn.Buodd pawb am dro yn casglu dail ar hyd llwybr ger yr ysgol a hefyd yn paratoi bechdanau iach yn y dosbarth.Mae edrych ymlaen mawr at eich cyngerdd bach ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 13 eg am 10.30 pan fydd rhieni’n cael dod I’ch gweld yn perfformio.

Cyfnod Sylfaen - Croesawyd babi bach arall i’r dosbarth ddechrau Tachwed yn chwe diwrnod oed!! Awyddus iawn i gychwyn yn yr ysgol!!Leah oedd enw’r ferch fach sydd yn chwaer i Suranne, Eloise, ac Aiden.Roedd pawb wedi gwirioni hefo hi.

Buodd y criw yma yn sylwi ar newidiadau’r Hydref yng Nghoedwig Ty Du wedi lapio’n gynnes gan gasglu rhyfeddodau natur.

plant

Bl 3 a 4 - Daeth tair tylluan i ddweud helo wrth flwyddyn 3 a 4 gan Mr Ian Parri o Dalysarn.Cymerwyd nodiadau a holyd cwestiynau dyrys iawn iddo am ei adar. Dotiwyd at y creaduriaid a chafodd pawb yn yr ysgol gyfle i’w gweld yn y Neuadd. Diolch yn fawr Mr Parri.

Aeth y dosbarth gyda’u clipfyrddau draw am Bont y Pandy i gasglu geirfa hydrefol er mwyn creu cerdd. Dewisom fore gogoneddus o Hydref oer gyda’r haul yn gwenu.

Bl 5 a 6 - Cafodd y dosbarth ddau ymweliad gan Swyddog Addysg Childline Ms Rhian Jones gan drafod materion pwysig ym mywydau plant heddiw.

Buodd Miss Jones yng ngofal Tim Pel –Rwyd cyntaf yr ysgol mewn Twrnament Ysgolion Dwyfor.Mwynhaodd y plant eu profiad cyntaf o ymarfer yn galed a chymeryd rhan yn y twrnament pel-rwyd.Ymlaen am y twrnament nesaf!!

ffilmio Roedd y cyfryngis ym mhobman yma am ddau ddiwrnod solet.Ond ein cyfryngis bach ni oedden nhw-criw hwyliog Blwyddyn 5 yn cyfarwyddo ,ffilmio,goleuo,cynhyrchu eu ffilm cyntaf o dan arweiniad profiadol y cyfarwyddwr Eilir Pierce.Cawsom y cyfle gan Gwmni Galeri a bydd y ffilm yn cael ei dangosiad cyntaf yn y Galeri yn fuan yn y flwyddyn newydd.Gwyliwch y gwagle! Oscars amdani!

Gwibdeithiodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 i Garth Celyn, Abergwyngregyn ble cafwys croeso cynnes gan Mr a Mrs Gibson gan ddilyn hanes Llywelyn Fawr a Siwan yn ystod oes y Tywysogion, cyn ymweld â chastell Cymreig yn Nolbadarn. Cafwyd diwrnod diddorol iawn.

Carwn fel ysgol ddiolch i Anti Heulwen a’r Cyngor Ysgol am drefnu’r Operation Christmas Child eleni a braf yw cael nodi fod yr ysgol wedi casglu 87 o focsys .Y nifer mwyaf hyd yn hyn.Diolch i chithau rieni Ysgol Pentreuchaf.
bocsys
plant Cafwyd diwrnod difyr yma ar ddiwrnod Plant Mewn Angen lle’r oedd pawb wedi dod a gwisg smotiog.Cafodd Mr Thomas fenthyg trowsus pyjamas smotiog ei wraig !Mwynhaodd pawb gacen flasus gan y staff a chasglwyd £183.29.Diolch yn fawr unwaith eto.

Bydd ein Sioe Nadolig ‘Owain Glyndwr’ yn cael ei pherfformio yn ystod yr wythnos olaf cyn y gwyliau ar brynhawn a Nos Fawrth,Rhagfyr 17 eg a Nos Fercher Rhagfyr 18 fed.Bydd ein cinio Nadolig ar y diwrnod canlynol,ddydd Iau Rhafyr 19 eg gan ddilyn gyda disgo wedi ei drefnu gan fyfyrwyr Cloeg Meirion Dwyfor.

Dymuna Staff a disgyblion Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr y Llanw.
Mae Ysgol Pentreuchaf yn trydar! Dilynwch ni ar: twitter.com/ysgolpentre


26:11:53 Pam fod Ysgol Pentreuchaf yn dysgu drwy ddefnyddio Dull Leomardo?

Cliciwch yma i glywed mwy...


08.10.13 Allan nawr!

clawr y llyfr

Hwyl y Limrigau Newydd: Casgliad o limrigau gwreiddiol ar gyfer disgyblion 7-11 oed - cliciwch yma


03.10.13 - Adroddiad Ynni Medi 2013 - Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf - cliciwch yma


Croeso Miss Pierce Jones
Carwn estyn croeso cynnes iawn i Miss Sara Pierce Jones atom fel athrawes newydd i’r Cyfnod Sylfaen.Gobeithio y byddi’n hapus iawn yn ein plith Sara a gobeithio fod Mrs Eleri Jones yn ymlacio’n braf ac wedi mwynhau ei gwyliau haeddiannol ym Mheriw.Estynnwn yr un croeso i Ms Evelyn Parry sydd yn dysgu’r plantos meithrin yn y boreau ac i Anti Sophie ei chymhorthydd.Mae gennym bymtheg o wynebau newydd siriol!Croeso hefyd i Caryl Jones sydd yma ar brofiad gwaith o Goleg Meirion Dwyfor gyda’r Cyfnod Sylfaen.

Gwaith celf
Tybed a ydych wedi sylwi ar y gwaith Celf arbennig sydd yn cyd-fynd ag arwyddair yr ysgol sydd wedi ei osod ar dalcen dosbarth Bl 5 a 6.Mae’r cerfluniau trawiadol o waith Mrs Dawn Crook,Mela .Yn un o gyn-rieni’r ysgol(mam Tom) carwn ddiolch o galon iddi am ei rhodd i’r ysgol a’i llongyfarch am waith mor grefftus.

Glyndwr

Owain Glyndwr
Eisioes mae’r Adran Iau wedi bod ar wibdeithiau addysgol.Aeth Bl 5 a 6 i ymweld a Senedd-dy Owain Glyndwr,Machynlleth tra buodd Bl 3 a 4 ar anturiaeth i Goed y Brenin yn Nhrawsfynydd.

Wil Bryn
Cafodd y Cyfnod Sylfaen ymweliad gan fabi bach o’r enw Wil Bryn,brawd Twm Bryn o Rydyclafdy.Cafodd ei fwydo a’i newid gyda help y plant.Diolch am ddod i’n gweld ni Wil.

Lluniau o'r plant!
Ar dydd Iau,Hydref 24 bydd Gwynant Parri yma’n tynnu lluniau’r plant. Mae gwahoddiad i blant eraill y teulu yma os dymunwch a hynny rhwng 8.30-9.00. Dyma anrheg Nadolig perffaith i weddill y teulu!!


31.07.13 - Adroddiad Ynni Gorffennaf - Paneli Solar Ysgol Pentreuchaf - Cliciwch Yma


12:07:13 Nant Gwrtheyrn

plant plant plant
   
plant

O, na fyddai'n haf o hyd!

Disgyblion Bl6 yn dringo Carreg y Llam o draeth Nant Gwrtheyrn dydd Gwener!

Gwych!


Amserlen Glan Llyn - Blwyddyn 5

Cliciwch yma i weld amserlen gweithgareddau disgyblion blwyddyn 5 yng Nglan Llyn, Mehefin 2013.


Safonau Nofio Ysgolion Lloegr / Warning on poor school swimming

More children may drown without better school swimming provision, the Amateur Swimming Association (ASA) has warned.

Read more:
http://www.bbc.co.uk/news/education-22615032


Rygbi

gwaith plant

Bu Gronw yn aelod o dîm rygbi Eryri dan 11 oed a gyrhaeddodd rownd derfynol cwpan plat Western Mail WSRU - Undeb Rygbi Ysgolion Cymru erbyn Castell Nedd.

Cynhaliwyd y gêm yn Llanidloes ar dir niwtral a chanolog a bu brwydro ffyrnig am y teitl gam y ddwy ochr. Wedi gêm wych gan y ddau dîm cyfartal iawn, penderfynwyd rhannu'r gwpan. Canlyniad teg a'r ddau dîm ar ben eu digon.

   

Blwyddyn 5 a 6 yn creu Arddangosfa

gwaith plant

Fel rhan o weithgareddau 'Leonardo', bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 wrthi'n brysur yn creu a pharatoi arddangosfa a gweithgareddau sgiliau meddwl ar gyfer HOLL blant yr ysgol! Ar derfyn dydd, dywedodd Tomos, Bl 5' "...ew mae'r busnas dysgu plant ma yn waith blinedig!"

   

Chwaraeon Dalgylch Ysgolion Glan y Môr 15/5/13

plant plant


Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf
Cafwyd diwrnod i’w gofio yn yr ysgol ddiwrnod yr eisteddfod gyda llysoedd coch,gwyrdd a glas i’w gweld yn y neuadd.Cawsom hwyl yn gwrando ar y gyrglo,dweud jocs,meimio a Mrs Roberts yn ennill y dydd ar gan y gwpan.Roedd Mrs Jones yn haeddu Oscar am ei phortread o ffermwr yn chwilio am gariad ac wrth gwrs roedd yr orsedd yn werth ei gweld fel arfer.Llongyfarchiadau mawr i Gronw ar ennill y gadair am yr eilwaith a diolch yn fawr i Mr Derek Thomas,Llithfaen gyda chymorth Llinos Bl 3 am greu y gadair hardd.Diolch hefyd i Mrs Hafwen Hughes(Pant yr Hwch) am gyd-feirniadu gyda Nannw,Plas yn y bore cyn daeth Elin Gwynfryn atom yn y prynhawn.Gobeithio iddynt hwythau gael yr un boddhad a ninnau.Da iawn Carnguwch y llys buddugol eto eleni!

Llongyfarchiadau mawr i aelodau adran yr Urdd ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Sir.Enillodd yr ymgom ar y llwyfan mawr ac mae’r rocars yn edrych ymlaen i deithio i Sir Benfro ddiwedd Mai.Daeth yr ensemble a’r parti cerdd dant yn ail a daeth Osian a Lleu yn drydydd ar y ddeuawd.Da iawn chi.

Gwelwyd gwrach go ryfedd yn hedfan heibio pan fu dathlu diwrnod y llyfr yn yr ysgol.Gwrach gyda ffrog ddu ac am ei goesau roedd teits duon !!Sgwn i a welsoch chi hi/o?Roedd pawb yn werth eu gweld yma ac wedi mynd i hwyl y cymeriadau.Diolch yn fawr i Mrs Nia Griffith y prif lyfrgellydd yng Nghaernarfon a ddaeth oddi amgylch pob dosbarth i ddarllen a dangos rhai o’r llyfrau newydd sydd ar gael ar y farchnad yn Gymraeg a Saesneg i’r plant.

Gwahoddwyd Mark Winkup atom fel rhan o gyflwyniad ‘Paid,cyffwrdd,dweud’.Cafodd rai gyflwyniad ar berygl cyffuriau a’r rhai hynaf ar alcohol.

Cylch Meithrin
Bu criw’r Cylch yn blasu teisennau cri yn eu gwisgoedd coch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi .Daeth Mr Gwilym Griffith,Plas i roi stori Tecwyn y Tractor i ddathlu diwrnod y llyfr .

Os oes gennych blentyn sydd am fynychu’r Cylch yn mis Medi,cofiwch gysylltu ar 01758 750 600 neu 01766 819 093/07540 763 124.


Llanw Llyn Ebrill 2013

Mae Bl 3 a 4 yn dilyn thema ‘Fi a’r Fro’ y tymor yma ac yn dysgu am edrych ar ol y corff.Daeth y plant a’r syniad o ymchwilio i agor Siop Ffrwythau yn yr ysgol.Roedd y dosbarth eisioes wedi agor Siop Dost y llynedd ond teimlwyd y dylem anelu at rywbeth iachach y tro yma.Cafodd aelodau y cyngor dosbarth—Lewis,Osian,Meleri a Cynwal groeso mawr yn Ysgol Edern pan aethom i weld eu Siop Ffrwythau ar waith.Diolch o galon i’r staff a’r plant am ateb ein cwestiynau ddirifedi.Mae’r troli newydd wedi cyrraedd a chafodd ei chyflwyno yn y gwasanaeth i’r ysgol gyfan.Gan obeithio rwan y bydd plantos Pentreuchaf yn anelu am bump y dydd!

Cawsom gwmni Llyr Hughes,fferyllydd Nefyn a Llanbedrog atom i bwysleisio pwysigrwydd gofalu am y corff.Cafodd Llyr waith caled o ateb llu o gwestiynau a diolch o galon am ei amser prin.

Croesawyd Swyddog Diogelwch y Ffyrdd at Gyf All 2 i bwysleisio rheolau croesi’r ffordd,cerdded ar balmentydd ac edrych allan am draffig.Buodd Swyddog Diogelwch Tan gyda’r dosbarthiadau i gyd yn pwysleisio diogelwch a beth i’w wneud mewn argyfwng tan.

Agorodd Bl 5 a 6 eu drysau’n groesawgar ac eiddgar iawn yn ddiweddar i roi blas ar eu gwaith ar Iddewiaeth.Cafodd pob dosbarth arddangosfa wych gan ddysgu am y grefydd mewn ffyrdd hwyliog o gemau oedd wedi eu paratoi ,ffeithiau diddorol,sesiynau celf,gwrando ar gerddoriaeth oedd wedi ei gyfansoddi ganddynt, a stori Anne Frank.Diolch yn fawr i Bl 5 a 6 am eu gwaith caled.

Llongyfarchiadau mawr i Gronw Bl 6 ar ennill y drydedd wobr drwy Gymru am ysgrifennu rhyddiaith yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro.Roedd hefyd yn aelod o Dim Rygbi Eryri .Cafodd Gronw hefyd ei dderbyn yn aelod o Dim Rygbi ERYRI dan 11 oed.Da iawn ti.

Cafodd bechgyn a genethod Bl 6 gyfle i brofi gwersi addysg gorfforol yn Ysgol Glan y Mor yn ddiweddar.Bu’r bechgyn yn chwarae pel droed a’r genod yn chwarae hoci.

