TREFN DIOGELU PLANT
Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yn mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Berson Dynodedig Diogelu yr Ysgol.
Gall Person Dynodedig Diogelu yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogytal ag asiantaethau perthnasol megis Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i Berson Dynodedig Diogelu yr Ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.
Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Y Pennaeth yw Person Dynodedig Diogelu yr Ysgol.
CANLLAWIAU AMDDIFFYN PLANT YR YSGOL
Fel rhan o’r gyfundrefn amddiffyn plant, mae gan athrawon a staff
ategol yr ysgol hon ddyletswydd i adnabod arwyddion o
gamdriniaeth neu esgeleustod posibl a chyfeirio’u pryderon at y personau cyfrifol yn yr ysgol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn syth.
Pryderu am blentyn
Cysylltwch â’r isod os ydych yn pryderu bod plentyn yn dioddef niwed neu esgeulustod neu’n cael ei gam-drin. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ymchwilio a gweithredu i warchod y plentyn, cynnig cefnogaeth a chyngor i helpu teuleuoedd i gael cymorth angenrheidiol.
NEU
Drwy’r Tim Cyfeiriadau Plant, Gwasanaethau
Cymdeithasol
01758704455 (9:00—17:00, Llun-Gwener)
Ffôn tu allan i oriau: 01248 353551 (unrhyw amser arall ac ar Wyl y Banc)
E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.gov.uk
Dylid cysylltu gyda’r person cyswllt yn yr awdurdod os oes honiadau sydd yn ymwneud ag amddiffyn plant yn gysylltiedig â’r pennaeth.
- Gwybodaeth
- Cinio Ysgol/Clwb Brecwast
- Ysgol Iach
- Taith Weledol
- Adroddiad Estyn
- Siarter Iaith
- Polisiau
- Llywodraethwyr
- Cwricwlwm i Gymru
- Calendr
- Diogelu
- E-Ddiogelwch
- Rhaglen Teithiau Iach
Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ
(01758) 750600
pennaeth@pentreuchaf.ysgoliongwynedd.cymru