‘Gallwn roi dau beth pwysig i’n plant: un yw gwreiddiau a’r llall yw adenydd’

image

 

 

 

 

 

 

Adroddiad Estyn

Cynhaliwyd arolygiad o Ysgol Pentreuchaf yn ystod Ebrill 2019

"Mae ethos Cymreig cryf iawn yn bodoli yn yr ysgol. Mae’r ddarpariaeth yn hybu’r disgyblion i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae disgyblion yn dangos balchder tuag at yr iaith a gwerthfawrogiad amlwg o ddiwylliant a hanes yr ardal leol. Yn ystod eu cyfnod yno, mae rhan fwyaf ohonynt yn datblygu’n ddysgwyr dwyieithog cymwys a hyderus ac yn gwneud cynnydd da.

Mae staff yn creu ethos hapus, gofalgar a chynhwysol yn yr ysgol, sy’n meithrin awyrgylch dysgu cefnogol i’r disgyblion. Mae’r athrawon yn darparu profiadau dysgu diddorol i’r disgyblion, sy’n bodloni anghenion y rhan fwyaf ohonynt. O ganlyniad, mae’r disgyblion yn hapus i’w mynychu, gyda’r rhan fwyaf yn ymddwyn yn dda ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu. Maent yn dangos parch tuag at eu cyfoedion, staff ac ymwelwyr ac yn ymfalchïo yn eu hysgol.

Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth effeithiol sy’n rhoi cyfeiriad strategol clir i’r ysgol. Mae’r staff yn ymroddedig a brwdfrydig ac yn dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo gwelliannau parhaus a chynaliadwy. Mae gan y llywodraethwyr ddealltwriaeth gadarn o’r ysgol ac maent yn defnyddio eu gwybodaeth yn bwrpasol i herio a dwyn yr ysgol i gyfrif am safonau."

Dilynwch y linc i ddarllen yr Adroddiad - cliciwch yma


Cynhaliwyd arolygiad o Ysgol Pentreuchaf yn ystod Medi 2012

"Mae perfformiad presennol yr ysgol yn dda oherwydd bod:

  • bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da mewn dysgu ac yn eu medrau llythrennedd a chyfathrebu;
  • cyflawniad disgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn cymharu'n dda â pherfformiad ysgolion tebyg sydd o'r un teulu;
  • llais y disgybl yn cael lle blaenllaw ym mywyd yr ysgol;
  • ansawdd y profiadau dysgu gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau, yn gyson dda;
  • y rhan fwyaf o’r addysgu yn dda ac yn rhoi cyfleoedd cyson i ddisgyblion gymryd cyfrifoldeb am eu gwaith eu hunain;
  • y rhaglen ar gyfer cwnsela a chefnogi disgyblion unigol yn rhagorol; a bod
  • yr ysgol yn gymuned hapus a chynhwysol."

Cliciwch yma i ddarllen yr Adroddiad