O GAEAD I GAEAD I GRYS-Bu Bl 3 a 4 y llynedd yn casglu caeadau poteli plastig.Bu iddynt gasglu miloedd a’u gyrru i ffwrdd mewn addewid y buasai’r caeadau wedi eu hailgylchu’n grysau tim chwaraeon proffesiynol gyda logo’r ysgol arnynt gan gwmni ‘Cool Seas Roadshow’.Cyrhaeddodd y parsel hir ddisgwyliedig yr wythnos ddiwethaf a chawsom wybod ein bod yn un o dair ysgol drwy Gymru am gasglu’r mwyaf o gaeadau.Diolch i’r rhieni am ein helpu.

Bu holl blant yr ysgol yn dysgu adnabod baneri’r byd a’u prifddinasoedd.Cafodd pob dosbarth eu profi a gwnaeth rhai yn arbennig o dda gan sgorio marciau llawn.Casglwyd £747.00tuag at bum elusen –Ymchwil Canser,Ambiwlans Awyr Cymru,Apel John Hartson i Ganser y Caill,Cymorth i Gyn-Filwyr, a Sefydliad Prydeinig y Galon.Diolch yn ddiffuant iawn i’r rhieni,neiniau a theidiau a chyfeillion am noddi’r plant mor garedig.Enillodd Meleri Bl 4 wobr arbennig o atlas am gasglu’r swm mwyaf o arian.

Roedd swn ym Mhorthdinllaen ar y trydydd o Fai pan oedd plantos y Cyfnod Sylfaen yn mwynhau eu hunain ac yn dysgu am y lle hudolus.Maent yn dilyn thema’r mor y tymor yma.Edrychant ymlaen am gwmni Mr Sion Williams pysgotwr lleol yn y dosbarth i siarad am ei waith a blasu ychydig o gynnyrch y mor.

Treuliwyd y prynhawn yn Sioe Rala Rwdins ym Mhwllheli yng nghwmni cymeriadau difyr Gwlad y Rwla.Roedd y plantos yn llawn straeon ar ol eu hymweliad.

Rygbi - Bu Gronw yn aelod o dîm rygbi Eryri dan 11 oed a gyrhaeddodd rownd derfynol cwpan plat Western Mail WSRU - Undeb Rygbi Ysgolion Cymru erbyn Castell Nedd.
Cynhaliwyd y gêm yn Llanidloes ar dir niwtral a chanolog a bu brwydro ffyrnig am y teitl gam y ddwy ochr. Wedi gêm wych gan y ddau dîm cyfartal iawn, penderfynwyd rhannu'r gwpan. Canlyniad teg a'r ddau dîm ar ben eu digon.

Croesawn bedwar disgybl newydd i’r ysgol yn ddiweddar.Mae William ac Alaw a Callum a Katlin wedi setlo’n dda iawn yn ein plith.

COFIWCH NODI YN EICH DYDDIADUR!!

CYFLWYNIAD I DAITH GERDDED YSGOL PENTREUCHAF-NOS IAU MEHEFIN 13 eg am 6.30 yn Neuadd yr Ysgol.

TAITH GERDDED YSGOL PENTREUCHAF-DYDD SADWRN MEHEFIN 15fed.Bydd yr hanesydd John Dilwyn Williams yn ein tywys ar daith ddiddorol o gwmpas ardal Pentreuchaf am 1 y pnawn.

I ddilyn bydd Gwyl Hirddydd Haf yn yr ysgol lle bydd cestyll neidio,stondinau,barbeciw a hufen ia a gem bel-droed go arbennig.Dewch yn llu!!Croeso i bawb!


Newyddion Mis Mawrth

Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf- Cafwyd diwrnod i’w gofio yn yr ysgol ddiwrnod yr eisteddfod gyda llysoedd coch,gwyrdd a glas i’w gweld yn y neuadd.Cawsom hwyl yn gwrando ar y gyrglo,dweud jocs,meimio a Mrs Roberts yn ennill y dydd ar gan y gwpan.Roedd Mrs Jones yn haeddu Oscar am ei phortread o ffermwr yn chwilio am gariad ac wrth gwrs roedd yr orsedd yn werth ei gweld fel arfer.Llongyfarchiadau mawr i Gronw ar ennill y gadair am yr eilwaith a diolch yn fawr i Mr Derek Thomas,Llithfaen gyda chymorth Llinos Bl 3 am greu y gadair hardd.Diolch hefyd i Mrs Hafwen Hughes(Pant yr Hwch) am gyd-feirniadu gyda Nannw,Plas yn y bore cyn daeth Elin Gwynfryn atom yn y prynhawn.Gobeithio iddynt hwythau gael yr un boddhad a ninnau.Da iawn Carnguwch y llys buddugol eto eleni!

Llongyfarchiadau mawr i aelodau adran yr Urdd ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Sir. Enillodd yr ymgom ar y llwyfan mawr ac mae’r rocars yn edrych ymlaen i deithio i Sir Benfro ddiwedd Mai.Daeth yr ensemble a’r parti cerdd dant yn ail a daeth Osian a Lleu yn drydydd ar y ddeuawd.Da iawn chi.

Gwelwyd gwrach go ryfedd yn hedfan heibio pan fu dathlu diwrnod y llyfr yn yr ysgol. Gwrach gyda ffrog ddu ac am ei goesau roedd teits duon !!Sgwn i a welsoch chi hi/o?Roedd pawb yn werth eu gweld yma ac wedi mynd i hwyl y cymeriadau.Diolch yn fawr i Mrs Nia Griffith y prif lyfrgellydd yng Nghaernarfon a ddaeth oddi amgylch pob dosbarth i ddarllen a dangos rhai o’r llyfrau newydd sydd ar gael ar y farchnad yn Gymraeg a Saesneg i’r plant.

Gwahoddwyd Mark Winkup atom fel rhan o gyflwyniad ‘Paid,cyffwrdd,dweud’.Cafodd rai gyflwyniad ar berygl cyffuriau a’r rhai hynaf ar alcohol.

Cylch Meithrin - Bu criw’r Cylch yn blasu teisennau cri yn eu gwisgoedd coch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi .Daeth Mr Gwilym Griffith,Plas i roi stori Tecwyn y Tractor i ddathlu diwrnod y llyfr .

Os oes gennych blentyn sydd am fynychu’r Cylch yn mis Medi,cofiwch gysylltu ar 01758 750 600 neu 01766 819 093/07540 763 124.


Mae‘r Lili a’r Cennin Pedr yn rhoi gwen ar ein wynebau i groesawu’r Gwanwyn yma ym Mhentreuchaf ac felly hefyd ar fwrdd natur y Cyfnod Sylfaen yng nghyntedd yr ysgol.Diolch i’r plant am harddu’r fynedfa gyda’u blodau bach a’u lluniau a ffotograffau.

Edrychwn ymlaen am ddathliadau Gwyl Ddewi. Byddwn yn cychwyn y diwrnod gyda gwasanaeth arbennig gan ddosbarth Mrs Roberts .Yna,byddwn fel ysgol yn croesawu pensiynwyr yr ardal i’n cinio Gwyl Ddewi blynyddol lle bydd pawb yn cael blas ar lobsgows ac ambell i gan cyn dawns flodau arbennig gan enethod blwyddyn un a dau yng ngofal eu coreograffydd Mrs Manon Griffith.

Cynhaliwyd gweithdy limrigau i rai o’r Adran Iau yng ngofal Myrddin ap Dafydd yn ddiweddar.Treuliwyd y bore yn odli ac acennu a limrigiwyd i swn cwpanau yn null y ‘cup song’ diweddar.Cafwyd hwyl arbennig ar adrodd rhai o limrigau Jos Giatgoch tra roedd ei fab,Deio Giatgoch a’i ffrind Owain yn ffilmio’r dosbarth .Edrychwn ymlaen i weld a chlywed y ffyrdd hwyliog o ddysgu sut i limriga ar ffurf DVD mewn llyfr barddoniaeth newydd gan Wasg Carreg Gwalch yn fuan.

mrs jones

Cafodd 22 o blant Bl 3 a 4 andros o hwyl yng ngwersyll Glan Llyn. Dwn i ddim pwy fwynhaodd fwyaf Mrs Jones a Mrs Humphreys ta’r plant?Cafodd y ddwy fwynhad mawr o ddawnsio yn sdeil y Gangnam yn y disgo er mawr syndod i’r plant!


Treuliwyd diwrnod hwyliog yng nghaeau y clwb rygbi ym Modegroes pan chwaraeodd Bl 3 a 4 rygbi a hoci mewn timau o wahanol wledydd y byd.Braf oedd cael gweld plant ysgolion dalgylch Pwllheli yn gwneud ffrindiau newydd a diolch i Ffion Ysgol Cymerau am drefnu.

Dymunwn yn dda iawn i aelodau’r Urdd sydd wedi bod yn llwyddiannus a mynd drwodd i’r Eisteddfod Sir ym Mangor ar Fawrth 16. Pob lwc i Cynwal ar y llefaru,Osian a Lleu ar y ddeuawd,Gronw ar yr unawd alaw werin a’r unawd cerdd dant,yr ensemble a’r parti cerdd dant.

Bydd gennym ganlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf yn y rhifyn nesaf lle bydd cyn ddisgyblion yr ysgol yn beirniadu.Edrychwn ymlaen i groesawu Nannw Plas ac Elin Gwynfryn i’n plith unwaith eto a bydd Gwenno Plas yn beirniadu’r gwaith cartref ysgrifenedig.Diolch i chi’ch tair am eich parodrwydd i gymeryd rhan mor bwysig yn yr hwyl.

Mae Cyfeillion yr ysgol wrthi’n trefnu taith gerdded hanesyddol ym Mhentreuchaf. Rydym yn hynod ffodus o John Dilwyn , yntau’n gyn-ddisgybl yn yr ysgol.Mae wedi cytuno yn ei brysurdeb i roi noson o sgwrs a chyflwyniad yn yr ysgol cyn arwain taith i rieni a phlant o gwmpas yr ardal gyfagos.Edrychwch allan am y dyddiad yn y rhifyn nesaf o’r Llanw.


21.02.13 Glanllyn

owen Bore da! Dyma Capten Owen Llyr yn hwylio'r Brenin Arthur yn esmwyth dros Lyn Tegid!

15.02.13 - Amserlen Gweithgareddau Awyr Agored Glan-llyn

Disgyblion Blwyddyn 3/4 20-21 Chwefror 2013 - cliciwch yma


Y tân sy’n rhannu’r croeso-i’r holl fyd
Sy’n chwilio amdano,
Heno’r hedd nad yw ar glo,
A ddown ni oddi yno.

Disgyblion Blwyddyn 5 a 6 a Myrddin ap Dafydd Ionawr 2013.

Daeth Myrddin i ddosbarth hynaf yr ysgol i drafod gwaith Hedd Wyn a chreu englyn gyda’r disgyblion.Maent hefyd wedi bod yn astudio englynion R.Williams Parry. Methwyd ag ymweld a’r Ysgwrn ddechrau Ionawr oherwydd yr eira ond cafwyd gwibdaith arall ar ddiwrnod olaf y mis i ymweld a chartref y bardd a chyfle i gyflwyno’r englyn i nai Hedd Wyn, Mr Gerald Williams. Cawsant hefyd gyfle i fwynfau arddangosfa a gweithgareddau yng Nghanolfan Ednowain yn Nhrawsfynydd cyn dychwelyd i’r ysgol.

yn ysgwrn DISGYBLION BLWYDDYN 5/6 A MR GERALD WILLIAMS, YR YSGWRN.


Clwb y Llygod Bach –Mae’r Clwb wedi ail ddechrau clicio gyda thiwtor a myfyrwyr o Goleg Meirion Dwyfor yn arwain y clwb yn wythnosol i ddosbarth Bl 5 a 6 yn y lle cyntaf gan ganolbwyntio ar raglennu meddalwedd.

Buom fel ysgol yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen gan gynnal gem i ffrindiau yn ystod ein gwasanaeth.Da iawn bawb a gymerodd ran.Gan obeithio fod darllenwyr y Llanw wedi derbyn llwyth o gardiau eto’r flwyddyn yma!

Croesawn Catrin Evans yma fel myfyrwraig ar ei thrydydd blwyddyn o’r Coleg ym Mangor. Dymunwn yn dda i ti yng nghanol criw y Cyfnod Sylfaen sydd yn gweithio’n brysur ar rigymau ac odlau yr hanner tymor yma.Carai’r dosbarth ddiolch o galon i Gyfeillion yr Ysgol am y cwt dal offer newydd meant wedi ei dderbyn.

Tra mae Bl 3 a 4 yn astudio Cyfnod y Tuduriaid trafferthus! Galwodd John Dilwyn o’r archifdy gyda ffeithiau difyr iawn amdanynt.Bydd criw y dosbarth yma yn ymweld a Glan Llyn yn mis Chwefror.Cewch adroddiad o’r trip preswyl yn y rhifyn nesaf!

Rydym yn dechrau paratoi at ein heisteddfod flynyddol yn yr ysgol.Sgwni pwy fydd gan y pwyntiau uchaf eleni? Carnguwch, Mela neu Penprys??? Mae plant adran yr Urdd Pentreuchaf a Llithfaen yn cystadlu yn yr Eisteddfod Cylch yn ystod yr hanner tymor. Dymunwn yn dda iawn i bawb.

Cylch Meithrin- Croesawn dri plentyn newydd eto i’n plith yn y Cylch Meithrin. Braf yw cael camni Twm Bryn, Efa a Nel.


dyn eira 21:01:13 - Eich lluniau o'r eira - cliciwch yma


09:01:13 - Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Newyddlen Ionawr - cliciwch yma

Cawsom wasanaeth bendigedig i gloi ein hanner tymor gan griw’r meithrin a’r derbyn.Cymerodd bob un ran arbennig yn eu gwasanaeth i ddiolch am ein llysiau a phwysigrwydd y bwgan brain sy’n helpu’r ffermwr.

Bu Catrin Richards o Goleg Meirion Dwyfor yn treulio’r wythnos gyda phlant y Cyfnod Sylfaen.Diolch iddi am ei chymorth parod a’i pherthynas arbennig gyda’r plant.Roedd tua 30 o blant eisiau eistedd gyda Catrin ar y bws nofio sydd yn profi ei phoblogrwydd.Dymunwn pob llwyddiant i ti gyda dy gwrs Catrin a brysia yn ol i’n gweld ni.

Dathlwyd Diwrnod T.Llew Jones mewn steil eto eleni gyda’r rhan fwyaf o blant yng ngwisgoedd cymeriadau llyfrau T.Llew.Dysgwyd cerdd Ifan y Mul o’r Hendre yng ngwaelod yr ysgol gan dynnu lluniau’r anifeiliaid yn y gerdd wrth i’r plant hyn greu cloriau newydd i’w lyfrau ac ysgrifennu sgriptiau.

Cafodd plant Bl 3 a 4 gwmni Mrs Lynne Shepherd am ddau ddydd Iau oedd yn ein dysgu sut i wehyddu mewn gwlan lliwgar.Cafodd pawb ddysgu’r sgil o wehyddu a chrewyd gwaith arbennig iawn.Gobeithiwn eu harddangos yn y neuadd i bawb gael eu gweld.Diolch yn fawr i Mrs Shepherd.

