Darllen 'da fi Mae'r wefan hon yn llawn syniadau i helpu eich plentyn ddarllen a mwynhau llyfrau. Mae ar gyfer rhieni ac oedolion eraill sy'n barod i dreulio amser i rannu llyfrau a storiau gyda'u plant . Dyma rai o'r manylion allweddol .... "Byddwch yn esiampl da drwy ddarllen papurau newydd, cylchgronnau a nofelau eich hun. Cofiwch fod plant yn mwynhau copio oedolion! Canolbwyntiwch ar y pethau cywir yn hytrach na beirniadu agweddau gwan. Os yw'r stori yn rhy anodd rhowch darn yn haws i'ch plentyn." "Nid dim ond cyn cysgu mae plant yn hoffi darllen - darllenwch yn y bath, yn y parc neu ar y bws. Darllenwch lyfrau mae eich plentyn eisiau eu darllen. Cofiwch i beidio gorfodi eich plentyn i ddarllen a gorffenwch pan mae'r plentyn eisiau gorffen." Cliciwch yma am linc i gemau i'ch plant chwarae i hybu darllen. |
Darllen yn well "Mae’n bywydau ni gyd yn brysur, ond mae treulio deng munud yn darllen gyda’ch plentyn yn eu helpu nhw i ddod fewn i’r arfer o ddarllen am hwyl." Mae fideos gan arwyr o'r byd chwaraeon ar y wefan hon. Cliciwch yma i'w gweld ac i gael syniadau i helpu eich plentyn. |
Dyma fwy o linciau defnyddiol:- Cyngor Llyfrau Cymru - Gwybodaeth am lyfrau Cymraeg i blant a llyfrau Saesneg o Gymru Cbeebies - Cyngor a gwybodaeth ynglyn â datblygiad iaith a helpu plant i ddarllen Literacy Trust - Gwefan yn cynnig cyngor am ddarllen gyda phlant o wahanol oedran ac am dewis llyfrau a rhestr o ddolenni cyswllt defnyddiol Top marks - Cyngor ynglyn â gwrando ar eich plentyn yn darllen Booktrust - yn cynnig cyngor ar rannu llyfrau ac ystod eang o restrau llyfrau ar gyfer plant o bob oedran Ffederasiwn Grwpiau Llyfrau Plant - gall roi rhestrau llyfrau am ddim |
- Gwaith Cartref
- Dosbarthiadau
- Hybu Darllen
- Adran yr Urdd Pentreuchaf
- Gwe-Gampau
- Wal Fideos
- Cyngor Eco
- Cyngor Ysgol
Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ
(01758) 750600
pennaeth@pentreuchaf.ysgoliongwynedd.cymru