‘Gallwn roi dau beth pwysig i’n plant: un yw gwreiddiau a’r llall yw adenydd’

image

 

 

 

 

 

 

Cyngor Ysgol


Yn Ysgol Pentreuchaf, mae gan bob dosbarth bedwar cynrychiolydd ar ein Cyngor Ysgol. Rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod gwahanol ffyrdd y gallwn wella ein hysgol. Rydym hefyd yn cynnig syniadau sut i godi arian ar gyfer elusennau ac ar gyfer yr ysgol.

Etholir aelodau’r Cyngor Ysgol bob blwyddyn yn dilyn pleidlais dosbarth. Mae disgyblion sy’n dymuno cynrychioli’r ysgol ar y Cyngor Ysgol yn cyflwyno eu maniffesto i weddill y dosbarth ac yn cynnig eu hunain i’w henwebu. Yna cynhelir etholiadau a chyhoeddir y canlyniadau mewn gwasanaeth arbennig.

Bydd aelodau'r Cyngor Ysgol yn cyfarfod sawl tro yn ystod y tymor er mwyn trafod barn a syniadau ein disgyblion yn Ysgol Pentreuchaf. Yna, caiff y trafodaethau hyn eu bwydo'n ôl i weddill yr ysgol trwy'r dudalen gwefan hon, trafodaethau ystafell ddosbarth, gwasanaethau a hysbysfwrdd y Cyngor Ysgol.

Anti Catrin ac Anti Alaw sy’n cefnogi ni ar y Cyngor ac mae nhw’n helpu ni i rannu ein syniadau gyda gweddill y staff.

Os ydych chi'n blentyn sy'n mynd i Ysgol Pentreuchaf, gallwch gyflwyno'ch awgrymiadau ar sut i wella ein hysgol ni mewn sawl ffordd, gan gynnwys ysgrifennu syniad ar ddarn o bapur a'i bostio yn y Blwch Syniadau neu sganio’r Côd QR ar yr hysbysfwrdd.

Ond yn bwysicach byth...

Os oes angen unrhyw beth, neu os ydych am awgrymu newidiadau a mynegi eich barn, dywedwch wrth eich cynrychiolydd dosbarth.

MAE’R CYNGOR YSGOL YMA I’CH HELPU CHI GYD!

Dyma prif swyddogaethau ein Cyngor Ysgol:

  • Llais i holl blant yr ysgol.
  • Cynnig awgrymiadau ar gyfer gwella'r ysgol.
  • Trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau a’r ysgol.
  • Cynrychioli’r ysgol yn gyhoeddus os oes angen.
  • Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol.
  • Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau.
  • Trafod syniadau newydd.
  • Sicrhau bod ein hysgol yn lle hapus a diogel i'n holl ddisgyblion.
  • Cyfarfod yn rheolaidd i drafod eu barn a chael eu clywed.
  • Bod yn fodelau rôl da i'w cyfoedion.

Aelodau Cyngor Ysgol 2024-25

  • Aelodau Cyngor Ysgol Dosbarth Gors Goch
  • Aelodau Cyngor Ysgol Dosbarth Tre'r Ceiri
  • Aelodau Cyngor Ysgol Dosbarth Yr Eifl

Blaenoriaethau

Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2024 - 2025

  1. Gwella’r offer sydd ar gael i’r plant yn ystod amser chwarae a cinio.
  2. Codi arian tuag at elusennau.
  3. Codi arian er mwyn gwella yr ardal chwarae ar gae yr ysgol (tŵr chwarae hefo llithren)
Cynllun Datblygu Cyngor Ysgol 2024-25

Gweithgareddau

  • Plant wedi gwisgo i fynu fel cymeriadau o lyfr
  • Dau plentyn wedi gwisgo i fynu ar gyfer Disgo Calan Gaeaf
  • Dau plentyn yn gwysgo coch ac yn edrych ar fwydydd coch

Lluniau Diwrnod Trwynau Coch 2025

Lluniau o’r plant ar Ddiwrnod Trwynau Coch

  • Diwrnod Trwynau Coch, Dydd Gwener 21ain o Fawrth. Cyfrannu £1

Diwrnod Trwynau Coch 2025

Dydd Gwener, Mawrth 21ain

Gwisgo Dillad Coch!
Blasu Bwydydd Coch!
Cyfle i'r plant rannu jocs yn y gwasanaeth.
Cyfrannu £1

Gwybodaeth

Y Cyngor Ysgol Pentreuchaf 2024-2025