Daeth Llinos Roberts at bob dosbarth i son am ei hymweliad a Sierra Leone yn ddiweddar.Gwelwyd sleidiau a lluniau ‘r ysgol yno a mawr oedd y diddordeb fod ieir yn y dosbarthiadau’n crwydro’n rhydd!Diolch i LLinos am rannu ei gwybodaeth i ni .

Os yw’r Eifl yn gwisgo’i chap…..a chap llwyd gwlanog oedd am ei phen pan aeth Bl 5 a 6 i ddringo Tre’r Ceiri dan arweiniad Anita Daimond o Gymdeithas Archeolegol Gwynedd.Er i Anti Julie a Mr Thomas rynnu dipyn go lew cafwyd dwirnod gwerth chweil!

Mae gennym dditectifs ynni yn yr ysgol fel rhan o Gynllun Lleihau Carbon Cyngor Gwynedd. Mae FFion Mai Jones yn gweithio’n agos gyda disgyblion Bl 5 a 6 er mwyn ceisio lleihau’r defnydd o ynni yn yr ysgol er mwyn arbed arian a’r amgylchedd.Bydd paneli solar yn cael eu gosod ar do’r ysgol yn fuan.

Dyddiadau pwysig:
Bocsys Operation Christmas Child i mewn Tachwedd 16. Byddwn yn falch o dderbyn bocsys gan y plant a’r gymuned.

Tynnu lluniau Tachwedd 19 - Croeso i chi ddod a’ch plentyn i’r ysgol i dynnu ei lun rhwng 8.30-9.30 y bore.


Aelodaeth Urdd
Dim ond nodyn bach i'ch atgoffa fod aelodaeth yr Urdd yn £6 yn unig os yn ymaelodi cyn dydd Gwener yma, 26 Hydref. Ar ôl hynny bydd yn £6.50 yr un.

Manteisiwch ar y fargen ac ymaelodwch cyn dydd Gwener!

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu gyda Helen Jones ar 01239 652 162 / helenj@urdd.org

Cyfeiriad i ddychwelyd aelodaeth yw Adeilad Penhelyg, Gwersyll Llangrannog, Llangrannog, Ceredigion, SA44 6AE.


Cylch Meithrin Pentreuchaf - Croesawn naw plentyn i’r Cylch Meithrin y tymor yma .Croeso i Robin , Morgan , Guto, Ifan, Cian, Michael, Tomos, Mari, Beca ac Emyr. Croeso mawr i Anti Wendy hefyd-eu harweinydd newydd. Edrychwn ymlaen i glywed eich anturiaethau yn y dyfodol.

Cyfnod Sylfaen - Aeth y plantos yn ol flynyddoedd i gael gwybodaeth am offer cegin ffermydd erstalwm gyda chymorth Anti Gwenda o’r Archifdy.

Cawsom ymweliad gan y ffermwr,Gareth Wyn Jones oddi ar raglen Fferm Ffactor i’r ysgol i drafod sut mae ffermio ar fferm fynyddig.

Daeth synnau difyr iawn o’r ystafell athrawon un nos Lun pan gafodd rhieni plantos y Cyfnod Sylfaen wersi iaith.Noson ddiddorol gan Karen Cowtan sydd yn gweithio ar gyflwyno synnau’r wyddor gyda’r plant lleiaf.

Hwyl yr hwiangerdd newydd - Yn dilyn dysgu hwiangerddi casglodd plant y Cyfnod Sylfaen swm sylweddol o arian.Gyda’r arian prynwyd chwaraewr CD a chlustffonau a chasgliad mawr o lyfrau ar gyfer yr ardal ddarllen.Dymuna’r plant a’r staff ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unwaith eto.

Bl 3 a 4 - Braf ydyw cael croesawu John Dilwyn Williams i’r ysgol bob tro gan wybod fod ganddo stor o wybodaeth leol ddifyr dros ben.Cartrefi Llyn oedd y testun a mwynhaodd y dosbarth edrych yn ol ar hen luniau o’r gwahanol dai a chartrefi oedd o gwmpas yr ardal erstalwm gyda rhai yn ffynnu heddiw.

Daeth egwyl i’r dosbarth un prynhawn i hwylio dros y genlli.A dyna ddiwrnod braf o Fedi a gawsom i gael ymweld a’r ynys ei hun.Er yr holl aros i groesi ers mis Mehefin daeth y diwrnod o’r diwedd a buodd yn werth aros yr holl ddyddiau!Diolch yn fawr i Colin am ein croesi’n saff a diolch i Rhian am ein harwain ar yr ynys yn ei ffordd ddi-hafal.Cawsom y cyfle i rannu’r gan gyda Colin fel cefnogaeth iddo yn erbyn y parthau morwrol.Gobeithio y caiff dosbarthiadau’r dyfodol yr un profiad o gael troedio Enlli.

Bl 5 a 6 - Daeth Anita Daimond,archeolegwraig i’r dosbarth yr wythnso yma i drafod taith i Dre’r Ceiri.Bydd ysgolion lleol yn cyd-weithio ar becyn arbennig am y safle yn dilyn eu taith.Edrychwn ymalen at dywydd i gael dringo!
Dymunwn fel ysgol ddymuno adferiad buan o ran iechyd i Mr Hywel Hughes,Tegfan a braf yw ei weld ar ei feic hyd y lle.Yn yr yn modd dymunwn ur un fath i Mr Simon Crook,Mela a braf oedd ei weld yn yr ysgol yn ddiweddar.


26.09.12 www.footballcaroll.co.uk yn cynnig 10% o unrhyw werthiant i'r ysgol!


CROESO!
Estynnwn groeso cynnes iawn i nifer o wynebau bach newydd yn yr ysgol fis Medi. Mae gennym bymtheg o blantos meithrin yn cychwyn-croeso mawr i:
Harri, Deio, Iwan, Jack, Cian, Ceiri, Dewi, Gethin, Tomos, Jac, Caio, Emir, Cadi, Ffion a Lili.

Bydd gennym dri ar ddeg o blantos mawr yn aros drwy’r dydd a chroeso i chithau -
Morgan, Owen, Jac, Daniel, Toni, Ioan, Kian, Aron, Jake, Angharad, Alaw, Lili a Mared.

Estynwn groeso mawr yn ogystal i’w hathrawes Mrs Delyth Roberts ac i Mrs Helen Cookson i’n plith,gan obeithio y setlith pawb mewn dim o dro. Pob lwc i bawb yn eu blwyddyn neu ddosbarth newydd a dymunwn hynny i’r pedwar plentyn ar bymtheg a adawodd am yr Ysgol Uwchradd.

Credwch ni nad oedd llygaid sych yma yn yr ysgol ar y diwrnod olaf y tymor diwethaf pan roedd rhaid ffarwelio a Mrs Menna Morgan a Bl 6 yn ogystal a Mrs Griffith , Anti Llinnos ac Anti Sioned. Dymunwn yn dda iawn i Mrs Morgan ar ei hymddeoliad , i Delyth yn Ysgol Crud y Werin, Aberdaron, I Sioned ym Mhrifysgol Aberystwyth ac i Llinnos i’r dyfodol.


Logo newydd Siarter Iaith Gwynedd

Mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar, Elin Mair Roberts o Ysgol Pentreuchaf oedd enillydd cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer cynllun Cyngor Gwynedd i hybu’r Gymraeg.

Cafodd Siarter Iaith Ysgolion Cynradd Gwynedd ei lansio llynedd gyda’r nod o annog plant i ddefnyddio’r Gymraeg wrth chwarae a chymdeithasu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Yn ogystal â gwobr ariannol o £50, cafodd Elin fynd gyda dwy o’i ffrindiau i stiwdio cwmni Dylunio lleol Gringo ym Mhenygroes i weld y logo’n cael ei ddatblygu’n derfynol gan ddylunydd proffesiynol. Cafodd Ysgol Pentreuchaf hefyd werth £100 o docynnau llyfrau.

Dywedodd y Cynghorydd Siân Gwenllian, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae’n logo trawiadol sy’n dal y llygad, ac mae hefyd yn adlewyrchu un o negeseuon craidd y Siarter, sef fod siarad Cymraeg yn hwyl.”

Wrth i’r Siarter gael ei weithredu drwy holl ysgolion cynradd Gwynedd dros y flwyddyn nesaf, fe fydd statws aur, arian neu efydd yn cael ei ddyfarnu i ysgolion unigol yn ôl pa mor lwyddiannus y maen nhw wedi bod wrth annog plant i ddewis siarad Cymraeg.

Elin Mair Roberts efo’r logo buddugol
Elin Mair Roberts efo Justin Davies o gwmni dylunio Gringo

Newyddion Mis Mehefin 2012

Pili Palas-Bu criw y Cyfnod Sylfaen draw i Sir Fon i ganol y trychfilod a mwynhau eu hunain yn arw.Bydd criw’r Meithrin yn mynd yn fuan ar drip i lan y mor i gael hufen ia yng Nghricieth.

Enlli
-I bererindota bydd Bl 3 a 4 yn mynd ddechrau Gorffennaf gan obeithio am dywydd gwych fel y cawsom yno ddwy flynedd yn ol.Bydd Mrs Rhian Williams yn ein tywys ar yr ynys yn ei dull di-hafal ei hun!

Ar feic Peniffardding
-Dyna oedd can i ddiweddu cyfwyniad Bl 3 a 4 i’r hen ffyrdd o deithio yn yr ardal ddaeth a gwobr iddynt yng Nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.Llongyfarchiadau mawr a diolch eto i drigolion lleol.

Ar eu beiciau mae Bl 6 hefyd gan ddilyn cwrs beicio saff yn yr ysgol.Byddent hwythau yn derbyn tystysgrifau ar y diwedd.

Mei Mac
-Daeth Mei Mac at Fl 5 a 6 i greu cerdd am y mor a daeth at Fl 3 a 4 I ddangos y grefft o feddwl fel bardd.Gobeithio bydd ffrwyth llafur plant Bl 3 a 4 yn cael ei ddangos yn eu cerdd ar ol ymweliad Enlli.
Diolch i Alison Hargrave,biolegydd mor(Pen Llyn a’r Sarnau) ddaeth at Fl 3 a 4 i roi sgwrs am ei gwaith a pha greaduriaid i edrych allan amdanynt wrth deithio i Ynys Enlli.Cawsom gyfle i wneud gwaith celf yn ei chwmni yn dilyn sleidiau .

Mae Clwb Chwaraeon yr ysgol yn boblogaidd iawn tan arweiniad ein myfyrwyr.Carwn ddiolch o galon i’r ddau am eu cwmni a’u hymroddiad i’r ysgol.Mae gennym Glwb newydd wedi dechrau yn awr sef Clwb Ukelele a Chlwb TCHG.
Daeth cerddoriaeth fendigedig o un o’r dosbarthiadau un bore pan gawsom y cyfle i glywed pedwarawd llinynnol yn chwarae ac Ynyr ,disgybl Bl 5 o Ysgol Bontnewydd yn chwarae ffidil.Diolch yn fawr iddynt am eu cyngerdd i ni.Trefnwyd yr ymweliad gan Ganolfan Gerdd William Mathias.Gan obeithio bydd rhai o’r plant awydd gafael ynddi yn mis Medi.

Gwyl Hirddydd Haf
-Gobeithio y cawn Wyl lwyddiannus eto eleni a diolch yn fawr i rieni gweithgar am eu cefnogaeth.
Dymunwn wyliau haf cynnes a heulog i bawb!


NEGES GAN BLANT BLWYDDYN 5 A 6

"Clicia ar y gwefanau isod er mwyn rhoi help llaw i ti ddysgu dy dablau!!
(gan blant Blwyddyn 5 a 6)"

www.tablemountain.co.uk
www.mathszone.co.uk
www.crickweb.co.uk
www.nrich.co.uk
www.ictgames.co.uk


 

GWYL HIRDDYDD HAF PENTREUCHAF 2012

hirddydd haf Dewch yn llu i gystadlu yn yr wyl eleni! Rydym yn derbyn eich cynnyrch rhwng 1.00 a 5.00 o'r gloch DYDD IAU, 28 O FEHEFIN! - cliciwch yma


Neges gan y Prifathro

Ar ôl profi llwyddiant ac awyrgylch nodedig yr Eisteddfod ar faes Glynllifon yr wythnos ddiwethaf, yn wylaidd iawn y cyfleaf i chi fy malchder a fy niolch i bawb ohonoch a ymrôdd i'r gwaith o ofalu bod plant Ysgol Pentreuchaf yn cael y cyfle i brofi o'n diwylliant cyfoethog, boed hynny trwy weithgaredd Adran Pentreuchaf, Llithfaen neu ysgol, y cylchoedd a'r siroedd neu lwyfan y Brifwyl. Y mae i bawb a phopeth eu lle. Diolch hefyd i chwi rieni a fu'n ddiwyd eich gwaith a'ch cefnogaeth.

Gethin E Thomas


 

stadiwm

HYSBYSEB SWYDD: ARWEINYDD CYLCH MEITHRIN PENTREUCHAF - Cliciwch yma am wybodaeth

 


 

stadiwm

Criw o Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol y Gorlan hefo Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2012-2013 ar ol perfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Eryri Dydd Mawrth.


Cyfnod Sylfaen-
Bu criw draw dros yr enfys gyda Martin Geraint yn ddiweddar yn NEUADD Dwyfor Pwllheli .Bu’r criw crwydrol ym Meddgelert yn fuan wedyn yn ymweld a’r pentref ar ddiwrnod gogoneddus yng nghanol y tywydd sobor a gawsom.Cafodd pawb ymweld a bedd y ci a chael eu sbarduno gan y cerflun o’r hen gi i greu un eu hunain ar ol dychwelyd.Wedi sylwi ar yr harddwch o’u cwmpas,ymweld ag Eglwys Santes Fair a cherdder ar lan yr afon roedd ambell i bar o lygaid yn drwm iawn ar y bws y ffordd adref.
Mae garddwyr y Cyfnod Sylfaen wedi cychwyn harddu eu hardal y tu allan gyda blodau bendigedig mewn wellingtons sydd wedi mynd yn rhy fach i Mrs Griffith.Diolch am eich rhodd Mrs Griffith.

