‘Gallwn roi dau beth pwysig i’n plant: un yw gwreiddiau a’r llall yw adenydd’

image

 

 

 

 

 

 

Newyddion Diweddaraf

Calendr Tymor y Gwanwyn 2024

poster diolch yn fawr

DIOLCH YN FAWR

24.07.23

Diolch o galon am eich cefnogaeth a’ch cyfeillgarwch drwy gydol y flwyddyn! Diolch hefyd am eich rhoddion caredig ar ddiwedd y tymor.

Rydym yn lwcus iawn o’n rhieni, plant a staff!

Edrychwn ymlaen i weld pawb eto ar ddydd Mawrth, Medi’r 5ed.

Mwynhewch y gwyliau Haf!

poster diolch yn fawr

YMGARTREFU I YSGOL GLAN Y MOR

03.07.23

Pob lwc i griw Blwyddyn 6 sy'n mynd am ddau ddiwrnod ymgartrefu i Ysgol Glan y Môr yfory a dydd Mercher. Mwynhewch!

Pob Lwc Blwyddyn 6

NEGES IECHYD A DIOGELWCH

23.06.23

Gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio'r mannau parcio dynodedig yn unig wrth gasglu a gollwng eich plentyn/plant os gwelwch yn dda. Ni ddylid parcio ar draws y canol ar unrhyw adeg. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.

poster dim parcio ar draws canol y maes parcio

MABOLGAMPAU 2023

22.06.23

P'nawn Iau 29/06/23
Mae croeso i chi ddod â chadair neu flanced hefo chi i wylio'r plantos!

*Tywydd yn caniatau

poster MABOLGAMPAU 2023

Cyngerdd Paned a Chân yr Urdd 2023

22.05.23

Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth draw wythnos yma i’r cyngerdd Paned a Chân! Braf iawn oedd gweld y neuadd yn llawn!

£190 o bunnoedd wedi cael ei gasglu i gefnogi’r plantos fydd yn cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri dros hanner tymor! Diolch o galon am bob cyfraniad!

Plant mewn fram mynd fel y gwynt i tynnu llun

Stondin Gacennau

16.05.23

Mae'r Cyngor Ysgol wedi trefnu stondin gacennau ar ddydd Gwener, Mai 26ain er mwyn casglu arian ar gyfer y criw sydd yn mynd i gynrychioli'r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri. Bydd croeso i'r plant i gyd wisgo eu dillad eu hunain ar y diwrnod hefyd!

Poster Stondin Cacennau

Paned a Chân

16.05.23

Paned a Chân yn Neuadd yr ysgol nos Fercher yma 17/06/23 6-7pm er mwyn casglu arian tuag at aelodau'r Urdd fydd yn teithio i Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri!

Poster Paned a Chan

Gwobr Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd 2023

11.05.23

Llongyfarchiadau mawr iawn i Huw a Meinir (Blwyddyn 6) sydd wedi ennill Gwobr Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd 2023 draw ym Mhenrhyndeudraeth heddiw.

Da iawn chi am eich gwaith caled!

  • Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Dwyfor 2023 gyda ei gwobr
  • Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Dwyfor 2023
  • Dwyfor Junior Road Safety Officers 2023 holding there certificateSwyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Dwyfor 2023 gyda ei tystysgrif
  • Swyddogion Iau Diogelwch y Ffyrdd Dwyfor 2023 gyda poster

Eisteddfod Y Urdd

09.05.23

Da iawn i Ifan am ddod yn 1af yn y gystadleuaeth Ffotograffiaeth Bl.5/6

Eisteddfod Y Urdd

Cysylltu

Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ

(01758) 750600
pennaeth@pentreuchaf.ysgoliongwynedd.cymru