Falch o gyhoeddi bod Ysgol Pentreuchaf wedi cael ei dewis fel un o ysgolion newydd Teithiau Iach Sustrans eleni.
16/09/24 - Sesiynau Seiclo Blwyddyn 3
14/10/24 - Gwersi Sgwter Ysgol Gyfan
05/12/24 - Diwrnod Gwisgo'n Llachar
14/02/25 - Caru eich Beic neu Sgwter
17/03/25 - Sesiynau Carys Ofalus a Kerbcraft
24/03/25 - Stroliwch a Roliwch 2025
03/04/25 - Ymweliad Dr Beic
30/04/25 - Sesiwn Diogelwch y Ffyrdd Blwyddyn 6
12/05/25 - Wythnos Cerdded i'r Ysgol
24 Mawrth - 4 Ebril 2025
Mae gennym newyddion cyffrous i chi! Rydym yn cymryd rhan yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans, yr her cerdded, olwyno, sgwtera a beicio fwyaf rhwng ysgolion y Deyrnas Unedig.
Cynhelir yr her rhwng 24 Mawrth- 4 Ebrill. Ni chodir tâl am gymryd rhan a hoffem pe bai pawb yn cymryd rhan.
Llythyr Stroliwch a Roliwch i Rieni (PDF)
Mae'r Tîm Teithiau Iach wedi trefnu 'Diwrnod Gwisgo'n Llachar' ar ddydd Iau, Rhagfyr 5ed er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r pwysigrwydd o wisgo'n llachar a defnyddio goleuadau wrth gerdded, sgwtera neu feicio yn y nos, yn enwedig yn ystod misoedd yr Hydref a'r Gaeaf. Mae croeso i holl blant yr ysgol wisgo dillad lliwgar neu lachar yn ogystal â goleuadau ac eitemau adlewyrchol os ydynt yn dymuno!
Orig, Gruff, Martha ac Hari
Cyfle i chi ddod a'ch beic neu sgŵter i'r ysgol i'w lanhau a dangos ychydig o gariad ato ar ol y misoedd Gaeaf hir. Bydd cyfle i'w reidio o gwmpas y trac yn ystod y dydd hefyd.
Mae'r Tîm Teithiau Iach wedi trefnu cyfle i'r plant ddod a'u beics neu sgwter i'r ysgol ar ddydd Sant Ffolant fel rhan o'r Rhaglen Teithiau Iach Sustrans 24-25.
Dydd Gwener, Chwefror 14
Rwy’n falch o gyhoeddi bod Ysgol Pentreuchaf wedi cael ei dewis fel un o ysgolion newydd Teithiau Iach Sustrans eleni. O hyn ymlaen, byddaf i a’r ysgol yn annog eich plentyn i deithio’n iach i’r ysgol (ac yn yr ysgol) drwy gerdded, olwynio, sgwtera neu seiclo, er lles eu hiechyd a’r amgylchedd. Byddwn yn creu cyfleoedd i rieni / gofalwyr roi cynnig arni hefyd!
Cynllun Ysgol Teithio Llesol Ysgol Pentreuchaf 2024-2025 (PDF)
- Gwybodaeth
- Cinio Ysgol/Clwb Brecwast
- Ysgol Iach
- Taith Weledol
- Adroddiad Estyn
- Siarter Iaith
- Polisiau
- Llywodraethwyr
- Cwricwlwm i Gymru
- Calendr
- Diogelu
- E-Ddiogelwch
- Rhaglen Teithiau Iach
Ysgol Pentreuchaf
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8DZ
(01758) 750600
pennaeth@pentreuchaf.ysgoliongwynedd.cymru