Bl 3 a 4-

Cymerodd y dosbarth ran mewn cystadleuaeth i ysgolion sydd yn cael ei gynnal gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ar ddechrau’r mis.Teitl ein cywaith oedd ‘Sut mae teithio yn ardal Pentreuchaf wedi newid’.Paratowyd cyflwyniad gan y plant  a gwahoddwyd  yr ardalwyr i’n plith i eistedd yn ol a mwynhau’r gwybodaeth a gasglwyd cyn eu holi am eu profiadau hwy o deithio .Carwn ddiolch o galon i Yncl Edward Y Fron,Yncl Ifan ac Anti Greta Brynhyfryd,Yncl Gwilym Y Felin,Anti Beryl Sychnant,Anti Jen Ty Corniog,Anti Nan ac Anti Meiriona,Anti Sioned,Yncl Gwilym Plas am gymeryd rhan mewn prynhawn hamddenol braf yng nghwmni’r plant a diolch hefyd i Yncl Twm Sychnant am ddod a’r Morus Meinor ar yr iard.Cafodd pawb dro bach yn y car rownd yr iard cyn mynd adref.

Bl 5 a 6-

Daeth Tammy Pritchard,rhiant ac athrawes ddawns atom i gynnal dosbarth ‘Dawns yr Ysbrydion’.Dyma ddawns egniol  oedd yn ddawns i’r Indiaid brodorol cyntaf.
Taith Caerdydd. Yn ddiweddar, bu disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld â’n prifddinas. Roedd yn dridiau llawn gweithgareddau diddorol, yn cynnwys ymweld â Stadiwm y Mileniwm ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Hefyd, cawsant flas ar sut beth yw bod yn wleidydd, gan drafod pynciau llosg yn y Cynulliad. (Bydd adroddiadau cynhwysfawr o’r daith gan y plant eu hunnain yn rhifyn nesaf Llanw Llyn ac ar ein gwefan www.ysgolpentreuchaf.org.)

Llongyfarchwn yr ysgol ar ennill y wobr CAM 2  gydag Ysgolion Iach.Ymlaen am  CAM 1!

YMWELWYR

Diolchwn i Mrs Parry nyrs ddeintyddol brysur ddaeth yma i roi sgwrs i ni am bwysigrwydd cadw dannedd yn iach.Diolch am eich sgwrs a’ch cynghorion.
Cafodd Bl 3,4 a 5 fwynhad mawr o gael cwmni cyn-ddisgybl i’r ysgol ar fore Gwener braf.Elain Lloyd ddaeth atom gyda’i beic.Mae Elain yn athletwraig ac yn ymarfer yn gyson tuag at rasys beiciau.Roedd gwrando arni yn siarad am sut mae’n mynd ati i gadw ei chorff yn iach ac yn abl i ymgymeryd a’i rasys yn hynod ddiddorol.Daeth ag offer amrywiol gyda hi yn cynnwys ei ‘thrainers’ beic arbennig,helmed gostus,diod powdwr  a llyfr cywaith am ei diddordeb.Ffwrdd a hi ar ei beic wedi ffarwelio  yn ol am Ben y bryn.Diolch o galon Elain a byddwn yn edrych allan amdanat yn y Gemau Olympaidd nesaf yn Rio!

Penderfynodd y Cyngor Ysgol noddi Elain a’i thad i feicio 62 milltir y dydd Sul canlynol  gan gychwyn ym Mlaenau Ffestiniog.Roedd Elain yn casglu arian tuag at Dy Gobaith.
Yn dilyn ein Thema cymerodd yr rhan fwyaf o’r plant y cyfle i fynd i weld y fflam ym Mhwllheli(rhai ar fys Dybyl Decar o Bentreuchaf)!Gwahoddwyd Elfed Morgan gwr lleol o Efailnewydd i’r dosbarth  y diwrnod canlynol i son am ei brofiad a thynnu lluniau gyda’r plant.Diolch i ti am dy amser Elfed.

Dyddiadau Pwysig-

Gwyl Hirddydd Haf – Mehefin 29- Noson o hwyl  i ddathlu’r Haf yn yr ysgol i gychwyn am 5.30y.h .Bydd gennym stondinau,castell neidio,barbeciw a llu o gystadlaethau wedi eu paratoi !!Dewch yn llu!!
Carwn fel staff a phlant yr ysgol ddiolch  i‘r gefnogaeth frwd a gafwyd yn ein cyfarfod diweddaraf o gyfeillion yr ysgol.



Taith Blwyddyn 6 i Gaerdydd 2012
- lluniau hefyd yn yr Albwm yn yr Adran Rhieni

Dydd Mercher, 23 o Fai

stadiwm

Dyma ni ar ol derbyn taith o'r Stadiwm bore ma! Ar ein ffordd adra wan, gobeithio cyrraedd erbyn 6 o'r gloch! Hwyl am y tro!
Plant Blwyddyn 6!


Dydd Mawrth, 22 o Fai

blwyddyn 6 Blwyddyn 6  
Bore da o Gaerdydd! Dyma ni yn y bae yn mwynhau heulwen y bore cyn mynd i gyfarfod yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn y Senedd. Pawb wedi cael noson dda o gwsg ac yn edrych ymlaen am ddiwrnod llawn o weithgareddau difyr! Hwyl am y tro!
Disgyblion Blwyddyn 6
canolfan mileniwm Taith Canolfan y Mileniwm!
   
neges heddwch Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn y Senedd yng nghwmni Dafydd Elis Thomas, Alun Ffred Jones, Leighton Andrews a chriw yr Urdd Eryri.

 

Dydd Llun, 21 o Fai

Pwllmawr
Dyma ni'n mwynhau'r heulwen ym Mhwllmawr!
Pawb yn mwynhau ac yn blant arbennig o dda.


Llongyfarchiadau mawr i Anti Sioned,Iolo ag Angharad a chroeso mawr i Meinir Rhys!

Cyfnod Sylfaen
Croeso mawr i Ms Llio Jones i blith y dosbarth meithrin a derbyn.Bydd Llio sydd yn fyfyrwraig T.A.R yma gyda ni tan Mehefin.
Ioga yw’r weithgaredd ddiweddaraf yn Neuadd yr Ysgol ar fore Gwener am chwe wythnos.Arweinir Sesiynau Stori Symud a Chan gan Mrs Gwenda Williams ac mae’r dosbarth meithrin yn werth eu gweld yn gorwedd a symud ar eu matiau porffor pwrpasol!
Braf oedd croesawu Nanw Griffith,cyn –ddisgybl yr ysgol yma atom ar brofiad gwaith.Gobeithio dy fod wedi cael budd o’r profiad.

Yr adnodd diweddaraf i’r ardal tu allan yw ffram ddringo.Rydym yn ddyledus iawn i nifer o rieni-Peter Read am drefnu i gael y ffram fel bod y plant ieuengaf yn cael ymarfer a datblygu eu sgiliau motor mawr :i Simon Crook am ei chludo i’r ysgol ,Haydn Jones am ei golchi,Dewi Hughes am ei weldio ac Emyr Jones am ei gosod ynghyd ag eraill a fu’n defnyddio bon braich!Diolch I Jewson am eu cyfraniad hwythau.Mae’r staff a’r plant yn gwerthfawrogi’r ymdrech yn fawr a’r plantos yn dyheu am ei defnyddio!
Ein Thema y tymor hen ydyw “Gelert” a byddwn yn ymweld a’r bedd yn y pentref.Byddwn yn astudio cynnlun yr Eglwys ac astudio’r creiriau diddorol o’i mewn.
Carwn ddiolch i Mr Sulyn Roberts a fuodd gyda Bl 1 a 2 cyn y Pasg yn sgwrsio am wahanol fapiau arhoi cyfle ymarferol i’r plant greu map o’r ysgol drwy ddefnyddio technoleg arbennig.

Mae criw gweithgar y Play People hefyd yn brysur yn cynllunio sut i wella amseroedd chwarae ar yr iard a’r cae.Maent eisioes wedi rhoi cyflwyniad i’r ysgol gyfan ar eu bwriadau yn dilyn yr holiaduron.Edrychwch allan ar eu cynllun ar wal yn y Neuadd.

Bl 3 a 4
Croeso mawr i Mr Iwan Lloyd atom.Mae yntau yn fyfyriwr T.A.R ac yn ein plith tan Fehefin.Ein Thema ni ydyw’r Gemau Olympaidd.
Cawsom ddiwrnod gwych eto yn Nant Gwrtheyrn yn yr C-Ffactor yn cael cymeryd rhan mewn gweithgareddau diddorol.

Bl 5 a 6
Thema yr hanner tymor yma gennym yw Paha Sapa.Byddwn yn astudio’r Indiaid Brodorol gyda Chief Gethin ‘Sitting Bull’ Thomas!!
Aeth criw o Fl 6 am ymweliad bore i Ysgol Glan y Mor gan fwynhau eu hunain yn profi ychydig o wersi Uwchradd.Bydd rhai yn dilyn yr un drefn wrth fynd i Fotwnnog yn ystod y mis yma.Cafodd Bl 6 ddiwrnod o weithdy cerdd yn ddiweddar wrth ddilyn Gweithdy Garage Band.Cyfansoddwyd cerddoriaeth ardderchog ganddynt gyda chymorth cyfrifiaduron Applemac a chafodd bawb recordiad o’u cerddoriaeth ar ddisg.Diolch i Richard am ei arweiniad.
Daeth Eurig Salisbury-Bardd Plant Cymru i’r dosbarth i weithio gyda’r flwyddyn olaf i greu cerdd fydd yn cael ei chyflwyno ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Eryri.Edrychwn ymlaen i gael ei chlywed.


Urdd
Carai’r Ysgol ddiolch o galon i gwmni C.L.Jones,Mynytho am yr adnoddau gwerthfawr a gafwyd i’r Urdd.
Llongyfarchiadau i fand yr Adran,ATOM.Maent yn un o bump band trwy Gymru sydd wedi eu dewis i gystadlu a pherfformio ar y llwyfan perfformio ar faes yr Urdd am 4 o’r gloch ddydd Llun cyntaf yr Eisteddfod.Os ydych yn crwydro’r Maes cofiwch ddod i gefnogi!Llongyfarchiadau i’r Ensemble hefyd. Byddant hwythau yn cystadlu ar y Dydd Llun yn ogystal ag Osian. Bydd gwaith bechgyn Blwyddyn 3 a 4 a ddaeth i’r brig am waith celf drwy Gymru yn cael ei arddangos yn y Babell Gelf a Chrefft.Da iawn hogia!


MIRI MAI

Diwrnod o adloniant a stondinau yn Nant Gwrtheyrn ar Sul 6 Mai - cliciwch yma



Croeso mawr i Dymor y Gwanwyn

“Gwanwyn meddai gwennol lasddu. Tymor cyrraedd nol i Gymru”     -Croeso mawr i Dymor y Gwanwyn a ffwrdd a’r dosbarth Cyfnod Sylfaen i weld arwyddion y tymor at Bont y Pandy gan gasglu a rhyfeddu ar y ffordd.


Aeth yr un dosbarth am yr Harbwr ym Mhwllheli gan eu bod wedi bod yn dysgu  nifer o ganeuon morio yn ddiweddar.Cafwyd sgwrs gan Mr Gwyndaf  Hughes am iechyd a diogelwch ar y mor cyn cael eu harwain ar y pontwns i weld y Bad Achub .Rhyfeddwyd at y cychod drudfawr sydd ym Mhwllheli!

Cafwyd Eisteddfod i’w chofio unwaith eto eleni ar Fawrth y  9 fed pan ddaeth
Ms Rhian Jones,Rhosfawr cyn –ddisgybl yr ysgol atom i feirniadu  mewn diwrnod llawn hwyl.Bu buddugoliaeth yng Nghystadleuaeth y Gadair wrth i Gronw Ifan ei chipio am gerdd ‘ Y Naid’.Llongyfarchiadau mawr Gronw ac i Owain Llewelyn yn ail ac Elin Mair yn drydydd.Diolch o waelod calon i gyn ddisgybl arall sef Eleri Williams,Castell,Pistyll am feirniadu holl gystadlaethau llen,barddoniaeth a ffotograffiaeth yr Eisteddfod.Roedd aelodau’r Orsedd-Yr Hybarch Archdderwydd ei hun yn ei gapan gawod,Eleri o’r Sowth,Menna Gesail,Einir Pant yr Hwch,Heulwen o’r Garn,Beti o’r Rhos,Delyth Porth Penwaig,Wendy o’r Foel,Julie o’r Waun,Llinnos o’r Bryn,Sioned o’r Deg Fan,Sharon ‘Stumdwy ac Alaw o’r Sarn ym ymfalchio yn y ffaith eu body n cael paredio yn eu cobenni!

  Daeth llys coch yn fuddugol.Da iawn Carnguwch; llys glas Mela yn ail a ‘r llys gwyrr Pemprys yn drydydd.Diwrnod i’w gofio


Daeth cwmni MAGNOX at  flwyddyn 3,4,5 a 6 I adeiladu pontydd gyda KNEX yn ddiweddar. Mwynhawyd y gweithdy yn fawr a chreuwyd pontydd i fedru dal 1 kg.

Buodd yr ysgol yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth i ennill ymweliad gan Gwmni ‘The Cool Seas Roadshow’ un bore Llun.Gwelwyd modelau rwber o ddolffiniaid,llamhidyddion a morfilod.Rydym fel ysgol yn casglu topiau poteli plastig-20 y plentyn er mwyn eu troi yn git tim chwaraeon .


Dewiswyd Rhian a Dylan  Bl 5 yn Lysgenhadon yr ifanc.Byddant yn dewis offer chwaraeon newydd .Buodd y ddau yn ddiweddar yn Archfarchnad Asda yn derbyn offer a hadau garddio. Diolch yn fawr i Asda.

Er mwyn sicrhau fod plant Ysgol Pentreuchaf yn parhau i dderbyn y profiadau gorau gallwn eu darparu iddynt, gwahoddwyd Capten Robin Aled Davies o gwmni Easy Jet, i gynnal sgwrs â disgyblion Blwyddyn 5/6 ar y 27 o Fawrth 2012.  Yn dilyn y sgwrs, cytunodd Capten Davies wedi i hedfan criw o blant y dosbarth mewn awyren fechan o Dinas Dinlle drwy fwlch Llanaelhaearn, yna cylchu’r ysgol cyn dychwelyd ar hyd yr arfordir.

Yn anffodus, dim ond 6 o ddisgyblion oedd digon ffodus i dderbyn y profiad (3 trip). Felly, er mwyn tegwch, bu rhaid tynnu enwau’r plant allan o het!  Heb amheuaeth, roedd hwn yn brofiad unigryw ac arbennig iawn lle cafodd y plant brofiadau gwerthfawr a chofiadwydros ben.

 

 


Cafodd Bl 6 ddiwrnod gwych yn Nant Gwrtheyrn yn dilyn gweithgareddau i ddathlu Gwyl Ddewi. Cafodd Bl 3 a 4 hefyd ddiwrnod cyntaf o bedwar yn cael cymeryd rhan mewn gweithgareddau o Gelf gyda Luned Rhys Parri,Rapio gyda Ed Holden,Drama gyda Cefin Roberts a Sioned Webb ,Cerdd gyda Arfon Wyn a Dawns gyda Colin Daimond.

Gwnaeth Adran Urdd Pentreuchaf yn dda iawn yn Eisteddfod Cylch a Sir yr Urdd.Daeth yr ensemble lleisiol a’r ymgom yn ail,y parti cerdd dant yn drydydd,Gronw yn drydydd ar ei alaw werin a cherdd dant,Owen William yn ail am ganu cerdd dant a daeth un dyn bach yn gyntaf .Bydd Osian yn cynrychioli Adran Pentreuchaf yng Nglynllifon drwy ganu unawd ‘Hufen Ia’.Llongyfarchiadau mawr i ti a phob lwc!

Llongyfarchiadau hefyd i Dim Peldroed yr adran am ddod yn fuddugol yn y Twrnament 5 bob ochr yng Nghaernarfon.Byddent yn cynrychioli’r Adran yn Aberystwyth fis Mai.
Mae deuddeg disgybl wedi ymuno i gymeryd rhan yn Sioe Cynradd yr Urdd yn Eisteddfod Eryri gyda Mr Kenneth Hughes.Rydym yn edrych ymlaen i weld y sioe.

 


Blwyddyn 5 a 6 yn cael hedfan

pilot yn dinas dinlle

Er mwyn sicrhau fod plant Ysgol Pentreuchaf yn parhau i dderbyn y profiadau gorau gallwn eu darparu iddynt, gwahoddwyd Capten Robin Aled Davies o gwmni Easy Jet, i gynnal sgwrs â disgyblion Blwyddyn 5/6 ar y 27 o Fawrth 2012. Yn dilyn y sgwrs, cytunodd Capten Davies i hedfan criw o blant y dosbarth mewn awyren fechan o ddinas Dinlle drwy fwlch Llanaelhaearn, yna cylchu’r ysgol cyn dychwelyd ar hyd yr arfordir!

Nid oedd cost yng nghlwm â hyn o gwbl! Yn anffodus, dim ond 6 o ddisgyblion oedd digon ffodus o dderbyn y profiad (gan fydd angen hedfan o leiaf tair gwaith i sicrhau hynny). Felly, er mwyn tegwch, roedd angen i ni dynnu enwau’r plant allan o het. Yn dilyn hyn, dewisiwyd Elin, Owen, Llinos, Beca, Guto a Dylan i hedfan dros yr ysgol!! Heb amheuaeth, roedd hwn yn brofiad unigryw ac arbennig iawn lle gafodd y plant brofiadau gwerthfawr a chofiadwy dros ben.

Mwy o luniau yn Adran Ddiogel y Rhieni


Cadair Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf 2012

cadair

Dydd Gwener, 9fed o Fawrth, bydd disgybl o Ysgol Pentreuchaf yn cael ei anrhydeddu â'r Gadair hon am arddangos doniau o safon uchel mewn llenyddiaeth.

Fe'i chrewyd gan Dewi Williams, Llithfaen, yn dilyn trafodaethau creadigol gyda'i wyr, Rhys o Flwyddyn 6.


Diolch yn fawr iawn i Mr Williams a Rhys am roi eu amser i greu campwaith i Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf 2012.

 


 

Pel Droed -Cymerodd Bl 3,4 5 a 6 ran mewn Twrnament Peldroed Hafod Lon yn ddiweddar.Daeth Owain Llewelyn a thlws Chwaraewr y Twrnament yn ol i’r ysgol.Llongyfarchiadau mawr Owain ac i’r ddau dim a chwaraeodd gem 5 bob ochr ar gae Ysgol Cymerau.

 



Llongyfarchiadau -Da iawn Stepen Bl 4 ,Osian a Lewis Bl 3.Dyma’r tri gafodd eu gwobrwyo am eu posteri I wledydd y byd i Siop Deithio Wonderling ym Mhwllheli.Da chi rieni ewch i weld yr holl bosteri yn ffenest y siop.Maent yn werth eu gweld.Diolch i Jill a Renee am eu gwobrau hael.


Crempog - Gobeithio y daeth Modryb Elin Ennog at lawer o blant yr ysgol .Dyma drafodaeth yn nosbarth Mrs Morgan pan alwodd Myrddin draw i glywed sgwrs y plantos am grempog.Os am ddarllen yr hyn a drafodwyd mae yn rhifyn y mis yma o’r cylchgrawn Llafar Gwlad.


SEREN SIW -Daeth Seren Siw i ddosbarthiadau y Cyfnod Sylfaen ar Fawrth y Cyntaf i feriniadu’r wisg orau fel cymeriad o Gwm Rhyd y Rhosyn .Dyma’i llun hefo’r enillwyr.Diolch i bawb am eu hymdrech.


Glan Llyn -Dyma ble roedd Bl 3 a 4 ar ddiwrnod crempog.Cafwyd amser gwerth chweil er gwaethaf y tywydd gwlyb.Cawsom brofiadau bendigedig yn canwio,dringo,rhwyfo a bowlio deg heb son am y sgwrsio a’r bwyta da das!Chlywais i rioed y dosbarth mor ddistaw a phan oeddem ar Lyn Tegid a’r gwynt yn chwythu’r glaw ar ein bochau a’n gwalltiau a phawb mewn siacedau achub a dillad atal glaw coch a melyn- fel pysgod aur gwlyb socian.Profiad gwahanol i bawb fydd yn aros yn y cof am byth!


Dawns i bawb - Bydd ymweliad olaf Despina o Gwmni Dawns i Bawb atom ar Fawrth yr 2 il pan fydd ein dawnswyr ym Ml 3 a 4 yn perfformio eu dawnsfeydd Groegaidd i’r ysgol.Edrychwn ymlaen!
Urdd- Mae plant yr Adran wedi bod yn hynod brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi at yr Eisteddfod.Dymunwn bob lwc i bawb yn unigol ,mewn grwpiau a phartion ddydd Sadwrn yn yr Eisteddfod Gylch a phob lwc hefyd i fand roc newydd sydd wedi ffurfio yma i gystadlu yn yr Urdd o’r enw ATOM.Cewch restr gigs yn fuan!


Llongyfarchiadau i’r ysgol.Derbyniwyd dwy wobr yn ddiweddar.Cawsom Wobr Arian Ysgolion Gwyrdd a Gwobr Lefel Efydd Ysgol Awyr Agored.

Mae dosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen yn teithio trwy Gwm Rhyd y Rhosyn y tymor yma gan ddysgu’r caneuon difyr a hwyliog.Bydd un o’r Cwm hyfryd yma-Edward Morus Jones yn ymuno a phawb yn yr ysgol y mis nesaf i gyd-ganu.
Mae gan y dosbarth gegin bach hen ffasiwn erbyn hyn ac mae’r plant wedi profi ychydig o uwd ac wedi gwneud paned o de dail.Mae ei hangen ar ddiwrnodau mor oer!!

Daeth P.C John i’r Cyfnod Sylfaen gan roi arweiniad ar bobol sydd yn ein helpu yn ein cymdeithas.

Llongyfarchiadau i Ser y Syrcas.Plant sydd wedi mynychu’r Llyfrgell o leiaf 4 gwaith dros wyliau’r Haf i ddiwedd Medi ydi’r ser bach yma.Da iawn Lewis a Jac,Sianed a Dylan,Cynwal,Huw Jones a Guto Llyfnwy.

Blwyddyn 3 a 4
Gan mai ar wledydd y byd mae Bl 3 a 4 yn canolbwyntio y tymor yma ,caiff y plant wersi dawns gan Gwmni Dawns i Bawb i greu dawns greadigol gan gasglu syniadau o wlad Groeg.Maent yn mwynhau’r sesiynau gyda Despina sydd yn dod yn wreiddiol o wlad Groeg.Byddent yn perfformio’r ddawns i’r ysgol ar ol hanner tymor.

blwyddyn 3 a 4 Cafwyd gwibdaith fer am dro i’r dre yn ddiweddar gan y dosbarth.Daliwyd y bws o du allan yr ysgol.Wedi cael ticed i’r criw i gyd aethom yn gyntaf i Siop Deithio Wonderling a derbyn croeso mawr gan Renee a Gill

.Gofynwyd llu o gwestiynau iddynt am wyliau pobol Pen Llyn a chafwyd atebion diddorol iawn.Diolch i’r ddwy am agor eu drws i ni a rhannu ffeithiau,beiros a siocledi!Mae’r ddwy wedi gosod her i ni fel dosbarth i greu posteri ar gyfer gwledydd gwahanol.Bydd y tri enillydd yn cael gweld eu posteri yn ffenest y siop.Cofiwch edrych!Wedi treulio ychydig amser yn y Llyfrgell ac annog darllenwyr i ymaelodi agorodd Llio ei drws i ni yn Caffi Tonnau a chawsom fwyta ein pecynnau bwyd mewn cynhesrwydd.Diolch yn fawr,Llio.I orffen aeth y dosbarth i Spar Pwllheli i nodi o ba wledydd mae ein ffrwythau a llysiau yn dod.Yna aeth Nain Bruce a ni o amgylch y siop i ddangos i ni faint yn union o gynnyrch lleol sydd ar gael yn y siop.Chwiliodd pawb am faner fach Gymraeg a sylweddoli fod stor dda iawn o gynnyrch lleol a Chymreig yma.

Croesawyd John Dilwyn Williams i’r dosbarth i edrych ar ffyrdd o deithio yn yr ardal erstalwm.Mae bob amser yn werth clywed Dilwyn yn rhannu ei wybodaeth a chawsom ddysgu llawer am drafnidiaeth leol.Mae’r dosbarth am apelio ar ardalwyr Pentreuchaf/ardaloedd cyfagos am hen luniau o unrhyw fath o deithio-boed yn gerdded/ceffyl/hen fys neu gar.Bwriadwn gynnal arddangosfa i’r ardalwyr yn fuan.Diolch am eich cefnogaeth.

Mae’r dosbarth yn cyfri’r dyddiau tan eu gwibdaith a chael aros dros nos yng Ngwersyll Glan Llyn ar ol yr hanner tymor yng nghwmni ffrindiau newydd o Ysgol Edern.Cewch yr hanes yn y rhifyn nesaf!

Gwibdaith Blwyddyn 5 a 6 i ddinas Dinlle

bl 5 a 6 awyren hofrennydd


Ar dydd Iau 26ain o Ionawr fe gawsom ni, blwyddyn 5 a 6 fynd ar ymweliad ag Amgueddfa a Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle. Roedd llawer ohonon ni wedi dod a barcutiaid gyda ni hefyd—a fe gawson ni gyfle i’w hedfan nhw cyn dychwelwyd yn ôl i’r ysgol. Roedd yr Amgueddfa Awyr yn ddiddorol iawn—ac yn orlawn o hen hofrenyddion a modelau o awyrenau. Roedd angen trwy’r dydd dydd i weld popeth! Roedd gweld a chyfarfod gweithwyr yr Ambiwlans Awyr yn brofiad gwerthfawr hefyd. Tra’r oedd y criw cyntaf wrthi yn holi un o weithwyr yr Ambiwlans Awyr, fe ddaeth na alwad ffôn frys, ac roedd rhaid i’r criw fynd i ateb yr alwad!

y tim y tim  

Cystadleuaeth ‘Formula 1 in Schools’
Rydan ni’n chwech - Owain, James, Tom, Rhys, Ceiri a Gronw, wedi bod yn hogia’ prysur iawn dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf yma, wrth i ni gymryd rhan yng nghystadleuaeth Formula 1 in Schools. Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Pentreuchaf gymryd rhan yn y gystadleuaeth ryngwladol yma, ac roedd y profiadau a gawson ni fel tîm ‘Y Wennol’ yn fythgofiadwy!

Roedd yna bedair rhan i’r gystadleuaeth. Yn gyntaf roedd rhaid cynllunio a chreu model o gar i’w rasio gan ddefnyddio pren balsa. Yn ail, roedd rhaid i ni lunio portffolio er mwyn dangos y broses o greu’r car - o’r gwaith cynllunio ar y dechrau, i baentio ac addurno ar y diwedd. Cynhaliwyd y rownd ranbarthol ar Ionawr 30ain ym Mhrifysgol Bangor, ac yno roedd yn rhaid i ni baratoi cyflwyniad i’r beirniad yn ogystal â gosod stondin i hyrwyddo tîm ‘Y Wennol’. Mae gan bawb ei gryfderau, a’r hyn sy’n grêt am gystadleuaeth yma ydi fod pawb yn cael y cyfle i ddefnyddio a dangos eu cryfderau drwy weithio fel rhan o dîm.

Y peth cyntaf a wnaethon ni fel oedd cael rhyw fath o ‘storm syniadau’. Roedd hyn yn syniad da iawn gan ein bod yn gallu cael trefn go-lew ar ein syniadau ni’n weddol gynnar. Roedd yna ambell beth yn gwbl afrealistig - go brin y basen ni wedi cael amser i ‘bicio’ i Silverstone a ninnau hefo gwaith cynllunio car o’n blaenau! Mi aethon ni ymlaen wedyn i ddechrau cynllunio’r car drwy ddefnyddio rhaglen Solid Works ar y cyfrifiadur. Mi gynllunion ni gyfanswm o bump o geir cyn dewis y cynllun Owain fel ein fersiwn terfynol. Roedd yna lawer o briodweddau yn perthyn i’r car arbennig yma gan ei fod yn ysgafn, yn aerodynamig ac yn cyd-fynd â rheolau caeth y gystadleuaeth.

Ond diwedd y gân ydi’r geiniog wrth gwrs, ac er mwyn i ni gael y defnyddiau pwysig fel paent, papur llyfnu a phapur argraffu, roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i noddwyr. Felly’r cam pwysig nesaf oedd llythyru busnesau lleol a chenedlaethol, gan ofyn iddyn nhw am unrhyw gymorth neu nawdd. Fe fuasem ni’n chwech yn hoffi diolch o galon i - Gwynedd Disposables, Bron y Fedw Hydro a Lakedigital am bob nawdd a chymorth ar hyd y daith.

Roedd mynd i Brifysgol Bangor i weithgynhyrchu’r car yn brofiad gwych hefyd. Roedd cael gweld y car yn cael ei dorri gan y peiriant CNC yn brofiad anhygoel, a braf oedd cael gafael yn ein car yn y diwedd, a gweld ffrwyth ein llafur caled ni dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Ond, heb os nac oni bai, un o brofiadau gorau’r gystadleuaeth oedd diwrnod y rownd ranbarthol ym Mhrifysgol Bangor. Roeddan ni gyd wedi trefnu bod yno’n gynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cael safle da i osod ein stondin, a pheth braf oedd clywed y bobl a ddaeth i’n gweld yn brolio ein holl waith caled. Fe deithiodd ein car yn hynod chwim ar y trac rasio, ac fe aeth ein cyflwyniad ni i’r panel o dri beirniad yn wych!

Yn anffodus, ni ddaethom yn fuddugol yng nghystadleuaeth Formula 1 in Schools eleni; ond, mae profiadau'r wythnosau a’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn amhrisiadwy, a bellach mae yna fwy nac un ohonom ni wedi rhoi’i fryd ar weithio gyda cheir. Gwyliwch allan ddarllenwyr Llanw Llŷn, efallai mai un o aelodau brwdfrydig tîm ‘Y Wennol’ fydd Sebastian Vettel neu Lewis Hamilton y dyfodol!


Dim ond nodyn byr er mwyn eich hysbysu fod diwrnod Hyffforddiant Mewn Swydd wedi ei drefnu ar gyfer Dydd Mawrth, 3 Ionawr 2012.

Dim ond arian cinio/llefrith am 3 diwrnod fydd ei angen yr wythnos yma felly.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Llanw LLyn - Rhifyn Hydref

Erbyn hyn mae gennym faes parcio i’r ysgol gyda digon o fannau parcio i’r rhieni nol a danfon eu plant yn rhwydd  a diogel i’r ysgol.

Mae’r Cynllun Nofio o Flwyddyn Derbyn  i fyny yn mynd o nerth i nerth a’r plantos lleiaf yn elwa’n fawr o’r profiad.Bydd gennym bysgod bach chwim yn fuan iawn!!

Ddechrau mis Hydref cafodd Bl 5 a 6 ymweliad gan P.C Rowlands i drafod effeithiau ysmygu a chyffuriau.Cafodd y plant fudd o’r sgwrs.

HEI HO HEI DI HO-FI YW SIPSI FACH Y FRO!Dathlu diwrnod T.Llew Jones-Roedd yma sipsiwn,mor adron, tylluanod a lladron pen ffordd yn llenwi’r ysgol-yn staff a phlant i ddathlu diwrnod T.Llew Jones.Mwynhaodd pawb drafod ei waith  yn eu gwisgoedd lliwgar.

Bu Antur Waunfawr yn casglu dillad ac ati’n ddiweddar gennym.Diolch i bawb am dyrchu drwy’r cypyrddau!

Cawsom wasanaeth Diolchgarwch fore Gwener cyn hanner tymor .Paratodd pob dosbarth eu diolchiadau. Roedd criw y Cyfnod Sylfaen yn diolch am yr Hydref tra roedd Bl 3 a 4 yn diolch am ein bwyd a Bl 5 a 6 yn diolch am ein cyrff.Paratowyd arddangosfa hyfryd yn y Gwasanaeth o addurniadau toes gan y plantos bach a llysiau a ffrwythau gan weddill yr ysgol.Rhannwyd y ffrwythau a’r llysiau gyda Chartref Henoed Plas Hafan,Nefyn .

Cafwyd Gem Beldroed  gyfartal rhwng yr Ysgol ac Ysgol Cymerau.

Carai dosbarth Bl 3 a 4 a Bl 1 a 2 ddiolch o galon i rieni am eu cefnogi mewn dwy fenter yn ddiweddar.Gan fod angen clustogau newydd i’w dosbarth penderfynodd dosbarth Mrs Humphreys gasglu arian trwy agor siop tost bob amser chwarae am bythefnos.Diolch yn fawr iawn i Nain Meleri am y jam cartref blasus ac i Nain a Taid Greta am y mel hyfryd.Daeth Cynwal a photyn mel o’r Swisdir i’w brofi hefyd.Erbyn hyn mae gennym glustogau lliwgar diolch i ddwylo medrus Anti Heulwen!Agorodd dosbarth Mrs Jones siop ‘Dinca  Fale’ yn eu dosbarth hwythau i gasglu arian at offer newydd i’w dosbarth .Bwytawyd cacennau  afalau blasus.Diolch i bawb.

Croesawn Matt Duggan i’r ysgol atom sydd yn rhoi sesiynau chwarae rygbi i ddosbarth Mr Thomas a Mrs Humphreys.Daw Matt o Seland Newydd ac mae wedi dod draw atom ni’r Cymry am ychydig o dups!

Llongyfarchiadau mawr i’r plant a sicrhaodd Wobr Arian Ysgol Eco i’r ysgol trwy ymgymeryd a thasgau fel plannu , garddio ac ail-gylchu.Ymlaen am yr aur!

Daeth Mr Wyn Owen atom i wasanaeth ysgol gyfan er mwyn dangos sleidiau a rhannu gwybodaeth am Operation Christmas Child.Gwelsom faint oedd y bocsys yn ei olygu i blantos bach yr Iwcrain gan obeithio bydd gennym lawer o focsys i’w rhannu eto y flwyddyn yma.Cawsom gyfle i ganu can arbennig sydd gennym fel ysgol am yr ymgyrch  sef ‘Can y Bocsys Gwyn’.


EICH DILLAD, EICH YSGOL

poster

EICH DILLAD, EICH YSGOL

DYDDIAD CASGLU 20/10/11

Cefnogwch Ysgol Pentreuchaf ac Antur Waunfawr drwy ail-ddefnyddio dillad.

Gadewch eich bag yn yr ysgol ar 20/10/11 (dim cynharach os gwelwch yn dda)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Diolch
Diolch i gwmni recordio Fflach am eu rhoddion hael i'r ysgol - rydym yn gwerthfawrogi'r CD's cymraeg hen a newydd yn ein llyfrgell! Diolch Fflach! mwy...


Croeso
Croeso mawr iawn i griw o 12 o blantos bach Meithrin ac i’r 13 o blantos mawr Derbyn sydd wedi hen setlo i aros drwy’r dydd hefo ni. Gobeithio’n fawr fod yr ugain o blant a ffarweliodd a ni yn setlo yn Ysgol Glan y Mor a Botwnnog hefyd. Mae’r dosbarthiadau eraill i gyd yn setlo’n dda iawn yn eu dosbarthiadau newydd ac yn edrych ymlaen am dymor prysur.

Gwneud Jam

Mae dosbarth Mrs Morgan a Mrs Jones wedi bod yn brysur iawn yn jamio.Cafwyd ymweliad gan Ffion Cae Cymro i ddangos i’r dosbarthiadau sut i fynd ati i wneud jam.Daeth Gwenda o’r Archifdy i arddangos offer y gegin a sut aethpwyd ati i weithio ynddi erstalwm. Ffwrdd a nhw un prynhawn gyda’u pwcedi bach i gasglu mwyar duon ar hyd lon Glanrhyd.Wir i chi mae hi fel ffatri jam yn yr ystafell athrawon.Mae pob un wedi mwynhau’r broses o wneud a blasu ac mae’r potiau bach yn werth eu gweld gyda chaead wedi ei wnio gan pob un.Da iawn chi! Siwtni fydd ar y fwydlen wythnos nesaf.

Crwban
Cafwyd ymweliad gan grwban arbennig iawn at y criw bach un prynhawn.Daeth Dot a Helga i ddweud helo wrth y plant gyda’i berchennog ,Gwyn a Beca Gwilym.

Criw Celf a Sgwad Sgwennu

sgwad sgwennu sgwad sgwennu a criw celf Carwn fel ysgol longyfarch chwe disgybl o Fl 6.

Cyn gwyliau’r haf cawsom wybod fod Elin Roberts,Owain Llewelyn,Llinos Tyne,Ceiri Humphreys a Beca Gwilym wedi eu dewis yn aelodau o Griw Celf 2011/12.Dewiswyd y pump gan William Selwyn a Luned Rhys Parri a byddent yn elwa’n fawr o gael chwe sesiwn gyda gwahanol artistiaid ar hyd y flwyddyn.

Yn dilyn gwyliau’r haf cafwyd newyddion da eto o wybod fod Elin Roberts,Beca Gwilym a Huw Mears wedi eu dewis i fod yn aelodau o’r Sgwad Sgwennu ac eisioes wedi cael un gweithdy yn creu barddoniaeth gyda Mei Mac yn Oriel Glyn y Weddw.Llongyfarchiadau mawr i chi ac edrychwn ymlaen i weld eich gwaith ar ol y gweithdai.

Tynnu Lluniau
Byddwn yn tynnu lluniau yn yr ysgol Fore Gwener Hydref 7 fed. Os oes unrhyw frawd neu chwaer fach eisiau dod i dynnu llun mae croeso mawr i chi ddod i’r ysgol am hanner awr wedi wythy bore.
Pob lwc i dim peldroed yr ysgol Fore Gwener Medi 30 pan fyddant yn chwarae yn erbyn Ysgol Llangybi.



Meithrin

trip meithrin trip meithrin Buodd y criw meithrin ar wibdaith i draeth Cricieth yn ddiweddar a chafwyd diwrnod wrth eu boddau yn cerdded y traeth a siopa yn y siop hufen ia enwog cyn ymweld a Fferm Gwningod yn Llanystumdwy

Roedd gwen fawr i'w weld ar eu wynebau bach yn cyrraedd yn ol i'r ysgol.

Mae'r bysedd bach gwyrddion wedi bod yn cyd-weithio a Bl 5 yn ddiweddar yn plannu letys yn ein gardd.Bydd y letys bach yn cystadlu yn ein Gwyl Hirddydd Haf yn fuan.Pob Lwc!

Mae criw heini iawn yn y Meithrin a'r traed bach wedi ymarfer tuag at ein Mabolgampau.

Mae criw y dosbarthiadau ieuengaf wedi gwirioni ar eu twb tywod anferth allan ar iard y Cyfnod Sylfaen.Carai'r plantos i gyd ddiolch o galon i dad Mared Bl 2 am ei gymorth parod.Erbyn hyn mae caead i'r twb sydd yn gwneud llwyfan penigamp i'n doniau bach!

Bydd y criw meithrin yn ymuno a ni am ginio ar y Dydd Llun olaf pan fydd pob dosbarth yn cael blas o fod yn eu dosbarth newydd fis Medi.

Derbyn,1, 2 a 3

Yng Nglynllifon y bu'r criw prysur yma yn cerdded y llwybrau,edmygu'r 'ffownten',ymweld a'r amffitheatr .Ar ol pecyn bwyd buont yn ymweld a gardd berlysiau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn braslunio ac yn cael gwybodaeth am y planhigion sydd yn tyfu yno.Cafwyd toriadau o blanhigion i'n gardd fach ninnau yma'n yr ysgol.Mae Blwyddyn 3 wedi cael hwyl garw wrth dyfu perlysiau eisioes!Diwrnod difyr iawn!

Bydd y dosbarth yn gwibdeithio i draeth Cricieth cyn y gwyliau i archwilio pethau byw gyda Swyddogion Cadwraeth.

Archwilio creaduriaid bach yn y goedwig wnaethant ar ymweliad a choedwig leol Ty Du.Gan nad ydyw llawer o blantos yn cael y cyfle'n rheolaidd i ddringo,creu cacenni mwd a mwynhau natur roedd y profiad yn werthfawr iawn.Casglwyd deunyddiau-yn ddail,brigau a blodau i wledd Seithennyn .Mae'r dosbarth wedi body n gweithio'n ddiwyd ar Stori Cantre'r Gwaelod yn y dosbarth.Bydd y criw anturus yn dychwelyd i'r goedwig i adeiladu lloches cyn diwedd y tymor.

Carai Bl 3 ddiolch yn fawr i Miss Davies am eu dysgu drwy foreau y flwyddyn ddiwethaf.Bydd colled ar eich hol Miss Davies a dymunwn pob lwc i chi i'r dyfodol.

Bl 4 a 5

Mae criw Bl 5 wedi gweithio'n galed iawn yn yr ardd ac mae eu cynnyrch yn dechrau dwyn ffrwyth.Mae gennym fefus bendigedig diolch i Huw Mears a Llinos Tyne am arwain y fenter.Mae'r afon,letys,betys,gorbwmpen,shibwns,moron a'r cennin bron yn barod.Siawns na fydd gennym gynnyrch i gystadlu yn ein gwyl Hirddydd Haf.Cafodd amryw ruddygl i fynd adref i'w rhoi yn eu salad.

Mae Bl 4 a Bl 2 wedi creu gwesty pryfetach ac mae pryfaid Pentreuchaf wedi ymgartrefu yn eu gwesty moethus yma'n yr ardd.

Llond blwch o fefus cochion ffres wedi eu casglu yn syth o'r ardd organig!Dyna oedd gwobr Bl 4 a 5 wedi cyrraedd Fferm Tre Ddafydd .Ar ol sgwrs am wahanol gelfi garddio a sut mae trin planhigion bychain,aethpwyd a ni gan Mr Vincent Mears oddi amgylch y fferm a'r holl gynnyrch blasus oedd yn ei dyfu yno.Roedd pawb wrth eu boddau yn cael llond cae o fefus braf i'w casglu a gwefusau cochion braf yn gwenu!Carwn ddiolch yn fawr i Mr a Mrs Mears am eu croeso cynnes iawn a braf oedd cael cynnal dosbarth ar fels o wair o flaen golygfa mor ogoneddus ar ddiwrnod braf o haf!

Cafwyd cwmni'r artist Luned Rhys Parri yn y dosbarth un dydd Gwener gwlyb.Ond ni amharodd hynny o gwbwl gan nad oedd neb eisiau mynd allan o'r dosbarth beth bynnag.Lluniwyd modelau bendigedig a gobeithio y byddant yn cael eu harddangos yn yr ysgol yn fuan.Mwynhaodd pob aelod o'r dosbarth!

Mae Bl 4 a Bl 2 wedi creu gwesty pryfetach ac mae pryfaid Pentreuchaf wedi ymgartrefu yn eu gwesty moethus yma'n yr ardd.

Llond blwch o fefus cochion ffres wedi eu casglu yn syth o'r ardd organig!Dyna oedd gwobr Bl 4 a 5 wedi cyrraedd Fferm Tre Ddafydd .Ar ol sgwrs am wahanol gelfi garddio a sut mae trin planhigion bychain,aethpwyd a ni gan Mr Vincent Mears oddi amgylch y fferm a'r holl gynnyrch blasus oedd yn ei dyfu yno.Roedd pawb wrth eu boddau yn cael llond cae o fefus braf i'w casglu a gwefusau cochion braf yn gwenu!Carwn ddiolch yn fawr i Mr a Mrs Mears am eu croeso cynnes iawn a braf oedd cael cynnal dosbarth ar fels o wair o flaen golygfa mor ogoneddus ar ddiwrnod braf o haf!

Cafwyd cwmni'r artist Luned Rhys Parri yn y dosbarth un dydd Gwener gwlyb.Ond ni amharodd hynny o gwbwl gan nad oedd neb eisiau mynd allan o'r dosbarth beth bynnag.Lluniwyd modelau bendigedig a gobeithio y byddant yn cael eu harddangos yn yr ysgol yn fuan.Mwynhaodd pob aelod o'r dosbarth!

Gyda'r dyddiau'n prinhau i flwyddyn ola'r ysgol byddent yn cael Swper Ffarwel yng Nglasfryn ar ol gem o Fowlio Deg ar yr wythnos olaf.Bydd yn rhyfedd iawn yma fis Medi ond dymunwn y gorau i'r ugain ohonoch a da chi dewch yn ol i'n gweld.

Byddwn yn ffarwelio hefyd ac Anti Elin sydd wedi bod hefo ni ers y Pasg.Diolch o waelod calon Anti Elin am eich holl waith yma a diolch yn FAWR iawn gan Kayleigh!

Llongyfarchiadau

urdd urdd Carwn fel ysgol longyfarch Ardan Urdd Pentreuchaf. Daeth y genod ym Ml 6 yn fuddugol am greu arteffact a'r ensemble lleisiol yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe.Arbennig iawn!

Bydd yr ensemble a'r parti cerdd dant yn perfformio mewn cyngerdd yn Neuadd Rhoshirwaun ar nos Iau,Gorffennaf 14 a bydd cyfle i'r ensemble a chor yr ysgol gael eu recordio ar gyfer y rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yng Nghapel Llwyndyrys yn ystod yr wythnos olaf.

Daeth pawb i'r ysgol yn eu denims un dydd Gwener i gasglu arian tuag at Diabetes.Daeth Enlli Williams o Lanbedrog atom i roi sgwrs am glefyd siwgwr ac i son am ei bwriad o gychwyn clwb i blant sydd yn dioddef yma ym Mhen Llyn.

Rhodddwyd siec i Enlli gan blant yr ysgol a dymunwn y gorau i'r Clwb. Diolch I'r rhieni am eu cefnogaeth.

Cofiwch am ein Taith Gerdded yng nghwmni'r hanesydd lleol,John Dilwyn Williams ar y nos Fercher olaf ,Gorffennaf 13 eg.Croeso mawr i bawb!Bydd y daith yn cychwyn am 5.30.Cost fydd £5.00 i oedolion a chaiff y plant ymuno yn rhad ac am ddim.Bydd paned ar gael wedi'r daith a bydd yr elw tuag at Bwyllgor Apel Eisteddfod yr Urdd Eryri dros Bentreuchaf a Llwyndyrys.

Dymuna Ysgol Pentreuchaf wyliau haf hapus a braf i bawb!


BORE AGORED 08/07/11

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.


CYSTADLEUAETH CRICED YSGOLION GWYNEDD - 22 Mehefin 2011

tim criced Llongyfarchiadau i'r tim criced yng nghystadleuaeth Criced Ysgolion Gwynedd.

Llwyddodd y tim i drechu Ysgol Nefyn ac Ysgol Crud y Werin i ddod yn ail yn y grwp i Ysgol yr Eifl a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth drwy drechu Ysgol Cymerau yn y gem derfynol.
Da iawn chi blant!


MABOLGAMPAU 2011

Oherwydd ein methiant i gynnal y mabolgampau'r llynedd, penderfynwyd ceisio eu cynnal dydd Mercher nesaf, 29 Mehefin am 1:00 o'r gloch fel bod digon o amser yn weddill pe byddem yn cael tywydd gwlyb eto.

Yn anffodus, nid yw'r cae yn addas ar gyfer y mabolgampau eleni, ond serch hyn rydym am wneud ein gorau glas i gynnal y mabolgampau ar yr iard a'r cae bach am flwyddyn yma yn unig.

Bydd y plant yn eistedd yn eu llysoedd dan oruchwyliaeth. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau nad ydynt yn croesi at y man lle mae'r rhieni yn eistedd, a hefyd a fuasech cystal â derbyn eich plentyn ar ddiwedd y dydd am 3:30pm yn ôl yr arfer os gwelwch yn dda.

Mae dillad addas, digon o ddwr ac eli haul (gobeithio!) yn hanfodol ar gyfer y mabolgampau.

Os na fydd y tywydd yn ffafriol dydd Mercher nesaf, fe fyddwn yn symud ymlaen i'r diwrnod nesaf. Gall mabolgampau gael eu gohirio am nifer o resymau, yn amrywio o fod yn rhy wlyb i fod yn rhy boeth! Cynhelir asesiad risg ar y bore, a gwneir penderfyniad ar sail hynny. Gwyddom nad yw hyn bob amser yn hwylus i chi sydd yn trefnu amser oddi ar eich gwaith, ond fe wneir y penderfyniadau ar sail diogelwch ein disgyblion yn unig.


Taith Gerdded Wedi Ei Hail Drefnu

Eisteddfod Eryri 2012 - Apel Pentreuchaf a Llwyndyrys, 'Taith gerdded hanesyddol Pentreuchaf yng nghwmni John Dilwyn Williams':
Oherwydd y tywydd gwael nos Wener diwethaf, bu rhaid gohirio ein taith gerdded.
Rydym wedi ail-drefnu ar gyfer y 13 Gorffennaf 2011 am 5:30pm.
Cost - £5.00 i oedolion / plant am ddim. Dewch i gefnogi!! Diolch yn fawr.


owain

Llongyfarchiadau am gael ei ddewis i garfan tim rygbi Gogledd Cymru!


Dyddiadau Pwysig
Mehefin 7 fed-Croeso i bawb sydd a diddordeb yn ardal Pentreuchaf ddod i wrando ar sgwrs a lluniau gan yr Hanesydd poblogaidd John Dilwyn Williams yma yn Neuadd yr Ysgol am 7:00y.h. Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd noson gymunedol braf.Yna’r wythnos sydd yn dilyn bydd cyfle i ymuno a John Dilwyn ar daith o amgylch yr ardal , Nos Wener,Mehefin17 am £5.00. Bydd arian y noson yn mynd tuag at Bwyllgor Apel Pentreuchaf a Llwyndyrys tuag at Eisteddfod Eryri 2012.

Gŵyl Hirddydd Haf
Gorffennaf 1af- Noson o hwyl i ddathlu’r Haf yn yr ysgol i gychwyn am 5.30y.h .Bydd gennym stondinau,castell neidio,barbeciw a llu o gystadlaethau wedi eu paratoi !!Dewch yn llu!! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Carwn fel staff a phlant yr ysgol ddiolch i‘r gefnogaeth frwd a gafwyd yn ein cyfarfod diweddaraf o gyfeillion yr ysgol.
Diolch o waelod calon i’r Swyddogion –Gwenda fel Cadeirydd,Amanda fel Ysgrifenyddes a Beryl fel Trysorydd a chroeso mawr i Wendy,Eryl a Claire .


GWEITHGAREDDAU HANES LLEOL PENTREUCHAF
Nos Fawrth, Mehefin 7fed, am 7 o’r gloch, cynhelir noson yn neuadd yr ysgol gyda’r hanesydd lleol John Dilwyn Williams. Bydd yn dangos sleidiau o’r ardal, ac yn son am y gweithgaredd arall, sef Taith Gerdded , a gynhelir yn ardal Pentreuchaf, nos Wener, Mehefin 17eg. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Dosbarth Meithrin yn Plannu

Cliciwch yma i gael gweld y Dosbarth Meithrin wrthi yn brysur yn plannu!


Blwyddyn 6 ar ymweliad i Gaerdydd

stadiwm Hwre o'r stadiwm!
   

Yn y Senedd

Plant Ysgol Pentreuchaf, Nefyn a Sarn Bach yn cyfarfod yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn y Senedd bore ma.

Swyddogion y Cynulliad wedi "dotio" ar ymateb ac ymddygiad ein disgyblion. Da iawn chi blantos!

   
caerdydd

Cyfarchion o Gaerdydd!!

Bore dydd Mawrth 24 Mai 2011


Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Pentreuchaf

Cafwyd diwrnod i’w gofio ar ddiwrnod ein heisteddfod flynyddol a chystadlu brwd gan y tri llys-Mela,Carnguwch a Phemprys.Bydd y sgetsys,meimio a’r dweud jocs yn aros yn hir yn y cof lle’r oedd ambell i wyneb cyfarwydd yn eu mysg yn cynnwys Tony ac Aloma,y tri mochyn bach ac Elin Flur yn ei sodlau uchel.Wedi hwyl a sbri yn y bore cadeiriwyd y bardd buddugol yn y prynhawn gan yr archdderwydd ei hun yn ei benwisg godidog, a’r osgordd liwgar-un ac oll gydag enw barddol.Llongyfarchiadau mawr i Owain ap Myrddin am ennill model hardd o gadair gan dad Annest ac Osian.Carwn ddiolch i’n beirniaid –Sioned,Hafwen ac Ana sy’n gyn-ddisgyblion yr ysgol ac i Dewi Wyn am feirniadu’r ffotograffiaeth.Llongyfarchiadau mawr i Mela- y tim buddugol er ei bod yn dyn iawn rhwng y llysoedd.Edrychwn ymlaen i gyhoeddi ein heisteddfod nesaf!! Cliciwch yma i weld y lluniau.

Rimbojamio!
Aeth criw swnllyd ohonom gyda drymiau a bongos i’r marina ym Mhwllheli i Orymdaith yr Urdd .Braf oedd cael cerdded gydag ysgolion eraill yr ardal i’r dref ac i lond Capel Penlan i dreulio amser yn canu caneuon hwyliog y Rimbojam.Pnawn wrth ein boddau!

Rhywle draw dros yr Enfys!
Dyna lle aeth criw meithrin-Bl2 ddechrau Ebrill i Bantomeim gan Martin Geraint.Cafodd pawb hwyl yn Neuadd y Dref a phawb yn dod yn ol i wledd Tsieiniaidd gan Anti Sharon.Roedd y plant bach Meithrin yn llyfu eu gwefuasau wrth fwyta eu ‘prawn crackers’!!

Bingo!
Cafwyd noson dda o Fingo yng Nghlwb Rygbi Bodegroes gyda llawer yn ennill Wy Pasg iddo’i hun.Diolch yn fawr i’r rhieni a gefnogodd y noson.

Ffarwel!
Bu tair ffarwel fawr cyn gwyliau’r Pasg i dair disgybl yn yr ysgol.Cafwyd parti mawr i Megan,Lucy a Katie.Roedd Megan yn symud i fyw i Mynytho a’r ddwy chwaer fach yn symud ychydig yn bellach i Awstralia.Bydd chwith ar eich holau genod ond mi gadwn mewn cysylltiad drwy gyfrwng technoleg.Pob lwc i chi’ch tair!

Diolch!
Diolch yn fawr i Angharad (Frochas) a Ceri a dreuliodd wythnos o brofiad gwaith yma hefo ni.

Da iawn!
Da iawn i bawb a fu’n cystadlu mewn amryw o gystadlaethau dros Wyliau’r Pasg.Yn Sioe Nefyn bu Ffion Enlli yn ennill amrywiol gystadlaethau coginio ac Eleri yn dod yn ail ar ei chacen siocled,Rhys Tyddyn Cestyll hefo’i gi,Iwan Emlyn hefo’i waith coed .Bu amryw yn Eisteddfod y Ffor gan ennill gwobrau am ganu,llefaru ac ysgrifennu.Enillodd Sion Adams y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth Golff a dewiswyd Owain yn aelod o Dim Rygbi Gogledd Cymru a Rhys yn aelod o dim ‘League’ Pel Droed Gogledd Cymru.Arbennig iawn!

Cwis Llyfrau Cymru
Yn ein hymgais gyntaf fel ysgol i gystadlu daeth tim Bl 5 a 6 yn gydradd drydydd drwy Wynedd .Ardderchog yn wir.Edrych ymlaen i gymeryd rhan y flwyddyn nesaf yn awr.

Dawns i Bawb
Mae Bl 4 a 5 wedi cychwyn gwersi dawns bob prynhawn Iau.Dawns fydd hon am ofnau a theimladau.Rydym yn edrych ymlaen i bawb gael gweld ffrwyth eich llafur ar ddiwedd y cyfnod pan gaiff pob dosbarth ddod i weld y perfformiad yn y neuadd.

Gwibdaith Garddio
Gan ein bod yn bwriadu datblygu’n arddwyr yn yr ysgol –at bwy yn well i fynd am sgwrs na Russell Jones sy’n byw yn yr ardd! Wedi treulio bore braf yng ngerddi ac ar lwybrau Glynllifon ar helfa drysor (ac aros am grwp Anti Elin!!);aethom i fyny i ucheldir Rhosgadfan a chael hyd i Russell.Cawsom gynghorion ganddo ar sut i dyfu llysiau a ffrwythau o bob math.Roedd pawb wedi dotio ar ei batsh(ys! ) a gobeithio y cawn ninnau ychydig o flas y pridd ar ol chwysu yn yr ardd.Diolch o galon i Russell am ei groeso parod ac edrychwn ymlaen i’w wahodd yn ol atom yn fuan. Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cwrs Ffilmiau
Cafodd Bl 5 gyfle unigryw o fod yn rhan o weithdy ffilmiau gan Eilir Pierce sydd yn wneuthurwr a chynhyrchydd ffilm.Cafwyd gwybodaeth am iaith a hanes ffilm cyn cael y cyfle i recordio ffilm fer am zombies yn y dosbarth Ni wyddem o’r blaen fod deunydd dynes camera yn Sera a chyfarwyddwr manwl yn Sion! Cliciwch yma i weld y lluniau

Mustar Wipi
Daeth Mr Gwyndaf Jones at flwyddyn 4 a 5 i wneud hufen ia bnawn Llun,Mai 23 ain yn dilyn ein ymweliad a Chae’r Graig yn y Gwanwyn.Bu pawb yn gwrando’n astud ar y camau o wneud y pwdin a chael blasu ar y diwedd.Byddwn yn creu ein hufen ia ein hunain ar ol y gwyliau!! Cliciwch yma i weld y lluniau.

Croeso
Bydd Bl 6 yn mentro i Ddinas Caerdydd ddiwedd Mai ar drip gwerth chweil yng nghwmni plant Ysgol Sarn Bach ac Ysgol Nefyn.Braf oedd cael croesawu plant Nefyn i’r dosbarth cyn y trip i gael sgwrs am y Cynulliad gan Ann Williams. Cewch adroddiad manwl o’r trip yn y rhifyn nesaf o’r Llanw gan ddisgyblion Bl 6!!!(ac ambell i lun!)

Adran yr Urdd
Braf oedd cael cymeryd rhan yng Ngorymdaith Fawr yr Urdd i gyhoeddi’r Eisteddfod yng Nghaernarfon.Ymunodd Adran Pentreuchaf yng nghwmni cannoedd o blant i swn Samba Bangor yn ngwres braf yr haul gan ddiweddu yn y Castell i gyd-ganu.
Llongyfarchiadau mawr iawn i grwp genethod Bl 6 am ddod yn fuddugol yn Genedlaethol gyda chystadleuaeth Arteffactau Bl 6 ac iau.Fe fydd yn braf cael gweld eich gwaith yno!Mae Abertawe’n agosau ac felly’r ymarferion yn parhau.

Dyddiadau Pwysig
Mehefin 7 fed-Croeso i bawb sydd a diddordeb yn ardal Pentreuchaf ddod i wrando ar sgwrs a lluniau gan yr Hanesydd poblogaidd John Dilwyn Williams yma yn Neuadd yr Ysgol am 7:00y.h. Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd noson gymunedol braf.Yna’r wythnos sydd yn dilyn bydd cyfle i ymuno a John Dilwyn ar daith o amgylch yr ardal , Nos Wener,Mehefin17 am £5.00. Bydd arian y noson yn mynd tuag at Bwyllgor Apel Pentreuchaf a Llwyndyrys tuag at Eisteddfod Eryri 2012.

Gwyl Hirddydd Haf
Gorffennaf 1af- Noson o hwyl i ddathlu’r Haf yn yr ysgol i gychwyn am 5.30y.h .Bydd gennym stondinau,castell neidio,barbeciw a llu o gystadlaethau wedi eu paratoi !!Dewch yn llu!!
Carwn fel staff a phlant yr ysgol ddiolch i‘r gefnogaeth frwd a gafwyd yn ein cyfarfod diweddaraf o gyfeillion yr ysgol.
Diolch o waelod calon i’r Swyddogion –Gwenda fel Cadeirydd,Amanda fel Ysgrifenyddes a Beryl fel Trysorydd a chroeso mawr i Wendy,Eryl a Claire .


Llongyfarchiadau Mae tymor y babis yn parhau a chroesawn ddwy o genod bach eraill i’r byd! Croeso cynnes i Efa Non, merch fach Anti Llinos ac i Annest, merch fach Anti Julie. Mae Ani Fflur wedi bod draw yn ein gweld . Edrychwn ymlaen i’r ddwy fach yma ddod atom yn fuan.

Llongyfarchiadau hefyd i Adran Urdd Pentreuchaf. Erbyn hyn mae Eisteddfod Gylch a Sir wedi pasio gyda’r adran wedi gwneud yn ardderchog. Bydd yn cynrychioli’r sir gyda chystadleuaeth ensemble, parti cerdd dant a pharti unsain yn Abertawe. Bydd grwpiau ac unigolion yn cynrychioli’r adran gyda gwaith Celf a Chrefft yn ogystal. Pob lwc i bawb!

Croeso mawr i Anti Elin atom i’r ysgol. Mae eisioes yn brysur yn ein helpu tuag at ein Eisteddfod Ysgol sydd yn cael ei chynnal ddiwrnod Ffwl Ebrill.

Carai Blwyddyn 4 a 5 ddiolch o galon i holl rieni’r ysgol am eu cefnogaeth wrth gasglu arian yn ddiweddar tuag at adnoddau i’r dosbarth.O gynnal disgo,coginio crempogau(nes pery i’r larwm tan ganu!!!) ac enwi’r ddraig llwyddodd y dosbarth i gasglu bron i £200.Diolch yn fawr.

Diwrnod y Llyfr-
Cawsom ddiwrnod gwych wrth i Adran y Babanod gael cwmni Margiad Roberts a hanesion Tecwyn y tractor enwog. Bu gwrando ar stori,canu a thynnu lluniau drwy’r bore. Cafodd yr Adran Iau gwmni awdures ifanc leol –Casia Wiliam. Braf oedd gwrando arni yn datgan sut y denwyd hi at lyfrau a sut aeth ati i addasu llyfr poblogaidd iawn gan Michael Morpurgo-Y Ceffyl Rhyfel sy’n cael ei astudio yn yr ysgol. Daeth Myrddin at Flwyddyn 6 i farddoni.

Gyrru’r injan goch…-
Ffwrdd a dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 i lawr i’r orsaf dan i Bwllheli gan eu bod yn casglu ffeithiau am bobol sydd yn ein helpu. Mwynhawyd pnawn difyr iawn yng nghwmni diffoddwyr tan prysur.

Cawsom fore o ganu hwyliog gyda Edward Morus Jones a’i gitar.Mwynhaodd y plant a’r staff ymuno gyda Edward i ganu a dawnsio i hen ffefrynnau.

Daeth Cwmni’r Fran Wen i berfformio ‘Prydferth Fach’ yn y neuadd. Gwrandodd y plant yn astud ar y gorila a’i drafferthion.

Ffermwyr-
Bu dosbarth Bl 4 a 5 draw i Gae Graig ar ddiwrnod braf iawn o Wanwyn i brofi bywyd ar y fferm a dyddiadur prysur y ffermwr adeg wyna.Cawsom groeso cynnes gan Mr Gwyndaf Jones gan dreulio diwrnod llawn gweithgareddau difyr o godi wal gerrig i enwi caeau.Edrychwn ymlaen i Mr Jones ddychwelyd i’r ysgol i wneud hufen ia hefo ni dymor poeth yr haf.

Gan fod cymaint o gwestiynau gan y dosbarth am gadw moch gwahoddwyd Ela Roberts o gwmni Oinc Oink atom i’w hateb.Diolch Ela am rannu dy arbenigedd a chael gwybod mwy am y mochyn a’i gynnyrch.

Ar dy feic-
Mae tymor y beicio wedi cyrraedd ac mae Bl 6 yn dysgu sgiliau er mwyn ennill tystysgrif seiclo arbennig.

Plannu, plannu, plannu-
Fel mae’r dydd yn ymestyn braf ydi cael mynd allan i’r ardd a dyna’n union mae Bl 6 wedi bod yn ei wneud gyda chymorth Joni sydd yn riant yn yr ysgol. Diolch iddo ac i’r dosbarth -bydd yr ysgol yn cael budd mawr o dyfu blodau, llysiau a ffrwythau .Mae Llinos a Huw(Bl 5) wedi cymeryd cyfrifoldeb dros blannu mefus a bydd plantos meithrin a derbyn yn plannu hadau’n fuan gan obeithio bydd gan pob dosbarth batsh i ofalu amdano a mwynhau allan yn yr ardd.


Carthen Wlân

Anti Beryl

Erbyn hyn mae gan Blwyddyn 4 a 5 garthen wlân liwgar i’w harddangos yn yr ysgol.Roedd y dosbarth wedi cynllunio carthen er mwyn ei harddangos yn nghornel ddarllen ein dosbarth newydd.

Carwn fel dosbarth ddiolch o galon i Anti Beryl, Sychnant am roi ei phnawniau Iau ers dau dymor a sicrhau fod pawb o’r plant wedi cael gwau un sgwaryn i’r garthen. Cymerodd y bechgyn ddiddordeb mawr a braf oedd eu gweld yn dysgu sgil newydd! Felly os am bar o sana…….


Tymor y babis!
Llongyfarchiadau mawr i Fflur ac Owain ar ddod yn dad a mam i Anni Fflur. Croeso mawr iddi ac edrychwn ymlaen i’w gweld yn dod i’r ysgol i’n gweld!Dymunwn yn dda i Anti Julie ac Anti Llinos sydd hwythau ar eu cyfnod mamolaeth .Croesawn Anti Angharad ac Anti Wendy atom dros y cyfnod.

Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i Anti Caren sydd newydd ei phenodi yn gymhorthydd Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Y Gorlan,Tremadog.Dymunwn pob llwyddiant iddi fel staff a phlant yr ysgol.

Ymweliad Peredur
Yn dilyn ymweliad Bl 2 a 3 i Fferm Plas Newydd daeth Peredur i ymweld a’r dosbarth i arddangos y cynnyrch llaeth ddaw o’r Hufenfa yn Rhyd y Gwystl.Mwynhaodd pawb ddysgu am daith y llefrith o’r parlwr godro i’r ffatri ac am weld y gwahanol gynhyrchion.Diolch yn fawr Peredur.


Gwalltiau Gwirion
Roedd gwalltiau gwirion iawn i’w gweld os oeddech yn pasio iard yr ysgol ddydd Gwener cyn yr hanner tymor.Syniad bechgyn blwyddyn 4 oedd chwistrellu gwalltiau yn liwiau lu i gasglu arian i’r dosbarth.Syniad genethod Bl 4 oedd cynnal disgo yn y prynhawn a phawb mewn dillad gweddus.Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau!


Diwrnod y Llyfr
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr daeth Catherine Aran i ddosbarth Mrs Humphreys.Mae’r dosbarth wedi bod yn astudio un o’i llyfrau-Idris y Cawr.Cawsom y profiad prin ohoni’n darllen ei gwaith ei hun gan gwblhau y stori i ni.Ni chlywyd pin yn disgyn wrth iddi adrodd stori am gawr arall oedd yn byw ar yr Wyddfa .Clywyd chwerthin ag ochneidio wrth iddi ddangos ei dawn o leisio a chymeriadu!


Dydd Gwyl Dewi Sant
Byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Ddewi trwy wahodd pensiynwyr yr ardal i fwynhau lobsgows ac ambell i gan gyda’r plant wedi gwisgo ar gyfer y diwrnod.


Llogyfarchiadau i dim yr ysgol!
Cafwyd buddugoliaeth yn ein gem ddiweddaraf o bel droed yn erbyn Ysgol yr Eifl yn Nhrefor gyda sgor o 4 i 2 gol.


Blwyddyn 2 a 3 ar ymweliad

ymweliad Llwyndyrys ymweliad Llwyndyrys Ymweliad Llwyndyrys

ymweliad Llwyndyrys
Wrth ddilyn thema ‘Pobol sy’n ein helpu’ ymwelodd Bl 2 a 3 a rhai ohonynt yn eu hardal eu hunain.Yn gyntaf cafwyd croeso yn swyddfa a gweithdy Myrddin yn Ysgubor Plas, Llwyndyrys. Aeth Myrddin drwy’r camau a’r broses o sut i fynd ati i roi llyfr wrth ei gilydd.Mwynhaodd y plant yn fawr a diolch i Myrddin a Llio am eu croeso a’u bisgedi! Cafwyd cyflwyniad diddorol o’r ymweliad i ddosbarth Bl 4 a 5 gan Cynwal,Osian,Lewis a Lleu.

Yna ymlaen ar hyd y ffordd i Fferm Plas Newydd, Llwyndyrys a derbyn croeso eto gan Dyfed a Llinos. Gwelwyd y gwaith godro sydd yn digwydd yno ac ymweliad y tancar llaeth a hyd yn oed y gwaith o dorri ewinedd gwartheg! Rhoddwyd bwyd i’r lloeau bach cyn ffarwelio. Bore ardderchog ar ein stepen drws!


CROESO!

Daeth Angharad o gylchgrawn Cip i ddosbarth Bl 4 a 5 i adrodd tipyn o hanes y cylchgrawn. Diddorol iawn oedd gweld y copi cyntaf o Gymru’r Plant a sut mae copiau o gylchgronau’r Urdd wedi newid ers y blynyddoedd cychwynnol. Dangosodd Angharad y camau mae hi’n gymeryd i ysgrifennu’r cylchgrawn, ei osod yn daclus a’i argraffu. Cafodd pawb galendar lliwgar a holiadur difyr i’w lenwi ac enillodd Beca Elen wobr.

Braf oedd cael croesawu cyn riant a llywodraethwr i’r ysgol sef Gwilym Griffith, Plas Isaf, Llwyndyrys neu Gwilym Plas. Daeth i ddosbarth Bl 6 i adrodd hanesion a dangos sleidiau o’i ymweliad a Phatagonia.Mwynhaodd y dosbarth yn fawr yn ei gwmni.

Cafodd y dosbarthiadau ieuengaf gwmni Iolo Wyn Jones am bythefnos o brofiad gwaith fel myfyriwr dysgu. Roedd yn chwith mawr ganddynt ei weld yn mynd a chofia ddod yn ol Iolo.

Croesewir Dylan Roberts atom fel athro y tymor yma. Bydd Ms Fflur Williams yn cymeryd hoe dros ei chyfnod mamolaeth.

Cafwyd gem bel-droed a phel-rwyd yn erbyn Ysgol Llangybi ddechrau Chwefror.Roedd hi’n gem dda a’r plant yn mwynhau gweithio fel tim gydag andros o reffari penigamp !!!!


LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchiadau! i Greta a Math am ennill Pecyn Nadolig Cyw yn rhifyn mis Ionawr o’r cylchgrawn. Roedd Greta wedi tynnu llun o’i chwningen a’i chwt, a Math wedi tynnu llun da iawn o Rapsgaliwn.

Llongyfarchiadau hefyd i Owain sydd yn gwneud yn dda iawn yn Nhim Rygbi Eryri. Cafwyd buddugoliaeth ddiwedd Ionawr yn y Rhondda gyda sgor o 15 - 12 i Eryri.


GLAN LLYN

Glan Llyn Aeth dau ar bymtheg o Fl 4 a 5 ar antur ychydig bach yn bellach yng nghwmni deuddeg ffrind newydd o Ysgol Felinheli am wersyll Glan LLyn.Wedi cychwyn am 7.30 fore Llun-braf oedd cyrraedd i ddeuddydd heulog yn Llanuwchllyn a Llyn Tegid fel gwydr.

Ymysg y gweithgareddau poblogaidd roedd y canwio, cwrs rhaffau uchel a’r disgynnydd, a’r gwylltgrefft oedd yn dysgu sgiliau cynnau tan wrth wersylla,rhostio malws melys a berwi dwr i wneud siocled poeth. Roedd o’n dda mewn tipi rhewllyd!

Roedd ambell un yn cysgu’n braf ar y ffordd adref y pnawn canlynol oedd yn arwydd o gyffro a blinder ar ol profiadau bythgofiadwy, sgwrsio di-baid ac ychydig o ddanteithion mewn sachau cysgu!
Glan Llyn- mi fyddwn yn ein holau!!!


Y FARI LWYD

Ymwelodd y Fari Lwyd a gwasanaeth arbennig a drefnwyd i ddathlu’r Hen Galan fore Ionawr 14. Cymerodd y dosbarthiadau i gyd ran wrth berfformio ‘r hen benillion. Cafwyd ychydig o hanes Mrs Jones yn dilyn traddodiad pan yn hogan fach yn y Sowth a diolch i Anti Heulwen a Mrs Richards am ddod a’r Fari’n fyw! Carwn fel ysgol yn blant a staff ddymuno blwyddyn newydd dda hwyrol i bawb
.
Diolch i Nia Williams am gynnal gwasanaeth ar ddechrau’r flwyddyn.Mae hi bob amser yn braf ei chroesawu atom heb anghofio Lewis.


CASGLIAD

Casglwyd £350 tuag at Dy Gobaith yng nghyfarfod Nadolig y plant a charwn ddiolch i rieni,perthnasau a llywodraethwyr a gefnogodd y plant a’r achos.


Cysylltu

Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ

(01758) 750600
pennaeth@pentreuchaf.ysgoliongwynedd.cymru